Diharebion 23 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIII.

1Pan eisteddech i fwyta gyd â thywysog, ystyria yn ddyfal beth sydd ger dy fron.

2Ac os amgen ti a osodi gyllell ar dy wddf os byddi ddŷn blysig.

3Na ddeisyf ei ddanteithion ef: canys twyllodrus yw bwyd.

4Na ddeffygia mo honot dy hun, yn ymgyfoethogi: dod ti heibio dy gyfryw fwriad.

5A beri di i’th lygaid ehedeg arnynt? yn y man y darfyddant, ac y cymmerant adenydd, ac megis eryr yr ehedant ymmaith tu a’r wybr.

6Na fwyta fwyd y cenfigennus drwg ei lygad: ac na chwennych moi ddantethion ef.

7Canys fel pe meddylie efe felly yn ei galon, y ddywed efe wrthit, bwyta, ac ŷf, ai galon heb fod gyd â thi.

8Y tammaid a fwytêaist a fwri di i fynu: a’th eiriau melus a golli di.

9Na lefara lle y clywo y ffôl: canys efe a’th ddiystyra di, a hôll ddoethineb dy eiriau.

10Na Deut.27.17. Pen.22.28.symmut mo’r hên derfyn; ac na thyret i feusydd yr amddifaid.

11Canys eu dial-wr hwynt sydd nerthol: ac a Pen.22.23.amddeffyn eu cweryl hwynt yn dy erbyn di.

12Gosot dy galon ar addysc, a’th glustiau ar eiriau synhwyrol.

13 Pen.13.24.|PRO 13:24. & 18.18.|PRO 18:18. Ecclus.30.1. Na thyn gerydd oddi wrth dy blentyn: er ei guro â gwialen ni bydd efe farw.

14Cur ef â gwialen, a thi a achubi ei enaid rhag vffern.

15Fy mab os dy galon di fydd doeth, fyng-halon inne a lawenycha,

16Ie fy arennau a grych-neidiant, pan draetho dy wefusau di gyfiawnder.

17 Psal.37.1. Pen.24.1 Na wynfyded dy galon wrth bechaduriaid: ond yn ofn yr Arglwydd yn hŷd y dydd.

18Canys yn ddiau y mae gobr, ac ni phalla dy obaith.

19Erglyw fy mab, a bydd ddoeth: a chyfarŵydda dy galon yn y ffordd.

20Na fydd vn o’r rhai ydynt yn meddwi ar wîn: nac vn o’r rhai glythion ar gig.

21Canys y meddw, a’r glwth a ddeuant i dlodi: a gormod cyscu a bar fyned mewn gwisc ddrylliog.

22Gwrando ar dy dad a’th genhedlodd: ac na ddiystyra dy fam pan heneiddio.

23Pryn y gwir, ac na werth, felly doethineb, ac addysc a deall.

24Tâd y cyfiawn a orfoledda yn fawr: a’r neb a genhedlo fab doeth a lawenhâ ynddo ef.

25Pâr i’th dâd ac i’th fam a lawenychu: ac i’r hon a’th ymddug orfoleddu.

26Fy mab moes i mi dy galon: ac ymfodloned dy lygaid yn fy ffyrdd i.

27Canys Pen.22.14.ffos ddyfn yw puttain: a phydew cyfyng yw’r ddieithr.

28Ie hi Pen.7.12a ddisgwil fel gwilliaid: ac a chwanega bechaduriaid ym mysc dynnion.

29I bwy y mae gwae? i bwy ochain? i bwy y mae cynnen? i bwy y mae dadwrdd? ac i bwy y mae gweliau heb achos? i bwy y mae llygaid cochion?

30I’r neb sydd yn aros wrth y gwin: i’r neb sydd yn chwilio am win cymmyscedig.

31Nac edrych ar y gwîn mor gôch fydd pan ddangoso ei liw yn y cwpan: yn ddisymmwth efe a aiff yn iniawn.

32Yn y diwedd efe a frath fel sarph: ac a biga fel gwiber.

33Dy lygaid a edrychant ar wragedd dieithr: a’th galon a draetha drawsedd.

34Ti a fyddi megis vn yn cyscu yng-hanol y môr: ac fel vn yn cyscu ym mhen yr hwylbren.

35Pan i’m curent ni chlafychais: pan i’m dulient nîs gwybum: pan ddeffroiwn mi a af rhagof, mi ai ceisiaf drachefn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help