1Yna Iob a barablodd trachefn, ac a ddywedodd.
2Oh na bawn i fel yn y misoedd o’r blaen: fel yn y dyddiau pan gadwe Duw fyfi.
3Pan wnae efe iw oleuni lewyrchu vwch fy mhen: wrth oleuni yr hwn y rhodiwn drwy dywyllwch.
4Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuengtid, ac ymgeledd Dduw ac fy mhabell.
5Pan yr Holl-alluog etto gyd a mi: a’m llangciau o’m hamgylch.
6Pan olchid fy nhraed ag ymenyn: a dywallde y graig arnafi afonydd o olew.
7Pan awn i allan i’r porth trwy’r dref: parwn baratoi fy eisteddfa yn yr heol.
8Llangciau a’m gwelent, ac a ymguddient: a henuriaid a gyfodent, ac a safent.
9Tywysogion a attalient eu ymadroddion: ac a osodent llaw ar eu genau.
10Pendefigion cymmen a ymguddient: ai tafod hwy a lyne wrth daflod eu genau.
11Canys y glust clywe a’m bendithie: 213 a’r llygad gwele a destiolaethe o honof.
12Canys gwaredwn y tlawd yr hwn a fydde yn gweiddi: a’r ymddifad, a’r ni gynnorthwy-wr iddo.
13Bendith y colledig a ddeue arnaf: a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu.
14Gwiscwn gyfiawnder, a hithe a wisce am danafi: a’m barn fel mantell, a choron.
15Llygaid oeddwn i’r dall: a thraed oeddwn i’r cloff,
16Tâd oeddwn i’r rhai anghenog: a’r cŵyn nid adwaenwn, a chwiliwn i allan.
17Drylliawn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn: a gwnawn iddo ef fwrw’r sclyfaeth allan oi ddannedd.
18Am hynny y dywedwn, byddaf farw yn fy nŷth: a byddaf morr aml nyddiau a’r tywod.
19Fyng-wreiddin yn agored i’r dyfroedd: a’r gwlith a arhosodd yn fy mrig.
20Fyng-ogoniant oedd îr gyd a mi: a’m bŵa a adnewydde yn fy llaw.
21Hwynt a wrandawent arnaf, ac a ddisgwilient: distawent am fyng-hyngor.
22Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy ailwaith: canys fy ymadrodd a ddifere arnynt hwy.
23A hwy a’m disgwilient i fel glaw: ac a agorent eu genau fel y diweddar-law.
24Chwarddwn arnynt hwy, ni chredent: ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio.
25Dewiswn eu ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu: megis yr hwn a gyssuro rai galarus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
