1Yna Eliseus y prophwyd a alwodd ar vn o feibion y prophwydi: ac a ddywedodd wrtho ef, 1.Bren.19.17.gwregyssa dy lwynau, a chymmer y phioled olew hon yn dy law, a dos i Ramoth Gilead.
2Pan ddelech yno, a gweled o honot yno Iehu mab Iehosaphat mab Nimsi, yna tyret, a phâr iddo godi o fysc ei frodyr, a dŵg ef i stafell ddirgel.
3Yna cymmer y phioled olew, a thywallt am ei ben ef, a dywet, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, mi a’th enieniais di yn frenin ar Israel: yna agor y drŵs, a ffô ymmaith, ac nac aros.
4Felly y llangc gwâs y prophwyd a aeth i Ramoth Gilead.
5Pan ddaeth efe i mewn, yna wele tywysogion y llu oeddynt yn eistedd, ac efe a ddywedodd: gair gennif attat ti ô dywysog: a dywedodd Iehu, at ba vn o honom ni oll? dywedodd yntef, attat ti ô dywysog.
6Ac efe a gyfododd, ac a aeth i mewn i’r tŷ, ac yntef a dywalltodd yr olew ar ei ben ef, ac a ddywedodd wrtho ef: fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, myfi a’th eneiniais di yn frenin ar bobl yr Arglwydd, ar Israel.
7A thi a darewi dŷ Ahab dy arglwydd: fel y dialwyfi waed fyng-weision y prophwydi, a gwaed holl weision yr Arglwydd oddi a’r law Iezabel.
8Canys holl dŷ Ahab a ddifethir, a mi a dorraf ymmaith oddi wrth Ahab 1.Bren.14.10. & 21.21.yr hwn a bisso ar bared, y gwarchaedig hefyd, a’r hwn a adawyd yn Israel.
9- A mi a roddaf 1.Bren.14.10.|1KI 14:10 & 21.30.(sic.)dŷ Ahab fel tŷ Ieroboam mab Nabat: ac fel 1.Bren.16.3.tŷ Baasa mab Ahia.
10A’r cŵn a fwyttânt Iezabel yn rhandir Iezrahel, ac ni ai claddo yna efe a agorodd y drŵs, ac a ffôdd.
11Ac Iehu a aeth allan at weision ei arglwydd, a dywedwyd wrtho ef, a yw pob peth yn dda? pa ham y daeth yr ynfyd hwn attat ti? dywedodd yntef wrthynt, chwi a adwaenoch y gŵr, ai ymadroddion.
12Dywedasant hwythau, celwydd mynega yn awr i ni: dywedodd yntef, fel hyn, ac fel hyn y llefarodd wrthif gan ddywedyd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel.
13Yna hwynt a fryssiasant, ac a gymmerasant bob vn ei wisc, ac ai gosodasant tano ef ar goppa y grissiau: ac a ganâsant mewn vdcorn, ac a ddywedasant, teyrnased Iehu.
14Ac Iehu mab Iehosaphat, mab Nimsi a gydfwriadodd yn erbyn Ioram: ac Ioram oedd yn cadw Ramoth Gilead, efe a holl Israel rhac ofn Hazael brenin Syria.
15Ac Ioram y brenin a ddychwelodd i ymiachau i Iezrahel o’r archollau yr rhai yr archollase y Syriaid ef wrth ymladd o honaw yn erbyn Hazael brenin Syria: 2.Bren.8.29.a dywedodd Iehu, os mynnwch chwi nac eled yn ddiangol o’r ddinas i fyned i fynegu i Iezrahel.
16Yna Iehu a farchogodd, ac a aeth i Iezrahel, canys Ioram oedd yn gorwedd yno: ac Ahazia brenin Iuda a ddaethe i wared i edrych Ioram.
17A’r gwiliwr oedd yn sefyll ar y tŵr yn Iezrael, ac a ganfu fintai Iehu pan oedd efe yn dyfod, ac efe a ddywedodd, yr ydwyf yn gweled torf: ac Ioram a ddywedodd, cymmer ŵr march ac anfon iw cyfarfod hwynt, a dyweded, ai heddwch
18A’r gŵr march a aeth iw gyfarfod ef, ac a ddywedodd, fel hyn y dywedodd y brenin, ai heddwch a dywedodd Iehu, beth i ti am heddwch? tro yn fy ôl i: a’r gwili-wr a fynegodd gan ddywedyd, y gennad a ddaeth hyd attynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd.
