1AC yn y dyddiau hynny Iudith a glybu hi ydoedd ferch Merari, fab Ox, fab Ioseph, fab Oziel, fab Elcin, fab Ananias, fab Gedeon, fab Raphaim, fab Acito, fab Eliu, fab Eliab, fab Nathauael, fab Samael, fab Saladai, fab Israel.
2A Manasses oedd ei gŵr hi o’r vn llwyth a gwaedoliaeth a hi: ac efe a fuase farw yn nyddiau y cynhaiaf haidd.
3Canys yr oedd efe yn ddyfal yn gwilied y rhai oeddynt yn rhwymo yscubau yn y maes, a’r gwrês a ddaeth ar ei benn ef, fel y syrthiodd efe yn ei wely: a hwynt ai claddâsant ef gyd ai dadau yn y maes yr hwn sydd rhwng Dothaim a Balamo.
4Ac Iudith oedd yn ei thŷ ei hun yn weddw dair blynedd, a phedwar mîs.
5Ac hi a wnaeth iddi babell yn y fann vchaf oi thŷ, ac a osododd sach-len am ei lwynau: a dillad ei gweddwdod oedynt am deni hi: ac hi a ymprydiodd holl ddyddiau ei gweddwdod, oddieithr y dydd cynn y Sabbothau, a’r Sabbothau, a’r dydd cynn y newydd-loerau, a’r gŵyliau, ac vchel ddyddiau tŷ Israel.
6Ac yr oedd hi yn lluniaidd, yn brydol, ac yn lân iawn yr olwg: a Manasses ei gŵr hi a adawodd iddi aur ac arian, a gweision, a morwynion, ac anifeiliaid, a meusydd, lle yr oedd hi yn aros.
7Ac nid oedd neb a’r a alle ddwyn dryg-air yn ei herbyn hi: canys yr ydoedd hi yn ofni Duw yn fawr.
8Pan glybu hi eiriau drygionus y bobl yn erbyn y tywysog, am eu bod hwynt yn llescau gan brinder dyfroedd, (canys Iudith a glywse yr holl eiriau y rhai a lefarase Osias wrthynt hwy, fel y tyngase efe wrthynt hwy y rhoddid y ddinas ym mhen y pum nhiwrnod i’r Assyriaid)
9Yna hi a anfonodd ei llaw-forwyn yr hon oedd yn llywodraethu ei holl olud hi i alw am Osias, a Chabris, a Charmis henuriaid ei dinas: a hwy a ddaethant atti hi, a hithe a ddywedodd wrthynt, gwrandewch yn awr arnafi tywysogion y rhai ydynt yn presswylio Bethulia, canys nid iawn eich geiriau chwi y rhai a lefarasoch ger bron y bobl heddyw, na’r llw hwn yr hwn a osodasoch, ac a draethasoch rhwng Duw a ninnau, pan ddywedasoch y rhoddech y ddinas i’n gelynnion, oni ddychwele yr Arglwydd i’n cynnorthwyo ni o fewn y hynny.
10Ac yn awr pwy ydych chwi y rhai a demptiasoch Dduw y dydd heddyw: ac a osodasoch eich hunain yn lle Duw ym mysc meibion dynion:
11Ac yn awr yr ydych chwi yn ceisio yr Arglwydd Holl-alluoc: ond ni chewch ŵybod byth: gân na fedrwch gael allan ddyfnder calon dŷn, na deall y pethau y byddo efe yn eu meddwl, pa fodd ŵrth hynny y chwiliwch chwi allan am Dduw yr hwn a wnaeth yr holl bethau hyn: ac y gwybyddwch ei feddwl ef: ac y medrwch ddirnad ei amcannion ef:
12Nid felly frodyr, na ddigllonwch yr Arglwydd ein Duw ni, canys oni fynn efe ein cynnorthwyo ni o fewn pum nhiwrnod, y mae ganddo ef allu i’n hamddeffyn ni pan fyund, a phob dydd, neu i’n dinistrio ni o flaen ein gelynnion.
13Am hynny na fyddwch chwithau yn erbyn cynghorion yr Arglwydd ein Duw ni, canys nid fel dŷn y mae Duw, fel y gellir ei fygwth ef, ac nid fel mab dŷn fel y gellir ei farnu ef.
