Galathiaid 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Yng-hylch enwaediad. 13 Cariad perffaith. 19 Gweithredoedd y cnawd. 22 A gweithredoedd yr Yspryd.

1Sefwch yn y rhydd-did y rhyddhaodd Crist ni, ac na rwyder chwi eil-waith dann iau caethiwed.

2 Hyn meddaf: rhodiwch yn yr Yspryd, ac na chyflawnwch a chwennycho y cnawd.

17Canys y mae y cnawd yn chwennych yn erbyn yr Yspryd, a’r Yspryd hefyd yn erbyn y cnawd, a’r rhai hyn a wrthwynebāt ei gilydd, fel na alloch wneuthur beth bynnac a ewyllysioch.

18Os gan yr Yspryd i’ch arweinir, nid ydych tann y ddeddf.

19Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai ynt, torri priodas, godineb, aflendid, digywilydd-dra,

20Addoliad eulynnod, swyn-gyfaredd, casineb, llid, gelyniaeth, digofaint, ymrysonau, terfyscau, heresi,

21Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfedach, a’r cyffelyb pethau hyn, y rhai yr wyfi yn rhacddywedyd wrthych fel y dywedais yn y blaen, y rhai a wnânt y fath bethau nad etifeddant deyrnas Dduw.

22Eithr ffrwyth yr Yspryd yw cariad, llawenydd, tangneddyf, ymaros, cymmynascarwch, daioni, ffydd, mwynedd-dra, dirwest.

23Yn erbyn y cyfryw, nid oes deddf.

24Canys y rhai sydd eiddo Crist, a groeshoeliasant y cnawd, a’i ŵyniau, a’i chwantau.

25Os byw yr ydym i’r Yspryd, rhodiwn hefyd yn yr Yspryd.

26Nac awn yn wag orfoleddus gan ymannog ei gilydd, ac ymgenfigēnu wrth ei gilydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help