Ieremi 26 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVI.Pregeth Ieremi 7 yr offeiriaid yn ei ddal ef, ac yn achwyn rhacddo. 23 Lladdiad Vrias.

1Yn nechreu teyrnasiad Iehoacim fab Iosia brenin Iuda y daeth y gair hwn oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd:

2Fel hyn y dywed yr Arglwydd, saf di ym mhorth tŷ yr Arglwydd, a llefara wrth holl ddinasoedd Iuda, y rhai a ddelont i addoli i dŷ yr Arglwydd yr holl eiriau y rhai a orchymynnaf i ti eu llefaru wrthynt, Act.20.27.nac attal air.

3Ond odid hwy a wrandawant, ac a ddychwelant bôb vn oi ffordd ddrwg: ac mi a edifarhaf am Iere.18.8.y drwg yr hwn a amcenais ei wneuthur iddynt am ddrygioni eu gweithredoedd.

4A dywet wrthynt, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; oni wrandewch arnaf gan rodio yn fyng-hyfraith yr hon a roddais ger eich bron,

5[A] chan wrando ar eiriau fyng-weision y prophwydi y rhai a anfonais attoch, gan godi yn foreu, ac anfon, a chwi heb glywed:

6Yna y rhoddaf y tŷ hwn fel Silo, a’r ddinas hon a roddaf yn felldigedic gan holl genhedloedd y ddaiar.

7Yr offeiriaid hefyd, a’r prophwydi, a’r holl bobl a glywsant Ieremi yn llefaru y geiriau hyn yn nhŷ yr Arglwydd.

8A phan ddarfu i Ieremi lefaru yr hyn oll a’r a orchymynnase y Arglwydd ei ddywedyd wrth yr holl bobl: yna yr offeiriaid a’r prophwydi, a’r holl bobl ai daliasant ef gan ddywedyd, ti a leddir yn farw.

9Pa ham y prophwydaist yn enw yr Arglwydd? gan ddywedyd, fel Silo y bydd Psalm.132.14.|PSA 132:14. mat.26.61.|MAT 26:61. act.6.13.y tŷ hwn, a’r ddinas hon a wneir yn anghyfannedd heb vn bresswylwr: felly ymgasclodd yr holl bobl at Ieremi yn nhŷ yr Arglwydd.

10Pan glybu tywysogion Iuda y geiriau hyn, yna hwy a ddaethant i fynu o dŷ yr brenin i dŷ’r Arglwydd: ac a eisteddasant ar ddrws porth newydd Arglwydd.

11Yna yr offeiriaid a’r prophwydi a lefarasant wrth y tywysogiō, ac wrth yr holl bobl gan ddywedyd: barn marwolaeth i’r gŵr hwn, canys efe a brophwydodd yn erbyn y ddinas hon, megis y clywsoch a’ch clustiau.

12Yna y llefarodd Ieremi wrth yr holl dywysogion, ac wrth yr holl bobl, gan ddywedyd: yr Arglwydd a’m hanfonodd i brophwydo yn erbyn y tŷ hwn, ac yn erbyn y ddinas hon, yr holl eiriau a’r a glywsoch.

13Gan hynny gwellhewch yn awr eich ffyrdd, a’ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr Arglwydd eich Duw: ac fe a edifarhâ yr Arglwydd am y drwg yr hwn a lefarodd efe i’ch erbyn.

14Ac wele fyfi yn eich dwylo: gwnewch i mi fel y gweloch yn ddâ ac yn iniawn.

15Onid gwybyddwch yn siccr os chwi a’m lladd, mai gwaed gwirion yr ydych chwi yn ei roddi arnoch, ac ar y ddinas hon, ac ar ei thrigolion: canys mewn gwirionedd yr Arglwydd a’m hanfonodd attoch i lefaru lle y clywech yr holl eiriau hyn.

16Yna y tywysogion, a’r holl bobl a ddywedasant wrth yr offeiriaid a’r prophwydi, ni ar y gŵr hwn farn marwolaeth: canys yn enw yr Arglwydd ein Duw y llefarodd efe wrthym.

17Yna rhai o henuriaid y wlâd a godâsant, ac a lefarasant wrth holl gynnulleidfa y bobl, gan ddywedyd:

18Micheas y Morasthiad Mic.1.1. mic 3.12.oedd yn prophwydo yn nyddiau Hezeciah brenin Iuda, ac efe a lefarodd wrth holl bobl Iuda gan ddywedyd: fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Sion a erddir maes, ac Ierusalem a fydd yn garneddau, a mynydd tŷ yn vchelfa goedoc.

19A roddodd Hezeciah, a holl Iuda ef i farwolaeth? oni ofnodd efe yr Arglwydd, ac weddiodd efe ger bron yr Arglwydd? fel yr edifarhaodd yr Arglwydd am y drwg yr hwn a draethase efe yn eu herbyn? wrth hynny a wnawn ninnau y drwg mawr hwn yn erbyn ein heneidiau?

20Ac yr oedd hefyd ŵr yn prophwydo yn enw yr Arglwydd Urias mab Semaiah o Ciriathiarim, ac efe a brophwydodd yn erbyn y ddinas hon, ac yn erbyn y wlâd hon yr vn modd ag Ieremi.

21Pan glywodd y brenin Iehoacim, ai holl gedyrn, ai dywysogion ei eiriau ef, yna y brenin a geisiodd ei ladd ef: a phan glywodd Urias, yna efe a ofnodd, ac a ffôdd, ac a aeth i’r Aipht.

22A’r brenin Iehoacim a anfonodd wŷr i’r Aipht Elnathan fab Achbor a gwŷr gyd ag ef i’r Aipht.

23A hwynt a gyrchasant Urias allan o’r Aipht, ac ai dygasant ef at y brenin Iehoacim: yr hwn ai lladdodd ef a’r cleddyf, ac a fwriodd ei gelain ef i feddau y cyffredin.

24Eithr llaw Ahicam fab Saphan oedd gyd ag Ieremi, fel na roddwyd ef i law y bobl iw ladd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help