1A myfi (frodyr) pan ddaethym attoch ni ddaethym â Cap.1.17.godidogrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegu i chwi destiolaeth Dduw.
2Canys ni fernais i mi ŵybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, ac yntef wedi ei groeshoelio.
3 Act.18.1. A mi a fum yn eich mysc mewn gwendid, ac ofn, a dychryn mawr.
4Ac ni bu fy ymadrodd na’m pregeth 2.Pet.1.16.mewn geiriau i ddenu â doethineb ddynawl, ond yn eglurhâd yr Yspryd a nerth.
5Fel na bydde eich ffydd mewn doethineb dynion, ond mewn nerth Duw.
6A doethineb yr ydym ni yn ei thraethu ym mysc rhai perffaith, nid ddoethineb y byd hwn, na thywysogiō y byd hwn y rhai sy yn diflannu:
7Eithr yr ydym ni yn traethu doethineb Duw mewn dirgeledigaeth yr hon oedd guddiedic, ac a ragordeiniodd Duw i’n gogoniant ni cyn bod y byd.
8Yr hon ni adnabu neb o dywysogion y byd hwn, o herwydd pes adwaenasent ni chroes-hoeliasent Arglwydd y gogoniant.
9Eithr fel y mae yn scrifennedic: Esai.64.4.y pethau ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn: yr hyn a ddarparodd Duw i’r rhai a’i carant ef.
10Eithr Duw a’u heglurodd i ni trwy ei Yspryd, canys yr Yspryd sydd yn chwilio pob peth, ie dyfnion bethau Duw hefyd.
11Canys pa ddyn a edwyn bethau dyn, ond yspryd dyn yr hwn sydd ynddo ef? felly yr vnwedd, nid edwyn neb bethau Duw, ond Yspryd Dduw.
12Ac nyni a dderbyniasom nid yspryd y byd, ond yr Yspryd yr hwn o Dduw, fel y gwypom y pethau a roddes Duw i ni.
13Yr hyn yr ydym ni hefyd yn eu traethu nid â’r Cap.1.17.geiriau a ddyscir gan ddoethineb dynol, ond a ddyscir gan yr Yspryd glân, gan gydfarnu pethau ysprydol â phethau ysprydol.
14Eithr dyn anianol nid yw yn deall y pethau sydd o Yspryd Duw, canys ffolineb ydynt ganddo ef, ac ni ŵyr beth ydynt, o blegit yn ysprydol y bernir hwynt.
15Ond yr hwn sydd ysprydol, a ŵyr farnu pob peth, ac ni fernir ef gan neb.
16 Esai.40.13.|ISA 40:13. doeth.9.13.|WIS 9:13. Ruf.11.34. Canys pwy a ŵybu feddwl yr Arglwydd fel y cyfarwydde efe ef? ond y mae gennym ni feddwl Crist.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
