1Israel na orfoledda, na lawenycha fel y cenhedloedd, Ier.44.17.canys putteiniaist oddi wrth dy Dduw: gwobrau a hoffaist ar bob llawr dyrnu ŷd.
2Y llawr dyrnu na’r gwîn-wryf ni’a portha hwynt, a’r gwîn newydd a dwylla y hon.
3Ni thrigant yng-wlâd yr Arglwydd, ond Ephraim a ddychwel i’r Aipht: ac yn Assyria y bwytânt aflan.
4Ni thywalltant wîn i’r Arglwydd, ai haberthau ni melus ganddo, byddant iddynt fel bara galar-wŷr: pawb a fwytânt o honaw a halogir: o herwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr Arglwydd.
5Beth a wnewch ar ddydd vchel-ŵyl, ar ddydd gŵyl yr Arglwydd?
6Canys wele aethant oddi wrth ddinistr, yr Aipht ai cascl hwynt, Memphis ai cladd hwynt, danadl a orescyn hyfrydwch eu harian hwynt, drain yn eu pebyll.
7Dyddiau i ymweled a ddaethant, dyddiau talu’r pwyth a ddaethant: Israel a gânt ŵybod y prophwyd ffôl, ynfyd, ac anwadal: ac am amlder dy anwiredd y bydd aml câs.
8Gwiliedudd Ephraim gyd a’m Duw, y prophwyd yn fagl adar-wr yn ei holl lwybrau, yn gasineb yn nhŷ ei Dduw.
9Aethant i’r glynnoedd, llygrâsant megis yn amser Gibea: efe a goffa eu hanwiredd, Iudic.19 21.ac a ymwel âi pechod.
10Cesais Israel fel grawn-wîn yn yr anialwch, gwelais eich tadau megis y ffrwyth cynharaf yn y ffigus-bren yn eu dechreuad: hwynt a aethant ac Baal Peor, ymddidolasant i warth, ac aethant yn ffiaidd fel y carâsant.
11Ephraim eu gogoniant hwynt a eheda fel aderyn o anedigaeth, o grôth, ac o feichiogiad.
12Ac er iddynt fagu eu plant, rhoddaf hwynt heb vn plentyn: a gwae hwynt pan ymadawyf oddi wrthynt.
13Ephraim hyd y gwelaf a blannwyd fel Tyrus mewn cyfanneddle: etto i Ephraim ddwyn ei blant allan at y lleiddiad.
14Dyro iddynt Arglwydd: beth a roddi? crothau erthylgar, a bronnau hespion.
15Eu holl, ddrygioni hwynt yn Gilgal, yno y caseais hwynt: am ddrygioni eu gweithredoedd eu hun y bwriaf hwynt allan o’m tŷ: ni chwanegaf eu caru hwynt: eu holl dywysogion anhywaith.
16Ephraim a dorrwyd i’r llawr, eu gwraidd a wywodd, dwyn ffrwyth ni’s gwnant: ac os cenhedlant, lladdaf annwyl-blant eu crothau.
17Fy Nuw ai gwrthyd hwynt, am na wrandawsant arno ef: am hynny y byddant gyrwydraid ym mhlith y cenhedloedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
