Esay 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.Esay yn dangos ei alwedigaeth, 9 Cyndynrwydd y bobl, 11 Dinistr y wlâd. 13 Am y gweddill a ddiango.

1Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Uziah y gwelais hefyd yr Arglwydd yn eistedd ar eisteddfa vchel, dderchafedic: ai odrau ef yn llenwi y deml.

2Y seraphiaid oeddynt yn sefyll oddi ar hynny: chwech aden ydoedd i bôb vn: â dwy y toe ei wyneb, ac â dwy y toe ei draed, ac â dwy yr eheda.

3A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd: Sanct, Sanct, Sanct yw Arglwydd y lluoedd, yr holl ddaiar sydd lawn oi ogoniant ef.

4A physt y rhiniogau a symmudasant gan y llef yn llefain, a’r tŷ a lawnwyd gan fŵg.

5Yna y dywedais, gwae fi, canys darfu am danaf, o herwydd gŵr halogedig wefusau ac ym mysc pobl halogedic o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin Arglwydd y lluoedd.

6Yna yr ehedodd attaf vn o’r Seraphiaid, ac yn ei law farworyn yr hwn a gymmerase efe oddi ar yr allor mewn gefail.

7Ac efe a gyffyrddodd a’m genau, ac a ddywedodd, wele cyffyrddodd hwn a’th wefusau, fel yr ymadawo dy anwiredd, a glanhauir dy bechod.

8Clywais hefyd lêf yr Arglwydd yn dywedyd: pwy a anfonaf? a phwy a aiff trosom ni? yna y dywedais, (wele fi) anfon fi.

9Ac efe a ddywedodd, dôs, a dywet wrth y bobl hyn: Mat.13.14.|MAT 13:14. act.28.26.|ACT 28:26. rhufei 11.8gan glywed clywch, ond ni ddeallwch; a chan weled y gwelwch, ond nis gwybyddwch.

10Brassha galon y bobl hyn, a thrymha eu clustiau, a chaea di eu llygaid: rhag iddynt weled ai llygaid, a chlywed ai clustiau, a deall ai calon, a dychwelyd, ai meddyginiaethu.

11A dywedais, hyd pa hyd Arglwydd? ac efe a attebodd, hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannudd, a’r tai heb ddŷn, a gwneuthur y wlâd yn ddiffaethwch.

12A’r Arglwydd bellhâ ddynion, a dinistr mawr yng-hanol y wlâd.

13Ac etto ynddi ddegymmiad, a hi a ddychwel, yna y bydd yn ddifrod: yr hâd sanctaidd ei hattaliaeth hi, fel y llwyfen a’r dderwen y rhai wrth fwriad eu sylwedd ynddynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help