1Trachefn pan fyddo vn yn ymbaratoi i fordwyo, ac ar fyned trwy donnau geirwon, efe a waed da ar bren pyttrach na’r llong yr hon a fyddo yn ei ddwyn ef.
2O blegit chwant i elw a ddychymygase hwnnw, a chywreinrwydd ai gwnaethe yn gelfydd.
3Eithr dy ragluniaeth di o Dâd sydd yn llywodraethu, Exod.14.22.o blegit ti a roddaist ffordd yn y môr a llwybr diogel ym mysc y tonnau:
4Gan ddangos y gelli di achub rhag pôb peth, fel y gallo vn fyned i fynu heb gelfyddyd.
5A thi a fynni na byddo gweithredoedd dy ddoethineb yn segur: am hynny yr ymddyried dynion i dippin o bren am eu heinioes, mewn llong y byddant hwy cadwedic yn myned trwy y cefn-fôr.
6Ac Gen.6.4|GEN 6:4 & 7.10.yn y dechreuad (pan ddifethwyd y cywri beilchion) gobaith y bŷd trwy ffoi i long a adawodd i’r bŷd hâd genedigaeth: o herwydd ei llywodraethu a’th law di.
7Canys bendigedic yw ’r pren trwy yr hwn y gwneir cyfiawnder.
8Melldigedic yw ’r a wneler â llaw a’r hwn ai gwnelo. O blegit Psal.115.8. baruc.6.3.hwn a weithiodd, a hwnnw er ei fôd yn llwgredig a elwir yn dduw.
9Yr Psal.5.5.annuwiol ai annuwioldeb ydynt mor gâs gan Dduw bôb vn ai gilydd.
10O herwydd yr hyn a wnaed yng-hyd a’r hwn ai gwnaeth a gystuddir.
11Am hynny y bydd cospedigaeth ar eulynnod y cenhedloedd am eu gwneuthur hwynt ym mysc creaduriaid Duw yn ffieidd-dra, Iere.10.8|JER 10:8, habacuc.2.18.ac yn dramgwydd i eneidiau dynion, ac yn fagl i draed y rhai angall.
12Canys dechreuad godineb oedd dychymygu eulynnod, ai caffaeliad hwynt oedd lwgredigaeth buchedd.
13O blegit nid o’r dechreuad yr oeddynt hwy, ac nid yn dragywydd y byddant hwy.
14Trwy ofer-ffrost dynion y daethant i’r bŷd, am hynny y bydd eu diwedd yn fyrr.
15Y tâd yn gystuddiol trwy anamserol alar am ei fab yr hwn a ddygwyd ymmaith yn gynnar sydd yn awr yn addoli megis yn dduw yr hwn yna a fu farw yn ddŷn, ac a roddes iw ddeiliaid ddirgeledigaethau, ac aberthau.
16Yna y cadwyd yn lle cyfraith yr annuwiol ddefod yr hon a gryfhase mewn amser, ac wrth orchymyn teyrniaid yr addolwyd delwau cerfiedic.
17Y rhai ni alle dynion eu anrhydeddu yn eu gŵydd, am eu bôd yn trigo ym mhell gan gymmeryd llun eu gwedd hwynt o bell, y gwaent hwy hynod ddelw y brenin yr hwn a anrhydeddent hwy i wenheithio iddo ef yn ddyfal, yn gystal yn ei absen ac yn ei ŵydd.
18A chwant y crefft-wr i gael anrhydedd a annogodd yr annyscedic i addoli fwy-fwy.
19O blegit efe ond odit yn ewyllysio rhygluddu bodd y llywydd, a ystymme y llun yn well trwy gelfyddyd.
20A’r gwerin wedi eu denu trwy dêggwch y gwaith, a gyfrifent yna yn dduw yr hwn o’r blaen a berchid fel dŷn.
21A hyn oedd fradychol fwriad i fywyd o herwydd i’r dynion a wasanaethant mewn dryg-fyd a than drahausdeb, roddi ar gerric a phrennau yr henw yr hwn nid yw iw wneuthur yr gyffredin i bethau eraill.
22Wedi hynny nid oedd ddigon cyfeiliorni yng-hylch adnabod Duw, eithr y rhai oeddynt yn byw ym mawr ryfel annwybodaeth a alwent hynny yn heddwch.
23O blegit am eu bôd hwy yn cadw naill ai ebyrth Deut.18.10. ierem.7.9|JER 7:9 & 19.4.yn peri lladd eu plant, ai dirgeledigaethau cuddiedig, ai gwallgofus gyfeddach yn dyfod o gyfreithiau dieithr:
24Ni chadwent hwy nai buchedd nai priodas yn lan: y naill a ladde y llall mewn cynllwyn, neu ai gofidie trwy odineb.
25Pob peth oedd yn gymysclyd, gwaed a chelanedd, lledrad a thwyll, llwgredigaeth anffyddlondeb, terfysc, anudon, a chynnwrf ar y rhai daionus:
26Angof am gymwynas, halogedigaeth eneidiau, cyfnewidiad genedigaethau, anweddeidd-dra mewn priodas, godineb ac anlladrwydd
27O blegit gwasanaeth eulynnod (y rhai ni ddylid eu henwi) yw dechreu, ac achos a diwedd pob drygioni.
28Canys tra fyddant hwy yn llawen, y maent hwy naill ai yn gwallgofi, ai yn prophwydo celwydd, ai yn byw yn anghyfiawn, ai yn tyngu anudon yn ebrwydd.
29O blegit tra ydynt hwy yn coelio i eulynnod meirw, er iddynt dyngu yn ddrwg, nid ydynt yn disgwil dialedd.
30Eithr fe a ddaw iddynt hwy yr hyn sydd gyfiawn am y ddau, sef am feddwl am Dduw ar fai, gan ddilyn eulynnod: a thyngu yn anghyfiawn, ac yn dwyllodrus gan ddirmygu cyfiawnder.
31O blegit nid gallu y rhai y tyngir iddynt, eithr cosp pechaduriaid a ddaw byth ar brosseddiad y rhai anghyfiawn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.