1A llefarodd yr Arglwyd wrth Moses, gan ddywedyd:
2Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, am iddynt ymneillduo oddi wrth bethau cyssegredic meibion Israel, ac na halogant fy enw sanctaidd, yn y pethau y rhai y maent hwy yn eu cyssegru i mi: myfi yr Arglwydd.
3Dywet wrthynt, pwy bynnac o’ch holl hiliogaeth trwy eich oesoedd a nessao at y pethau cyssegredic y rhai a gyssegro meibion Israel i’r Arglwydd ai aflendid arno, torrir ymmaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron: myfi yr Arglwydd.
4 Lefit.15.8. Na fwyttaed nêb o hiliogaeth Aaron o’r pethau cyssegredic, ac ynte yn wahan-glwyfus neu yn ddiferllyd, hyd oni lanhaer ef: a’r hwn a gyffyrddo wrth ddim wedi ei halogi wrth vn marw, neu wrth yr hwn yr êl oddi wrtho ddescynniad hâd,
5Neu’r vn a gyffyrddo ag vn ymlusciad yr hwn yr ymhalogo efe wrtho, neu wrth ddyn yr hwn yr ymhaloga efe wrtho, yn ei holl aflendid.
6A’r dŷn yr hwn a gyffyrddo ag ef a fydd aflanhyd yr hwyr, ac na fwyttaed o’r pethau cyssegredic, oddieithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr.
7A phan fachludo’r haul glân fydd, ac wedi hynny bwyttaed o’r pethau cyssegredic, canys ei fwyd ef hwn.
8Ac Exod.22.31.|EXO 22:30. Ezec.44.31.na fwyttaed o anifail wedi marw ei hun, neu wedi ei sclyfaethu, i fod yn aflan oi blegit: myfi yr Arglwydd.
9Ond cadwant fy neddf i, ac na ddygant bechod arno ei hun, i farw oi blegit pan halogant hi: myfi yr Arglwydd eu sancteiddudd hwynt.
10Ac na fwytaed vn dieithr-ddyn beth cyssegredic: alltud yr offeiriad, a’r gwas cyflog ni chaiff fwyta y peth cyssegredic.
11Ond pan brynno ’r offeiriad ddŷn yn werth ei arian, hwnnw a gaiff fwyta o honaw a’r hwn a âner ei dŷ ef: y rhai hynn a gânt fwyta oi fara ef.
12A merch yr offeiriad pan fyddo hi eiddo gŵr dieithr ni chaiff hi fwyta o offrwm cyssegredic.
13Ond merch yr offeiriad os gweddw fydd hi, neu wedi yscar ac heb blant iddi, ac wedi dychwelyd i dŷ ei thâd a gaiff fwyta o fara ei thad, Lefit.11.14.megis ei hieuenctyd, ac ni chaiff neb dieithr fwyta o honaw.
14A phan fwytu vn beth cysegredic mewn anwybod, yna chwaneged ei bummed rann atto, a rhodded y peth cyssegredic i’r offeiriad.
15Felly na hologant gyssegredic meibion Israel y rhai a offrymmant i’r Arglwydd.
16Ac na wnant iddynt ddwyn cosp camwedd gan fwytta o honynt eu cyssegredic bethau hwynt: o herwydd myfi yr Arglwydd eu sancteiddudd.
17A llefarodd yr Arglwydd wrth moses, gan ddywedyd:
18Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion ac wrth holl feibion Israel, a dywet wrthynt, pwy bynnac o dŷ Israel ac o ddieithr yn Israel yr hwn a offrymmo ei offrwm yn ôl ei holl addunedau, ac yn ol ei holl roddion gwir-fodd y rhai a offrymant i’r Arglwydd yn boeth offrwm:
19Offrymmwch wrth eich ewyllys eich hun vn gwryw perffaith-gwbl o’r eidionnau, o’r defaid, neu o’r geifr,
20Nac offrymmwch ddim yr hwn anaf arno, o herwydd ni bydd efe yn gymeradwy trosoch.
21A Deut.15.21.phan offrymmo gŵr aberth hedd i’r Arglwydd gan naillduo adduned, neu rodd ewyllysgar o’r eidionnau, neu o’r praidd, bydded berffaith-gwbl fel y byddo gymeradyw: na fydded vn anaf arno.
22 Lefit.21.18. Y dall neu y briwedic, neu yr anafus, neu y dafadennoc, neu yr crachlyd, neu’r clafrllyd, nac offrymmwch hwynt i’r Arglwydd, ac na roddwch aberth tanllyd o honynt ar allor yr Arglwydd.
23A’r eidion, neu’r ddafad a fyddo wedi estyn neu gwttogi gellwch ei offrymmu yn offrwm gwir-fodd, ond tros adduned ni bydd cymeradwy.
24Nac offrymmwch ychwaith i’r Arglwydd vn wedi llethu, ne yssigo, nêu wedi tynnu’n rhydd, neu dorri ymmaith ac na wnewch yn eich tîr
25Ac nac offrymmwch o law vn dieithr fwyd eich Duw o’r holl bethau hynn: canys y mae eu llygrédigaeth ynddynt, anaf arnynt, ni byddant gymeradwy trosoch.
26A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd.
27Pan aner eidion, neu ddafad, neu afr, bydded saith niwrnod tann ei fam, a’r wythfed dydd, ac o hynny allan y bydd cymeradwy yn offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd.
28Ac Deut.22.6.am fuwch neu ddafad, na leddwch hi ai llwdn, yn yr vn dydd.
29A phan aberthoch aberth diolch i’r Arglwydd offrymmwch wrth eich ewyllys eich hunain.
30Y dydd hwn y bywtteir ef, Lefit.7.15.na weddillwch o honaw hyd y borau: myfi yr Arglwydd.
31Cedwch chwithau fyng-orchymynnion a gwnewch hwynt: myfi yr Arglwydd.
32Ac na halogwch fy enw sanctaidd, ond sancteiddier fi ym mysc meibion Israel, myfi yr Arglwydd eich sancteiddudd,
33Yr hwn a’ch dygais chwi allan o dîr yr Aipht i fod yn Dduw i chwi, myfi yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.