19Yna efe a anfonodd yr ail gŵr march, ac efe a ddaeth attynt hwy, ac a ddywedodd, fel hyn y dywedod y brenin, heddwch i ti am heddwch? tro yn fy ôl i.
20A’r gwili-wr a fynegodd gan ddywedyd, efe a ddaeth hyd attynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd: ar gyrriad fel gyrriad Iehu mab Nimsi, canys y mae efe yn gyrru yn ynfyd.
21Yna Ioram a ddywedodd, rhwym yntef a rwymodd ei gerbyd ef: ac Ioram brenin Israel a aeth allan, ac Ahazia brenin Iuda, pob vn iw gerbyd, felly’r aethant i gyfarfod Iehu, a chyfarfuant ag ef yn rhan-dir Naboth yr Iezraheliad.
22A phan welodd Ioram Iehu, yna efe a ddywedodd, a heddwch Iehu? dywedodd yntef, pa heddwch? tra putteindra Iezabel dy fam di, ai rhaib mor aml?
23Am hynny Ioram a drodd ei ddwylaw, ac a ffôdd: ac a ddywedodd wrth Ahazia, bradwriaeth ô Ahaziah.
24Yna Iehu a gymmerth fŵa yn ei law, ac a darawodd Ioram rhwng ei yscwyddau, fel yr aeth y saeth drwy ei galon ef: felly efe a syrthiodd yn ei gerbyd.
25Ac a ddywedodd wrth Bidcar ei dywysog, cymmer, bwrw ef i randir maes Naboth yr Iezraheliad: canys cofia ein bod ni mi a thi yn marchogeth yng-hyd ein dau ar ôl Ahab ei dad ef, a chodi o’r Arglwydd arno ef y baich hwn.
26[Nid geir-wir fi] medd yr Arglwydd onid celanedd Naboth, a chelanedd ei feibion ef a welais i neithwyr, am hynny mi a dalaf i ti yn y rhandir hon medd yr Arglwydd: gan hynny cymmer, bwrw ef yn awr yn y rhandir hon yn ôl gair yr Arglwydd.
27Pan welodd Ahazia brenin Iuda yna efe a ffôdd tua thŷ’r ardd: ac Iehu a a ymlidiodd ar ei ôl ef, ac a ddywedodd, tarewch hwn hefyd yn gerbyd, yn rhiw Gwrr, yr hon wrth Ibleam, ac efe a ffôdd i Megido, ac a fu farw yno.
28Ai weision ai dugasant ef mewn cerbyd i Ierusalem: ac ai claddasant ef yn ei feddrod gyd ai dadau, yn ninas Dafydd.
29Ac yn yr vnfed flwyddyn ar ddêc i Ioram fab Ahab yr aethe Ahazia yn frenin ar Iuda.
30Pan ddaeth Iehu i Iezrahel: yna Iezabel a glybu ac a golurodd ei hwyneb, ac a wiscodd yn wych am ei phenn, ac a edrychodd drwy’r ffenestr.
31Pan ddaeth Iehu i’r porth, yna hi a ddywedodd: a heddwch i Zimri yr hwn a laddodd ei feistr?
32Ac efe a dderchafodd ei wyneb at y ffenestr, ac a ddywedodd, pwy gyd a mi, pwy? yna dau, dri o’r stafellyddion a edrychasant arno ef.
33Yntef a ddywedodd tafl hi i lawr, a hwynt ai taflasant hi i lawr: ac efe a daenellodd oi gwaed hi ar y pared, ac ar y meirch, ac ai mathrodd hi.
34Yna efe a ddaeth i mewn, ac a fwyttaodd, ac a yfodd, dywedodd hefyd, edrychwch am y felldigedic honno, a chleddwch hi, canys merch brenin hi.
35Pan aethant hwy iw chladdu hi: yna ni chawsant o honi onid y benglog, a’r traed, a chledrau y dwylo.
36Am hynny hwynt a ddychwelasant, ac a fynegasant iddo ef: dywedodd yntef, dyna air yr Arglwydd yr hwn a lefarodd efe drwy law ei wasanaethwr Elias y Thesbiad gan ddywedyd: 1.Bren.21.23.yn rhan-dir Iezrahel y bwytu y cŵn gnawd Iezabel.
37A chelain Iezabel a fydd fel tommen ar wyneb y maes, yn rhan-dir Iezrahel: fel na ellir dywedyd, dymma Iezabel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.