1Yr amser hwnnw, y dywedodd yr Arglwyd wrthif: Exod.34.1.nadd it ddwy lech faen fel cyntaf, a thyret i fynu attafi i’r mynydd, a gwna it Arch bren.
2A mi a scrifennaf ar y llechau, y geiriau y rhai oeddynt ar y llechau cyneaf y rhai a dorraist: a gosot tithe hwynt yn yr arch.
3Yna gwneuthum Arch’o goed Sittim, ac a neddais ddwy lêch faen, fel y rhai cyntaf: ac a euthum i fynu i’r mynydd, a’r ddwy lech yn fy llaw.
4Ac efe a scrifennodd ar y llechau, fel y scrifen gyntaf, y deng-air y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân yn nydd y gynnulleidfa: a rhoddes yr Arglwydd hwynt attafi.
5Yna y dychwelais, ac y deuthum i wared o’r mynydd, ac mi a osodais y llechau yn yr Arch, yr hon a wnaethwn: ac yno y buant megis y gorchymynnodd yr Arglwydd i mi.
6A meibion Israel a gychwnnasant o Beeroth meibion Iacan i Mosera, yno y bu farw Aaron, ac efe a gladdwyd yno: ac Eleazar ei fab a offeiriadodd yn ei le ef.
7Oddi yno y cychwnnasant i Gudgodah: ac o Gudgodah i Iethebath, tir afonydd dyfroedd.
8Yr amser hwnnw, y naillduodd yr Arglwydd lwyth Lefi i ddwyn Arch cyfammod yr Arglwydd, i sefyll ger bron yr Arglwydd, iw wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef, hyd y dydd hwn.
9Am hynny ni bydd rhan i Lefi, nac etifeddiaeth gyd at frodyr: yr Arglwydd yw ei etifeddiaeth ef, megis y dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrtho ef.
10Ac mi a arhoais yn y mynydd ddeugain nhiwrnod, a deugain nhos fel y dyddiau cyntaf: a gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith hon hefyd, ni ewyllyssiodd yr Arglwydd dy ddifetha di.
11A dywedodd yr Arglwydd wrthif, cyfot, dôs i gychwyn o flaen y bobl, fel y delant, ac y gorescynnant y tir, yr hwn a dyngais wrth eu tadau am ei roddi iddynt.
12Ac yr awr hon Israel beth y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gēnyt? onid ofni’r Arglwydd dy Dduw, gan rodid yn ei holl ffyrdd, a chan ei garu ef, a rhau wasanaethu’r Arglwydd dy Dduw a’th holl galon, ac a’th holl enaid:
13Gan gadw gorchymynnion yr Arglwydd, ai ddeddfau, y rhai a orchymynnais i ti y dydd hwn, er budd i ti.
14Wele y nefoedd, a nefoedd y nefoedd eiddo’r Arglwydd dy Dduw: y ddaiar a’r hyn oll ynddi.
15[Etto] ar dy dadau di yn vnic y rhoddes yr Arglwydd ei ferch gan eu hoffi hwynt, ac efe a wnaeth ddewis oi hâd hwynt ar eu hôl hwynt, o honoch chwi, o blith yr holl bobloedd, megis heddyw
16 Ierem.4.4. Enwaedwch chwithau ddienwaediad eich calon, ac na chaledwch eich gwarr mwyach.
17Canys yr Arglwydd eith Duw thwi, yw Duw y duwiau, ac arglwydd yr arglwyddi, y Duw mawr, cadarn, ac ofnadwy, ’r 2.Cron.19.7. Iob.34.19. Rhuf.2.11.hwn ni dderbyn wyneb, ac ni chymmer wobr.
18Yr hwn a farna’r ymddifad, a’r weddw, ac y sydd yn hoffi y dieithr, gan roddi iddo fwyd a dillad.
19Hoffwch chwithau y dieithr, canys dieithraid fuoch yn nhîr yr Aipht.
20Yr Deut.6.13. Math.4.10.Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi, wrtho ef hefyd y glyni, ac iw enw ef y tyngi.
21Efe yw dy fawl, ac efe yw dy Dduw, ’r hwn a wnaeth it y mawrion, a’r ofnadwy hyn, y rhai a welodd dy lygaid.
22Dy dadau a aethant i wared i’r Aipht, Genes.46.27.|GEN 46:27. Exod.1.5.yn ddec enaid a thrugain, yr awr hon yr Arglwydd dy Dduw a’th osododd di Genes.15.5.fel ser y nefoedd o luossogrwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.