14Gan hynny disgwiliwn iechydwriaeth yr hon sydd oddi wrtho ef, galwn arno ef i’n cynnorthwyo ni, ac efe a wrendu ar ein llef ni, os gwel efe yn dda: canys ni chyfododd yn ein hoesoedd ni, ac nid oes y dydd heddyw, na llwyth, na theulu, na phobl na dinas o honom ni a’r sy yn addoli duwiau gwneuthuredic â dwylo,
15Megis y bu yn y dyddiau gynt, o herwydd pam y rhoddwyd ein tadau ni i’r cleddyf, ac yn anrhaith, fel y syrthiasant drwy gwymp mawr yng-olwg ein gelynion.
16Ond nid adwaenom ni Dduw arall, am hynny yr ydym ni yn gobeithio na ddirmyga efe mo honom ni, na o’n hiliogaeth.
17Canys os delir nyni, ni elwir Iuda felly, o herwydd ein cyssegr ni a anrheithir, ac efe a gais ei halogedigaeth hi o’n genau ni, ac ofn ein brodyr ni, a chaethiwed y wlad, a diffaethwch ein etifeddiaeth a ddychwel efe ar ein pennau ni ym mysc y cenhedloedd pa le bynnac y gwasanaethom ni, ac nyni a fyddwn yn gas-beth, ac yn wradwydd yng-olwg y rhai a’n meddiannant: canys ni arweinir ein caethiwed ni mewn hawddgarwch, eithr drwy warth y gesyd yr Arglwydd ein Duw ni y hi.
18Yn awr gan hynny ô frodyr dangoswn i’n brodyr, o herwydd ynom ni y mae eu hyder hwynt, a’r cyssegr, a’r tŷ, a’r allor a siccrhauwyd drwyom ni: heb law hyn oll, diolchwn i’r Arglwydd ein Duw ni yr hwn sydd yn ein profi megis ein tadau ni.
19Cofiwch chwi yr hyn a wnaeth efe ag Abraham,
20A pha fodd y profodd efe Isaac, a’r hyn a wnaed i Iacob ym Mesopotamia Syria, pan ydoedd efe yn bugeilio defaid Laban brawd ei fam.
21Canys ni phrofodd efe ni fel hwynt hwy, ac ni ddialodd arnom ni, eithr yr Arglwydd sydd drwy rybudd yn ceryddu y rhai ydynt yn nessau atto ef.
22Yna Ozias a ddywedodd wrthi hi, â chalon dda y lleferaist yr hyn oll a ddywedaist: ac nid oes a ddichon gwrthwynebu dy eiriau di, o herwydd nid heddyw y cydnabuwyd a’th ddoethineb di, eithr er dechreu dy ddyddiau di y cydnabu yr holl bobl a’th ddoethineb di, canys dâ yw amcan dy gawn di.
23Ond y bobl oeddynt yn ddiffoddi o syched, ac a’n cymhellasant ni i wneuthur iddynt fel y llefarasom, ac a’n dugasant ni i lŵ yr hwn nid allwn ei drosseddu.
24Am hynny gweddia di yn awr trosom ni, (o achos mai gwraig grefyddol ydwyt ti) ar i’r Arglwydd anfon glaw i lenwi ein ffynhōnellau ni, fel na lescaom ni mwyach.
25Yna y dywedodd Iudith wrthynt hwy, gwrandewch arnafi, ac mi a wnaf beth fel y byddo sôn am dano drwy yr holl oesoedd gan feibion ein cenhedlaeth ni.
26Sefwch chwi yn y porth y nôs hon, ac myfi a âf allan mi a’m llaw-forwyn: ac o fewn y dyddiau, yn y rhai y dywedasoch y rhoddech chwi y ddinas i’n gelynnion ni, yr Arglwydd a ymwel ag Israel drwy fy llaw i.
27Ond na cheisiwch chwi morr ymofyn am fyng-weithred i, canys ni fynegafi i chwi, nes gorphen yr hyn yr ydwyfi yn ei wneuthur.
28Yna Ozias a’r tywysogion a ddywedasant wrthi hi, dos mewn heddwch, a’r Arglwydd Dduw fyddo o’th flaen di yn ddialedd ar ein gelynnion: felly hwynt a ddychwelasant o’r babell, ac a aethant ymmaith at eu byddinoedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.