2.Brenhinoedd 20 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XX.Duw wedi rhybuddio Hezecia i farw yn estyn ei enioes ef. 13 ac yn ei geryddu ef am ddangos ai dryssor i’r Babiloniaid. 22 Manasses yn teyrnasu yn lle Hezecia.

1Yn y dyddiau hynny 2.Cron 32.24.|2CH 32:24. Esay.38.1.y clafychodd Hezecia i farw: ac Esay mab Amos y prophwyd a ddaeth atto ef, ac a ddywedodd wrtho, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, trefna dy dŷ canys marw fyddi, ac ni byddi byw.

2Yna efe a drôdd ei wyneb at y pared: ac a weddiodd at yr Arglwydd gan ddywedyd.

3Attolwg Arglwydd cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd, ac mewn calon berffaith, a gwneuthur yr hyn oedd dda yn dy olwg di: a Hezecia a ŵylodd ag wylofain mawr.

4A chyn myned o Esay allan i’r cyntedd canol: yna y daeth gair yr Arglwydd atto ef, gan ddywedyd:

5Dychwel, a dywet wrth Hezecia blaenor fy mhobl i, fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Dafydd dy dad ei, clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau: wele fi yn dy iachau di, y trydydd dydd yr ei di i fynu i dŷ’r Arglwydd.

6A mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng-mhlynedd, ac a’th waredaf di, a’r ddinas hon, a law brenin Assyria: deffynnaf y ddinas hon er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fyng-wâs.

7Yna y dywedodd Esay, cymmerwch swpp o ffigus: a hwynt a gymmerasant, ac ai gosodasant ar y cornwyd, ac efe a fû fyw.

8Ac Hezecia a ddywedodd wrth Esay, pa arwydd yr iachâ’r Arglwydd fi: ac yr afi i fynu i dŷ’r Arglwydd y trydydd dydd?

9Ac Esay a ddywedodd, hyn i ti yn argoel oddi wrth yr Arglwydd, y gwna’r Arglwydd y gair yr hwn a lefarodd efe: ddychwel efe ddêc o raddau yn ôl?

10Ac Hezecia a ddywedodd, hawdd yw i’r cyscod ogwyddo ddêc o raddau: nid onid dychweled y cyscod yn ei ôl ddêc o raddau.

11Ac Esay y prophwyd a lefodd at yr Arglwydd: ac efe adrôdd y cyscod ar hŷd y graddau, (ar hŷd y rhai y descynnase efe yn neial Ahaz) ddêc o raddau yn ei ôl.

12Yn yr amser hwnnw’r anfonodd Esa.39.1.Berodac Baladan, mab Baladan brenin Babilon lythyrau, ac anrheg at Hezecia: canys efe a glywse fod Hezecia yn glâf.

13Ac Hezecia a wrandawodd arnynt hwy, ac a ddangosodd iddynt hwy holl dŷ ei dryssor ef yr arian, a’r aur, a’r pêr aroglau, a’r olew goref, a thŷ ei arfau ef, a’r hyn oll a’r a gafwyd yn ei dressorau ef: nid oedd dim yn ei dŷ ef, nac yn ei holl gyfoeth ef yr hwn nas dangosodd Hezecia iddynt hwy.

14Yna Esay y prophwyd a ddaeth at y brenin Hezecia, ac a ddywedodd wrtho ef, beth a ddywedodd y gwŷr hynny, ac o ba le y daethant hwy attat ti? a dywedodd Hezecia o wlâd bell y daethant hwy a Babilon.

15Yntef a ddywedodd beth, a welsant hwy yn dy dŷ di? a dywedodd Hezecia, yr hyn oll yn fy nhŷ i a welsant hwy, nid oes dim yn fy nhressorau i a’r nas dangosais i iddynt hwy.

16Ac Esay a ddywedodd wrth Hezecia: gwrando air yr Arglwydd.

17Wele y dyddiau yn dyfod pan 2.Bren.24.13. & 25.13. Ier.27.19.ddygir i Babilon yr hyn oll yn dy dŷ di, a’r hyn a gynhîlodd dy dadau hyd y dydd hwn: ni adewir dim medd yr Arglwydd.

18Cymmerant hefyd o’th feibion di y rhai a ddeuant allan o honot ti y rhai a genhedli di, i fod yn stafellyddion yn llŷs brenin Babylon.

19Yna Hezecia a ddywedodd wrth Esay, da yw gair yr Arglwydd yr hwn a leferaist: dywedodd hefyd, oni bydd heddwch a gwirionedd yn fy nydd i?

20A’r rhan arall o hanes Hezecia, ai holl rym ef, ac fel y gwnaeth efe y llynn, a’r pistill, ac y dûg efe y dyfroedd i’r ddinas: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Iuda?

21Ac Hezecia a hunodd gyd ai dadau: a Manasses ei fab ef a deyrnasodd yn ei le ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help