Esay 54 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. LIIII.Duw yn addo helaethu ei eglwys, 4 maddeu ei phechodau, 11 A rhoddi iddi hi ogoniant, ac ar ei gelynnion ddinistr.

1Can amhlantadwy heb escor, bloeddia ganu, a gorfoledda, nid escorodd: o herwydd amlach meibion yr anrhaithiedic na’r wriog medd yr Arglwydd.

2Helaetha lê dy babell, ac estynned cortynnau dy bresswylfeudd, nac attal: estyn dy raffau, cadarnhâ dy hoelion.

3Canys ti a amlheuir tu a’r llaw ddehau, a thua’r llaw asswy, a’th hâd a oresgyn y cenhedloedd, a dinasoedd anrhaithiedic a gyfanneddant hwy.

4Nac ofna, canys ni’th gywilyddir, ac ni’th wradwyddir, ac ni’th warthruddir, eithr anghofi wradwydd dy ieuengctid, a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwyach.

5Canys dy briod hwn a’th wnaeth, Arglwydd y lluoedd ei enw: dy waredudd hefyd Sanct Israel a elwir Duw’r holl ddaiar.

6Canys fel gwraig wrthodedic, a chystuddiedic o yspryd i’th alwodd yr Arglwydd, fel gwraig ieuangc pan oeddit ti wrthodedic medd dy Dduw.

7Tros ennyd fechan i’th adewais; ond â mawr drugaredd i’th gasclaf.

8Mewn ychydig sorriant y cuddiais fy wyneb oddi wrthit ennyd ond â thrugaredd dragywyddol y trugarhais wrthit medd yr Arglwydd dy waredudd.

9Canys dyfroedd Noah hynn i mi, megis y tyngais nad ele dyfroedd Noah mwy dros y ddaiar: felly y tyngais na sorraf wrthit, ac na’th geryddaf.

10Canys y mynyddoedd a giliant, a’r bryniau a siglant: eithr fy nhrugaredd mau fi ni chilia, a chyfammod fy hedd ni syfl medd dy drugarog Arglwydd.

11Y druan helbulus ddigyssur, wele mi a’th furiaf di a Charbunculus, ac a’th sylfaenaf â Saphyr.

12Gosodaf hefyd dy ffenestri o rissial, a’th byrth o feini disclair, a’th holl derfyn â cherric dymunol.

13Dy holl feibion hefyd Ioan.6.50.wedi eu dyscu gan yr Arglwydd, a mawr heddwch dy feibion.

14Mewn cyfiawnder i’th siccrheuir, cilia ym mhell oddi wrth orthrymder canys nid ofni, ac oddi wrth ddychryn, canys ni nessâ attat.

15Wele gan ymgasclu a ymgasclo ni o honofi: pwy bynnac o honot ti a ymgasclo i’th erbyn efe a syrth.

16Wele myfi a greais y gof, yr hwn a chwytha y marwor yn tân, ac a ddefnyddia arf oi waith ei hun: myfi hefyd a greais y dinistrudd i ddestruwio.

17Ni lwydda vn offeryn a lunier i’th erbyn, a thi a orchfygi bob tafod a gyfodo i’th erbyn mewn barn: dymma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd, ai cyfiawnder hwynt oddi wrthifi medd yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help