Deuteronomium 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.Moses sydd yn dangos nad er eu cyfiawnder, ai hauddedigaeth eu hun y gwnaeth Duw ddaioni i lsrael.

1Gwrando Israel ti sydd yn myned heddyw tros yr Iorddonen, gan fyned i orescyn cenhedloedd mwy, a chryfach na thi, dinasoedd mawrion, a chaeroc hyd y nefoedd.

2Pobl fawr, ac vchel, meibion Anac y rhai a adnabuost, ac y Num.13.29.clywaist ti pwy a sail o flawen meibion Anac?

3Gwybydd gan hynny heddyw, mai’r Arglwydd dy Dduw sydd yn myned trossodd o’th flaen di yn dân yssol, efe ai difetha hwynt, ac efe ai darostwng hwynt o’th flaen di: fel y gorescynnech hwynt, ac y difethecy hwynt yn fuan, megis y llefarodd yr Arglwydd wrthit.

4Na ddywet yn dy galon, pan yrro’r Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di, gan ddywedyd: am fyng-hyfiawnder y dygodd yr Arglwydd fi i orescyn y tîr hwn: canys am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y gyrrodd yr Arglwydd hwynt allan o’th flaen di.

5Nid am dy gyfiawnder di, nac am iniondeb dy galon y daethost i orescyn eu tîr hwynt, onid am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y bwrriodd yr Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di: ac er cyflawni y gair yr hwn a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau di wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Iacob.

6Gwybydd dithe, nad am dy gyfiawnder dy hun, y rhoddes yr Arglwydd it y tîr daionus hwn iw orescyn: canys pobl war-galed ydych.

7Meddwl na anghofia pa fodd y digiaisy yr Arglwydd dy Dduw yn yr anialwch, o’r dydd y daethost allan o dîr yr Aipht, hyd eich dyfod i’r lle hwn: gwrthryfelu y buoch a’r Arglwydd.

8Yn Horeb hefyd y digiasoch yr Arglwydd, ac ymddigiodd yr Arglwydd wrthych i’ch difetha.

9Pan ddringais i’r mynydd i gymmeryd y llechau meini, llechau y cyfammod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd a chwi: Exod.24.18. exod.34.28.yna’r arhoais yn y mynydd ddeugain nhiwrnod, a deugain nhôs, bara ni fwytteais, a dŵfr nid yfais.

10A Exod.31.18.rhoddes yr Arglwydd attaf y ddwy lech faen, wedi eu scrifenni a bŷs Duw, ac arnynt yn ôl yr holl eiriau, y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, ar ddydd y gynnulleidfa.

11A bu ym mhen y deugain nhiwrnod, a’r deugain nhos, roddi o’r Arglwydd attaf y ddwy lech faen: llechau y cyfammod.

12A dywedodd yr Arglwydd wrthif Exod.32.7.cyfot, dôs oddi ymma i wared yn fuan, canys ymlygrodd dy bobl y rhai a ddygaist allan o’r Aipht: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd, yr hon a orchymynnais iddynt, gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd.

13A llefarodd yr Arglwydd wrthif gan ddywedyd: gwelais y bobl hyn, ac wele pobl war-galed ydynt.

14Paid a mi, a mi ai destruwiaf hwynt, ac a ddele a eu henw hwynt oddi tann y nefoedd, ac a’th wnaf di yn genedl gyfrach, ac amlach na hwynt.

15Ac mi a ddychwelais, ac a ddaethym i wared o’r mynydd, a’r mynydd ydoedd yn llosci gan dân, a dwy lêch y cyfammod yn fy-nwy law.

16Edrychais hefyd, ac wele pechasech yn erbyn yr Arglwydd eich Duw, gwnelsech iwch lo tawdd, ciliasech yn fuan o’r ffordd yr hon a orchymynnase yr Arglwydd i chwi.

17Yna’r ymaflais yn y ddwy lêch, ac ai teflais hwynt o’m dwy law: ac ai torrais hwynt o flaen eich llygaid chwi.

18A syrthiais ger bron yr Arglwydd, fel y waith gyntaf ddeugain nhiwrnod, a deugain nhos, ni fwitteis fara, ac nid yfais ddwfr, am eich holl bechodau chwi, y rhai a bechasech gan wneuthur drygioni yng-olwg yr Arglwydd iw ddigio ef.

19Canys ofnais rhac y sorriant, a’r dîg drwy y rhai y digiodd yr Arglwydd wrthych i’ch dinistrio chwi: etto gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith honno hefyd.

20Wrth Aaron hefyd y digiodd yr Arglwydd yn fawr, iw ddifetha ef, a mi a eiriolais hefyd tros Aaron y waith honno.

21Eich pechod chwi hefyd yr hwn a wnaethoch, sef y llo a gymmerais, ac’ai lloscais yn tân, coethais ef hefyd, gan eu falurio yn dda, nes i falu yn llwch: a bwriais ei lwch i’r afon, yr hon oedd yn descyn o’r mynydd.

22 Num.11.3. exod.17.7.|EXO 17:7. num.11.34. O fewn Taberah hefyd, ac o fewn Massa, ac o fewn Beddau y blŷs yr oeddych yn digio’r Arglwydd.

23A phan anfonodd yr Arglwydd chwi o Cades Barnea, gan ddywedyd: ewch i fynu a gorescynnwch y tîr, yr hwn a roddais i chwi, yna yr anufyddhasoch air yr Arglwydd eich Duw: ni chredasoch hefyd iddo, ac ni wrandawsoch ar ei lais ef.

24Gwrthynssic fuoch wrth yr Arglwydd, er y dydd yr adnabum chwi.

25Ac mi a syrthiais ger bron yr Arglwydd y deugain nhiwrnod ar deugain nhôs, fel y syrthiaswn o’r blaen, am ddywedyd o’r Arglwydd am eich difetha chwi.

26Eiriolais hefyd ar yr Arglwydd, a dywedais: Arglwydd Dduw na ddifetha dy bobl, a’th etifeddiaeth yr hon a waredaist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist allā o’r Aipht mewn llaw gref.

27Meddwl am dy weision, am Abraham, am Isaac, ac am Iacob, nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn, nac ar eu drygioni, nac ar eu pechod:

28Rhac dywedyd o’r wlâd yr hon y dygaist ni allan o honi, Num.14.16.o eisie gallu o’r Arglwyd eu dwyn hwynt i’r tîr yr hwn a addawse efe iddynt, ac oi gâs arnynt y dug efe hwynt allan iw lladd yn yr anialwch.

29Etto dy bobl, a’th etifeddiaeth hwy y rhai a ddygaist allan yn dy fawr nerth, ac yn dy estynnedic fraich.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help