Gweledigaeth Ioan 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.1 Y pummed a’r chweched angel yn cânu eu y hudcyrn y seren yn syrthio o’r nêf. 3 Y locustau yn dyfod allan o’r mwg. 11 Bôd y Gwae cyntaf wedi myned 551 heibio. 14 Darfod gollwng yn rhydd y pedwar angel a oeddynt yn rhwym. 18 A llâdd traian y dynion.

1A’r pummed angel a ganodd vdcorn, ac mi a welais seren yn syrthio o’r nêf i’r ddaiar, ac iddo ef y rhoddwyd agoriad y pwll heb waeod.

2Ac efe a agorodd y pwll heb waelod, a mwg a gyfododd o’r pwll, fel mŵg ffwrn fawr, a’r haul, a’r awyr a dywyllwyd gan fŵg y pwll.

3A locustiaid a ddaethant ar y ddaiar o’r mŵg allan, a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gan scorpionau’r ddaiar awdurdod.

4A dywedwyd wrthynt, na wnaent niwed i wellt y ddaiar, na dim glâs, nac i vn pren, ond yn vnic i’r dynion y rhai oeddynt heb sêl Duw yn eu talcennau.

5A a roed iddynt na laddent. y rhai hynny, ond iddynt eu blino hwynt bummîs, a bôd gofid iddynt fel y gofid a fydde o waith scorpion, pan ddarfydde iddi frathu dŷn.

6Ac yn y dyddiau hynny Esay.2,19.|ISA 2:19. hose.10.8.|HOS 10:8. luc.23.30.|LUK 23:30. 6.16.|LUK 6:16. doethin.16.9.dynion a geisiant farwolaeth, ac ni chaffant, ac a chwennychant feirw, a marwolaeth a gilia oddi wrthynt.

7A llun y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratôi i ryfel, ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a’u hwynebau oeddynt debyg i ddynion.

8A gwallt oedd ganddynt, fel gwallt gwragedd, a’u dannedd oeddynt fel dannedd llewod.

9Ac yr oedd ganddynt lurigau, fel llurigau haiarn, a llais eu hadenydd oedd debyg i lais cerbydau pan rede llawer o feirch i ryfel.

10A chynffonnau oedd iddynt fel i scorpionau, ac yn eu cynffonnau yr oedd conynau, a’u hawdurdod hwynt oedd i ddrygu dynion bummis.

11Ac y mae ganddynt frenin arnynt yr hwn ydyw angel y pwll heb waelod, a’i henw ef yn Ebriw ydyw Abad-don, ac yn Roeg efe a henwir Apolyon

12Un gwae a aeth heibio, ac wele, y mae dwy-wae yn dyfod wedi hyn.

13A’r chweched angel a ganodd yr vdcorn, ac mi a glywais lais oddi wrth bedair congl yr allor aur, yr hon sydd ger bron Duw,

14Yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd a’r vdcorn ganddo, gollwng y pedwar angel, y rhai ydynt yn rhwym yn yr âfon Euphrates.

15A’r pedwar angel a ollyngwyd, y rhai a baratoasid erbyn awr, erbyn diwrnod, erbyn mis, ac erbyn blwyddyn, i lâdd traian y dynion.

16A rhif gwŷr meirch y rhyfel, oedd dwy fyrddiwn, canys mi a glywais eu rhîf hwynt.

17Ac fel hyn y gwelais i y meirch mewn gweledigaeth, ac yr ydoedd gan y rhai oeddynt yn eistedd arnynt, lurigau tanllyd, a rhuddion, ac o liw brwmstan, a phennau’r meirch oeddent megis pennau llewod, ac yr oedd yn myned allan o’u genau, dân a mŵg a brwmstan.

18A thraian y dynion a lâs gan y tri hyn, sef gan y tân, a’r mŵg, a’r brwmstan, y rhai a ddaethant allan o’u genau hwynt.

19Canys eu gallu hwynt sydd yn eu genau, ac yn eu cyffonnau, canys eu cynffonnau hwynt oeddent debyg i seirph, a phennau ganddynt, â rhai hyn yr oeddent yn drygu.

20A’r dynion eraill y rhai ni laddwyd gan y plâuau hyn, ni chymmerasant edifeirwch am weidredoedd eu dwylo, i beidio ac addoli cythreuliaid, a delwau aur, ac arian, a phrês, a main, a phrennau, y rhai ni allant weled, na chlywed, na cherdded.

21Ac ni chymmerasant hefyd edifeirwch, am eu llofruddiaeth, na’u cyfareddion, na’u godineb, na’u lledrad,

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help