Iosuah 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Iosuah yn peri enwaedu y bobl, a chadw y Pasc. 12 y Manna yn darfod, ac angel Duw yn cyssuro Iosuah.

1Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid y rhai o’r tu hwynt i’r Iorddonen tua’r gorllewyn, a holl frenhinoedd y Canaaneaid y rhai wrth y môr fel y sychase’r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel nes eu myned hwy trwodd: yna y digalonnwyd hwynt fel nad oedd gyssur mwyach ynddynt, rhac ofn meibion Israel.

2Y pryd hynny y dywedodd yr Arglwydd wrth Iosuah, Exod.4.25.gwna it gyllill llymmion: dychwel ac enwaeda feibion Israel yr ail waith.

3Yna Iosuah a wnaeth iddo gyllill llymmion: ac a enwaedodd feibion Israel ym mryn y blaen-grwyn.

4Ac dymma yr achos yr hon i Iosuah enwaedu yr holl bobl y gyrfiaid y rhai a ddaethent o’r Aipht: yr holl ryfel-wŷr a fuasent feirw yn yr anialwch ar y ffordd pan ddaethant allan o’r Aipht.

5Canys yr holl bobl a’r a ddaethent allan oeddynt enwaededic, ond y bobl oll y rhai a anesid yn yr anialwch ar y ffordd pan ddaethent allan o’r Aipht nid enwaedasent.

6Canys deugain mhlynedd y rhodiase meibion Israel yn yr anialwch, nes darfod holl genedl y rhyfel-wŷr y rhai a ddaethent o’r Aipht, y rhai ni wrandawsent ar lef yr Arglwydd: y rhai y tyngase yr Arglwydd wrthynt na ddangosid iddynt Num.14.23.y wlâd yr hon a dyngase’r Arglwydd wrth eu tadau y rhodde efe i ni gwlâd yn llifeirio o laeth a mêl.

7Felly Iosuah ai henwaedodd hwynt, sef y meibion a gododd efe yn eu lle hwynt: canys dienwaededic oeddynt hwy am nad enwaedasid hwynt ar y ffordd.

8A phan ddarfu enwaedu yr holl genedl: yna’r arhosasant yn eu lle nes eu hiachau hwynt

9Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrth Iosuah heddyw y * tynnais ymmaith wradwydd yr Aipht oddi arnoch: am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Gilgal hyd y dydd heddyw.

10Felly meibion Israel a werssyllasant yn Gilgal: a hwynt a gynhaliasant y Pasc ar y pedwerydd dydd ar ddêc o’r mîs pryd nawn yn rhossydd Iericho.

11A hwynt a fwytawsant drannoeth wedi ’r Pasc fara croiw, a chras-yd o ŷd y wlad honno: o fewn corph y dydd hwnnw.

12Yna y Manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwyta o ŷd y wlâd, ac ni bu Manna mwyach gan feibion Israel: eithr bwytawsant o gynnyrch glwâd y Canaaneaid y flwyddyn honno.

13A phan oedd Iosuah yn Iericho yna efe a dderchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele Exod.23.23.ŵr yn sefyll gyferbyn ag ef ai gleddyf noeth yn ei law: ac Iosuah a aeth atto ef, ac a ddywedodd wrtho, ai gyd a ni ti, ai gyd a’n gwrthwyneb-wŷr?

14Dywedodd yntef nage, eithr tywysog llû’r Arglwydd ydwyf, yn awr y deuthum: yna Iosuah a syrthiodd i lawr ar ei wyneb ac a addolodd, ac a ddywedodd hefyd wrtho ef, beth y mae fy Arglwydd yn ei dywedyd wrth ei wâs?

15A thywysog llû’r Arglwydd a ddywedodd wrth Iosuah, Exod.3.5. Ruth.4.7. Act.7.33.dattot dy escidiau oddi am dy draed, canys y lle’r hwn yr ydwyt ti yn sefyll arno sydd sanctaidd: ac Iosuah a wnaeth felly.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help