Cân y tri llangc 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

24Ac hwyntwy a rodiassant yng-hanol y fflā, gan foliannu Duw, a bēdithio’r Arglwydd.

25Ac Azarias yn sefyll a weddiodd fel hyn, ac a agorodd ei enau yng-hanol y tân, gan ddywedyd,

26Bendigedig wyt ô Arglwydd Dduw ein tadau, ie canmoladwy a gogoneddus yw dy enw yn dragywydd.

27Canys cyfiawn wyt ti ym mhob peth a’r a wnaethost i ni: a’th holl weithredoedd sy ffyddlon, dy ffyrdd hefyd ydynt iniawn, a’th holl farnau mewn gwirionedd.

28Canys barnau gwirionedd a wnaethost yn yr holl bethau a ddugost arnom, ac ar ddinas sanctaidd ein tadau Ierusalem, o achos mewn gwirionedd a barn y dugaist hyn oll arnom am ein pechodau.

29Canys pechasom, a gwnaethom yn anghyfreithlon, drwy ymwrthod â thydi, ac ym mhob peth ni a wnaethom ar fai,

30A’th orchymynnion di ni’s gwrandawsom, ac ni’s cadwasom: ac ni wnaethom y modd yr archessit i ni, fel y bydde i ni yn ddaionus.

31A chwbl a’r a ddugost arnom, a chwbl a’r a wnaethost i ni, mewn gwir farn y gwnaethost oll.

32Ac a’n rhoddaist yn nwylo ein gelynion anwir, a’n casaf fradych-wŷr, a’r brenin anghyfiawn gwaethaf ar yr holl ddaiar.

33Ac yn awr ni allwn agori ein geneuau, yn gywilydd a gwradwydd i’n gwnaethbwyd i’th weision di a’r rhai a’th addolant.

34Na fwrw ni ymmaith yn gwbl er mwyn dy enw: ac na ddiddymma dy gyfammod.

35Ac na thyn dy drugaredd oddi wrthym, er mwyn Abraham dy annwylyd: ac er mwyn Isaac dy wâs, ac Israel dy sanctaidd;

36Y rhai y ymddiddenaist wrthynt, gan ddywedyd, yr amlhâit eu hâd hwynt fel sêr y nef, ac fel y tywod yr hwn sydd gerllaw min y môr.

37Etto Arglwydd yr ydym wedi ein lleihau tu hwnt i bob cenhedlaeth: ac yr ydym heddyw wedi ein tynnu i lawr ym mhob gwlad am ein pechodau.

38Ac nid oes y pryd hyn, na phennaeth, na phrophwyd, na blaenor, na phoeth offrwm, nac aberth, na blaenffrwyth, nac arogl, na lle i offrwm blaenffrwyth ger dy fron di, modd y gallem gael dy drugaredd.

39Etto yn enaid drylliedig, ac yn ysbryd gostyngeiddrwydd derbynier ni.

40Megis o herwydd ebyrth hyrddod, a theirw, ac fel o herwydd myrddiwn o ŵyn breision: felly heddiw bydded ein hoffrwm ni yn dy olwg di iryglyddu bodd i ti: canys nid oes wradwydd i’r rhai a ymddyriedant ynot ti.

41Ac yr awran y dilynwn di a’n holl galon, ac yr ofnwn di, ac y ceissiwn dy wyneb-pryd.

42Na ddod ni yn wradwydd; eithr gwna â ni yn ol di addfwynder, ac yn ôl amlder dy drugaredd.

43Ac achub ni yn ôl dy ryfeddodau ô Arglwydd, a dod ogoniant i’th enw.

44A chywilyddier hwynt oll a’r sy yn amcanu drwg i’th weision: a syrthiant yn wradwyddus oddi wrth bob gallu, ai nerth a ddryllier.

45Fel y cydnabyddant mai tydi sydd Arglwydd, unic Dduw, a gogoneddus drwy yr holl fyd.

46Ac ni orphywysodd gweinidogion y brenin, y rhai ai bwriasent hwynt a phoethi’r ffwrn â naphtha, â ffŷg, â charth, ac â briwydd.

47A’r fflam a daflodd uwch law yr ffwrn, naw cufydd a deugain.

48A hi a ruthrodd ac a loscodd y Caldeaid y rhai a gyrhaeddodd hi yng-hylch y ffwrn.

49Eithr Angel yr Arglwydd a ddescynnodd i’r ffwrn gyd â Azarias,

50Ac a daflodd fflam y tân allan o’r ffwrn: ac a wnaeth ganol y ffwrn megis gwlith-wynt chwiban, fel na chyffyrddodd y tân â hwynt: ni thristaodd ychwaith ac ni flinodd mo honynt.

51Yna y tri megis o un geneu a ganmolasant, ac a glodforasant, ac a ogoneddasant Dduw yn y ffwrn, gan ddywedyd,

52Bendigedig wyt Arglwydd Dduw ein tadau, moliannus a chlodforus yn dragywydd: a bendigedig yw enw dy ogoniant sanctaidd a chanmoladwy a chlodforus yn dragywydd.

53Bendigedig wyt ti yn nheml dy sanctaidd ogoniant a thramoladwy a gogoneddus yn dragywydd.

54Bendigedig wyt ti yr hwn sydd yn gweled yr eigion, ac yn eistedd ar y Cerubiaid, a thrachanmoladwy a chlodforus yn dragywydd.

55Bendigedig wyt ar orseddfaingc gogoniant dy deyrnas, a thrachanmoladwy a gogoneddus yn dragywydd.

56Bendigedig wyt ti yn ffurfafen y nefoedd, a thrachanmoladwy a gogoneddus yn dragywydd.

57Oll weithredoedd yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

58Angelion yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

59Y nefoedd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

60Yr holl ddyfroedd goruwch y nef bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

61Oll nerthoedd yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

62Yr haul a’r lloer bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

63Ser yr awyr bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

64Pob cafod a gwlith bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

65Oll wyntoedd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

66Tân a phoethni bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

67Oerni a gwrês bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

68Gwlith a rhewogydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

69Nos a dydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

70Goleuad a thywyllwch bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

71Rhew ac oerfel bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

72Ia ac eira, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

73Mellt a chymylau bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

74Bendithied y ddaiar yr Arglwydd: moled a chlodfored hi ef yn dragywydd.

75Mynyddoedd a brynnau bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

76Yr holl betheu sydd yn tyfu yn y ddaiar bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

77Ffynhonneu bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

78Moroedd ac llifeiriant bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

79Mor-filod a chwbl oll a’r a symmud yn y dyfroedd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

80Oll ehediaid yr awyr bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

81Oll fwystfilod ac anifeiliaid bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

82Plant dynyon bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

83Bendithied Israel yr Arglwydd: moled a chlodfored ef yn dragywydd.

84Offeiriaid yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

85Gwasanaethwŷr yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

86Ysbrydion ac eneidieu ’r cyfiawn bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

87Y rhai sanctaidd a chalon ostyngedig bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.

88Ananias, Azarias, a Misael bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd: Canys efe a’n achubodd o uffern, ac a’n cadwodd o law marwolaeth, ac a’n gollyngodd o’r ffwrn o ganol y fflam danllyd, ac a’n gwaredodd o ganol y tân.

89Cyffesswch yr Arglwydd am ei fod yn ddaionus, am fod ei drugaredd yn dragywydd.

90Pawb oll ac sydd yn ofni ’r Arglwydd bendithiwch Dduw ’r duwiau, molwch ef a chydnabyddwch fod ei drugaredd ef yn dragywydd.

Terfyn cân y tri llangc yn y ffwrn boeth loscadwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help