1Ac yn yr vnfed flwyddyn ar ddêc, ar cyntaf o’r mîs, y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd.
2Ha fab dŷn o herwydd yr hyn a ddywedodd Tyrus am Ierusalem, eho, torrwyd porth y bobloedd, troir attafi, fo’m llenwir, anrhaithiedic yw hi.
3Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi’th erbyn ô Tyrus, a chodaf genhedloedd lawer i’th erbyn, fel y cyfode y môr ai donnau.
4Yna y llygrant geurydd Tyrus, ai thŷrau a ddinistriant, minne a grafaf ei llwch o honi, ac ai rhoddaf yn grîb craig.
5Yn estynfa rhwydau y bydd yng-hanol y môr, canys myfi a lefarodd medd yr Arglwydd Dduw: îe hi a fydd yn yspail i’r cenhedloedd.
6Ei merched hefyd y rhai yn y maes a leddir a’r cleddyf: fel y gwypont mai myfi yr Arglwydd.
7Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn dwyn at Tyrus o’r gogledd Nabuchodonosor brenin Babilon brenin y brenhinoedd, â meirch, ac â cherbydau, ac â marchogion, a thyrfa, a phobl lawer.
8Dy ferched a ladd efe yn y maes a’r cleddyf, ac a esyd gastell i’th erbyn, ac a fwrw glawdd o’th amgylch, ac a gyfyd darian i’th erbyn.
9Ac efe a a esyd beiriannau rhyfel wrth dy geurydd, a’th dŷrau a ddiwreiddia efe ai gleddyfau.
10Gan finteioedd ei feirch ef eu llwch a’th doant, dy geurydd a gynhyrfant gan sŵn y marchogion, ar olwynion, a’r cerbydau pan ddelont trwy dy byrth di, fel adwyau dinas rwygedic.
11A charnau ei feirch y sathr efe dy heolydd oll, dy bobl a ladd efe a’r cleddyf: a’th sefyllfannau cedyrn a ddescynu efe i’r llawr.
12Yna’r anrheithiant dy gyfoeth, ac yr yspeiliant dy farchnadaeth, ac y dinistriant dy geurydd, a’th dai dymunol a ddiwreiddiant: îe dy gerric, a’th goed, a’th bridd a osodant ynghanol y dyfroedd.
13Felly y gwnaf i sŵn dy ganiadau beidio ac na chlywir mwy lais dy delynau.
14Eithr rhoddaf di yn grib craic, estynfa rhwydau fyddi, ni’th adailedir mwy: canys myfi yr Arglwydd a leferais medd yr Arglwydd Dduw.
15Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am Dyrus, onid gan sŵn dy gwymp, pan waelddo’r archollodic, pan ladder lladdfa yn dy ganol y cynhyrfa yr ynysoedd?
16A holl dywysogion y môr a ddescynnant oi gorsedd-feingciau, ac a fwriant ymmaith eu mantelloedd, ac a ddioscant eu gwiscoedd symmud-liw, dychryn a wiscant, at y ddaiar yr eisteddant, ac a ddychrynant ar moment, ac a ryfeddant wrthit.
17Codant hefyd alar-nad am danat, a dywedant wrthit: pa fodd i’th ddifethwyd yr hon a bresswylir o’r môr, y ddinas ganmoladwy yr hon sydd grêf o’r môr, hi ai thrigolion: y rhai a roddasant eu harswyd ar ei holl bresswylwŷr hi?
18Yr awr hon yr ynysoedd a ddychrynnant nydd dy gwymp, ar ynysoedd y rhai ydynt yn y môr a ddychrynant gan dy fynediad allan.
19Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, pan roddwyf di yn ddinas anrhaithiedic, fel y dinasoedd yr rhai ni’s cyfanneddir, gan ddwyn arnat ddyfnder fel i’th guddio dyfroedd lawer.
20A’th ddescyn o honof gyd a’r rhai a ddescynnant i’r pwll, at y bobl gynt, a’th osot yn y tir issaf, fel yr hên anrhaith gyd a’r rhai a ddescynnant i’r pwll, fel na’th bresswylier: a rhoddi o honof ogoniant yn nhir y rhai byw,
21Rhoddaf di yn ddychryn fel na yna i’th geisir, ac ni’th geir mwy medd yr Arglwydd Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.