1.Timotheus 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Y mae yn annog i weddio dros bob dyn. 4 Am ymwreddiad, a dillad gwragedd.

1Cynghori yr ydwyf am hynny, ym mlaen pob peth, fod ymbil, gweddiau, deisyfiadau a thalu diolch dros bôb dŷn.

2Dros frenhinoedd, a phawb a osodwyd mewn awdurdod, fel y gallom ni fyw yn llonydd, ac yn heddychol trwy bob duwioldeb, ac honestrwydd.

3Canys hyn sydd dda a chymmeradwy ger bron Duw ein ceidwad:

4 1.Pet.3.9. Yr hwn a fynn fod pôb dŷn yn gadwedig, a’u dyfod i ŵybodaeth y gwirionedd.

5Canys vn Duw sydd, ac vn cyfryng-ŵr rhwng Duw a dŷn, y dyn Crist Iesu,

6Yr hwn a’i rhoddes ei hunan yn brid-werth dros bawb, yn destiolaeth yn ei iawn bryd.

7O’r hyn i’m gosodwyd yn bregeth-ŵr, 2.Tim.1.11.(ac yn Apostol, gwir yr wyf yn ei ddywedyd yng-Hrist heb gelwydd) athro y cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd.

8Am hynny mi a fynnwn i wŷr weddio ym mhob man gan dderchafu dwylo purion, heb ddigter nac ymryson:

9 1.Petr.3.3. Felly hefyd i wragedd ymwisco mewn dillad gweddus, gyd â lledneisrwydd, a chymmesurwydd, nid â gwallt plethedig neu aur, neu gemmau, neu wysc werthfawr.

10Eithr (megis y gwedde i wragedd yn addo duwioldeb, a gweithredoedd da.

11Dysced gwraig mewn distawrwydd, yng-hyd â phob gostyngeiddrwydd.

12Ond 1.Cor.14.34.nid ydwyf yn dioddef i wraig draethu dysc, nac arfer awdurdod ar y gŵr: eithr bod mewn distawrwydd.

13Canys Gene.1.27. & 2.7.21.Adda a luniwyd yn gyntaf: yna Efa.

14Ac nid Gene.3.6.Adda a dwyllwyd, eithr y wraig wedi ei thwyllo a aeth yn camwedd.

15Etto hi a fydd cadwedig gan ddwyn plant os hwy a arhosant yn y ffydd, a chariad, a santteiddrwydd yng-hyd â chymmesurwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help