Esther 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.Ahasferus yn darllen mewn llyfr am ffyddlondeb Mardocêus. 10 Ac yn peri ei anrhydeddu ef yn rhagorol.

1Y noswaith honno cwsc y brenin a giliodd ymmaith: am hynny efe a archodd ddwyn llyfr y coffadwriaethau, hanession yr amseroedd, a darllenwyd hwynt ger bron y brenin.

2Yna y cafwyd yn scrifennedic Esth.2.21.yr hyn a fynegase Mordocêus am Bigthana, a Theres dau o stafellyddion y brenin o’r rhai oeddynt yn cadw y trothwy: y rhai a geisiasent estynn llaw yn erbyn brenin Ahasferus.

3Yna y dywedodd y brenin, pa anrhydedd, neu fawredd a wnaed i Mordocêus am hyn? a llangciau y brenin ei wenidogion ef a ddywedasant, ni wnaed dim erddo ef.

4Ar hynny y brenin a ddywedodd, pwy yn y cyntedd? (a Haman a ddaethe i gyntedd tŷ y brenin nesaf allan i ddywedyd wrth y brenin am grogi Mordocêus ar y prenn yr hwn a barotôase efe iddo. )

5A llangciau y brenin a ddywedasant wrtho, wele Haman sydd yn sefyll yn y cyntedd: a dywedodd y brenin, deled efe i mewn.

6Pan ddaeth Haman i mewn, yna y dywedodd y brenin wrtho ef, beth a wneir i’r gŵr yr hwn y mae y brenin yn ewyllysio ei anrhydeddu? (yna Haman a ddywedodd yn ei galon: i bwy yr ewyssysia y brenin wneuthur anrhydedd yn fwy nac i mi?)

7A Haman a ddywedodd wrth y brenin y gŵr yr hwn y mae y brenin yn chwenychu ei anrhydeddu,

8Dygant wisc frenhinawl yr hon yr ymwiscodd y brenin ynddi: a march yr hwn y marchogodd y brenin arno, ac yna rhodder brenhinawl goron am ei benn ef.

9A rhodder y wisc, a’r march yn llaw vn o dywysogion y brenin y rhai raglawiaid, a gwiscant am y gŵr yr hwn y mae y brenin yn chwenychu ei anrhydeddu: a pharant iddo farchogeth ar y march drwy heol y ddinas, a chyhoeddant oi flaen ef, Fel hyn y gwneir i’r gŵr yr hwn y mae y brenin yn chwenychu ei anrhydeddu.

10Yna y brenin a ddywedodd wrth Hamā, bryssia, cymmer y wisc a’r march fel y lleferaist, a gwna felly i Mordoceus yr Iddew’r hwn sydd yn eistedd ym mhorth y brenin: na âd heb wneuthur ddim o’r hynn oll a leferaist.

11Felly Haman a gymmerth y wisc, a’r march, ac a wiscodd am Mordocêus, gwnaeth hefyd iddo farchogeth drwy heol y ddinas, a gwaeddodd oi flaen ef, Fel hyn y gwneir i’r gŵr yr hwn y mae y brenin yn mynnu ei anrhydeddu.

12Yna y dychwelodd Mordocêus i borth y brenin: a Haman a yrrwyd iw dy yn alarus wedi gorchguddio ei benn.

13A Haman a adroddodd i Zeres ei wraig ac iw holl garedigion yr hyn oll a ddigwyddase iddo: yna ei ddoethion ef, a Zeres ei wraig a ddywedasant wrtho, os o hâd yr Iddewon Mordocêus yr hwn y dechreuaist syrthio oi flaen ni orchfygi mo honaw, onid gan syrthio y syrthi oi flaen ef.

14Tra’r oeddynt hwy etto’n ymddiddan ag ef, stafellyddion y brenin a ddaethant: ac a gyrchasant Haman ar frys i’r wledd yr hon a wnelse Esther.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help