Philippiaid 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.1 Y mae yn eu hannog i fôd o ymwreddiad da. 15 Ac yn diolch iddynt am yr ymgeledd a wnaethent iddo ef yng-harchar. 21 Ac felly y mae yn dibennu gan gânu yn iach.

1Gan hyny fy mrodyr annwyl a hoff, fy llawenydd a’m coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, annwylyd.

2Yr ydwyf yn attolwg i Efodias, ac yn deisyf ar Syntyche fod o’r vn feddwl yn yr Arglwydd.

3Ac yr ydwyf yn dymuno arnat tithe fyngwir gymmar, cymmorth hynny y rhai a lafuriasant gyd â mi yn yr Efengyl, ynghyd a Chlement hefyd, a chyd ag eraill o’m cydweithwyr, y rhai y mae eu henwau yn Llawenhewch yn yr Arglwydd yn oestadol, a thrachefn meddaf, llawenhewch.

5Bydded eich arafwch yn hyspus i bôb dyn y mae’r Arglwydd yn agos.

6 Math.6.25. Na ofelwch ddim: eithr ym mhôb dim dangoser eich dymuniad i Dduw mewn gweddi a deisyfiad gyd â diolch.

7A thangneddyf Dduw yr hwn sydd vwchlaw pôb deall a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng-Hrist Iesu.

8Heb law hyn frodyr, pa bethau bynnag sydd wîr, pa bethau bynnag sydd onest, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgâr, pa bethau bynnag sydd ô enw da, od oes vn rhinwedd, ac od oes dim clôd, meddyliwch am y pethau hyn,

9Y rhai a ddyscasoch, ac a dderbynniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi: y pethau hyny gwnewch, a Duw yr heddwch a fydd gyd â chwi.

10Llawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn ddirfawr, am i chwi yr awr hō o’r diwedd ymadnewyddu i ofalu am danafi am yr hyn beth yr oeddych yn gofalu, ond nid oeddech yn cael ennyd.

11Nid wyf yn dywedyd o herwydd eisieu, canys dyscais ym-mha gyflwr bynnag y bwyf, fôd yn fodlon iddo.

12Ac mi a fedraf ymostwng, a medraf amlhau: ym mhôb lle, ac ym mhôb dim im haddyscwyd i fôd yn llawn, a bôd yn newynog, a bod mewn helaethrwydd, a bôd mewn eisieu.

13Pôb dim a allaf trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu.

14Er hynny da y gwnaethoch ar gyfrannu i’m gorthrymder i.

15A chwi Philippiaid a ŵyddoch y modd yn nechreuad yr Efengyl pan aethym i ymmaith o Macedonia: na chyfrannodd vn eglwys â mi o ran rhoddi a derbyn, ond chwychwi yn vnic.

16Chwi a anfonasoch i mi i Thessalonica, vn-waith, ac eilwaith wrth fy rhaid.

17Nid o herwydd fy mod i yn ceisio rhodd: eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi.

18Mi a gefais bob dim, ac y mae gennif helaethrwydd, mi a lawnwyd pan dderbynniais gan Epaphroditus y pethauoddi wrthych chwi, arogl peraidd, aberth cymmeradwy boddlon gan Dduw.

19A’m Duw a gyflawna eich ôll anghenraid yn ôl ei olud ef, yn ogoneddus yng-Hrist Iesu.

20I Dduw sef ein Tâd gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

21Anherchwch yr hôll Sainct yng-Hrist Iesu: y mae’r broddyr sydd gyd â mi yn eich annerch.

22Y mae y Sainct oll yn eich annerch chwi, ac yn bennaf y rhai ydynt o deulu Cæsar.

23Rhâd ein Harglwydd Iesu Grist gyd â chwi ôll. Amen.

O Rufain yr scrifennwyd at y Philippiaid gyd ag Epaphroditus.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help