Galarnad Ieremi 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.

1Pa fodd y rhydodd yr aur? y newidiodd yr aur coeth da? y taflwyd cerrig y cyssegr ym mhen pob heol.

2Anrhydeddus feibion Sion, a chystal ag aur pur: pa fodd y cyfrifwyd hwynt fel stenau pridd waith dwylo y crochenydd.

3Y dreigiau a dynnasant allan eu bronnau, ac a roddasant sugn iw cenawon: merch fy mhobl yn greulon Iob.39.17.fel yr estrisiaid yn yr anialwch.

4Tafod plentyn sydd yn glynu wrth daflod ei enau gan syched: y plant a ofynnasant fara, nid a dorre iddynt.

5Y rhai a fwytaent yn foethus a ddifethwyd yn awr yn yr heolydd: y rhai a feithrinwyd mewn scarlat a gofleidiasant y dom.

6Mwy yw anwiredd merch fy mhobl i na phechod Sodoma yr hon a ddinistriwyd megis yn ddisymmwth, ac heb gadernid yn gwerssyllu iw herbyn.

7Glânach oedd ei Nazareaid hi na’r eira, gwynnach na’r llaeth: gwridogach oeddynt o gorph na’r cwrel, ai trwssiad fel saphyr.

8[Yn awr] duach yw’r golwg arnynt na’r gloun, nid adweinir hwynt yn yr heolydd: eu croen a lŷnodd wrth eu hescyrn, ac a wywodd fel prenn.

9Gwell yw y rhai a lladdwyd â chleddyf na’r rhai a laddwyd â newyn: o blegit y rhai hyn a ddihoenasant wedi eu lladd o eisieu cnwd y maes.

10Dwylo gwragedd tosturiol a ferwasant eu plant eu hun: oeddynt yn ymborth iddynt hwy yn adfyd merch fy mhobl i.

11Yr Arglwydd a gyflawnodd ei ddigter, a dywalltodd lidiawgrwydd ei sorriant, ac a gynneuodd dân yn Sion yr hwn a ddifaodd ei seiliau hi.

12Ni choelie brenhinoedd y ddaiar, na holl drigolion y bŷd y deue y gwrthwyneb-wr a’r gelyn i mewn i byrth Ierusalem,

13Am bechodau ei phrophwydi, anwiredd ei hoffeiriaid y rhai a ollyngasant waed y rhai cyfiawn oi mewn hi.

14Gwibiasant deillion yn yr heolydd, ymddifwynasant gan waed, fel na ellyd cyffwrdd ai dillad hwynt.

15Gwaedde arnynt, ciliwch ô aflan, ciliwch, ciliwch na chyffyrddwch felly y ciliasant, ac yr aethant ymmaith, yna y dywedwyd ym mysc y cenhedloedd, ni thrigant hwy mwyach.

16Sorriant yr Arglwydd a’u gwascarodd hwynt; nid edrych efe arnynt mwy, ni pharchent hwy yr offeiriaid, ni thosturient wrth yr henaf-gwŷr.

17Ein llygaid a ballasant tra yr oeddem ni yn disgwil am ein cynnorthwy ofer: disgwil yr oeddem ni yn vnic wrth genhedlaeth yr hon nid achube.

18Hwynt a ddisgwiliasant ein cerddediad fel nad allem fyned ar hŷd ein heolydd, y mae ein diwedd ni yn agos: ein dyddiau ni a gyflawnwyd, diau ddyfod ein diwedd ni.

19Yscafnach yw ein erlid-wŷr nag eryrod yr awyr, y maent yn ein herlid ni ar y mynyddoedd, ac yn ein cynllwyn ni yn yr anialwch.

20Anadl ein ffroenau eneiniog yr Arglwydd a ddaliwyd yn eu rhwydau hwynt: yr hwn y dywedasem, tann ei gyscod ef y byddwn ni byw ym mysc y cenhedloedd.

21Bydd lawen a hyfryd merch Edom yr hon wyt yn trigo yn nhir Hus: daw cwppan heibio i tithe hefyd, ti a feddwi ac a ymnoethi.

22Gorphennwyd dy gospedigaeth di merch Sion ni chaeth-gludir di mwy: efe a ymwel a’th anwiredd di merch Edom, efe a ddadcuddia dy bechodau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help