1Y dwthwn hwnnw y rhoddodd y brenin Ahasferus i’r frenhines Esther dy Haman gwrthwyneb-ŵr yr Iddewon: a Mordocêus a ddaeth o flaen y brenin, canys Esther a fynegase Esth.2.7.beth efe iddi hi.
2A’r brenin a dynnodd ymmaith y fodrwy yr hon a gymmerase efe oddi wrth Haman, ac ai rhoddodd i Mordocêus: ac Esther a osododd Mordocêus yn nhŷ Haman.
3Yna Esther a lefarodd eilwaith ger bron y brenin, ac a syrthiodd o flaen ei draed ef: wylodd hefyd, ac ymbiliodd ag ef am fwrw ymmaith ddrygioni Haman yr Agagiad, ai amcan yr hwn a amcanase efe yn erbyn yr Iddewon.
4A’r brenin a estynnodd Esth.5.2.y deyrn-wialen aur tu ag at Esther: yna Esther a gyfododd, ac a safodd o flaen y brenin,
5Ac a ddywedodd, o bydd bodlon gan y brenin, ac o chefeis ffafor oi flaen ef, ac ydyw y peth yn iawn ger bron y brenin, a minne’n gymmeradwy yn ei olwg ef: scrifenner am alw yn ôl lythyrau amcan Haman fab Hammedatha’r Agagiad, y rhai a scrifennodd efe i ddifetha’r Iddewon y rhai drwy holl dalaithau y brenin.
6Canys pa fodd y gallaf edrych ar y drygfyd yr hwn a gaiff fy mhobl? a pha fodd y gallaf edrych ar ddifethiaid fyng-henedl?
7A’r brenin Ahasferus a ddywedodd wrth Esther y frenhines, ac wrth Mordocêus yr Iddew: wele tŷ Haman a roddais i Esther, a hwynt ai crogasant ef ar y prenn, am iddo ef estyn ei law yn erbyn yr Iddewon.
8Gan hynny scrifennwch chwitheu dros yr Iddewon fel y gweloch yn dda yn enw y brenin, ac inseiliwch a madrwy y brenin: canys yr scrifen yr hon a scrifennwyd yn enw y brenin, ac a seliwyd a modrwy y brenin nid iw datroi.
9Yna y galwyd scrifennyddion y brenin yr amser hwnnw yn y trydydd mîs (hwnnw y mis Sifan) ar y trydydd ar hugain o honaw ef, ac scrifennwyd yn ôl yr hyn oll a’r a orchymynnodd Mordocêus i’r Iddewon, ac i’r pendefigion, y pennaduriaid hefyd, a thywysogion y talaithau, y rhai o India hyd Ethiopia, cant a saith ar hugain o dalaithau, bob talaith wrth ei scrifen, ac bob pobl yn ôl eu tafod-taith: at yr Iddewon hefyd yn ôl eu scrifen hwynt, ac yn ôl eu tafod-iaith.
10Ac efe a scrifennodd yn enw y brenin Ahasferus, ac ai seliodd a modrwy y brenin: ac efe a anfonodd lythyrau gyd a’r rhedegwŷr yn marchogeth ar feirch, dromedariaid, y mulod buanaf ebolion cessig.
11[Drwy] y rhai y caniadhaodd y brenin i’r Iddewon y rhai ym mhob dinas ymgynnull, a sefyll am eu henioes i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha holl lu y bobl a’r dalaith y rhai oeddynt yn eu gorthrymmu hwynt, yn blant, ac yn wragedd: ac i sclyfaethu eu hyspail hwynt,
12Mewn vn dydd drwy holl dalaithau y brenin Ahasferus: yn y trydydd ar ddec o’r deuddecfed mis hwnnw mis Esth.3.13.Adar.
13Testyn yr scrifen rhoddi gorchymyn ym mhob talaith yn eglur i’r holl bobl: sef ar fod yr Iddewon yn barod erbyn y diwrnod hwnnw i ymddial ar eu gelynnion.
14Y rhedeg-wŷr y rhai oeddynt yn marchogeth y dromedariaid mulod buanaf a aethāt ar frŷs wedi eu gyrru gyd a gair y brenin: sef a’r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhin-lys.
15A Mordocêus a aeth allan o ŵydd y brenin mewn brenhinawl wisc rudd-goch, a gwēn, ac choron fawr o aur, ac dillad sidan, a phorphor: a dinas Susan a orfoleddodd, ac a lawenychodd.
16I’r Iddewon yr oedd goleuni a llawenydd: hyfrydwch hefyd, ac anrhydedd.
17Ac ym mhob talaith, ac ym mhob dinas, lle, i’r hwn y daith gair y brenin ai orchymyn llawenydd ac hyfrydwch gan yr Iddewon, gwledd a diwrnod daionus: canys llaweroedd o bobloedd y wlâd a aethant yn Iddewon, o blegit arswyd yr Iddewon a syrthiase arnynt hwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.