1A Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf gan ddywedyd:
2Ha fâb dŷn beth yw coed y win-wydden, nâ phob coed’r winwyddgaingc yr hon sydd ym mysc prennau y coed?
3A gymmerir o honi goed i weithio mewn gwaith, a gymmerant o honi hoel i grogi vn offeryn arni?
4Wele yn ymborth i’r tân y rhoddir hi, difaodd y tân ei dau gwrr hi, ei chanol a oloscwyd, ac a wasanaetha hi mewn gwaith?
5Wele pan oedd gyfan ni weithid hi mewn gwaith, pa faint llai gan ei difa o dân, ai golosci y gweithir hi etto mewn gwaith?
6Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, megis pren y win-wŷdden ym mysc prennau y coed yr hon a roddais yn ymborth i’r tân: felly y rhoddaf drigolion Ierusalem.
7A rhoddaf fy wyneb yn eu herbyn hwynt, o’r dân y deuant, a thân ai difa hwynt, fel y gŵypoch mai myfi yr Arglwydd pan osodwyf fy wyneb iw herbyn hwynt.
8Rhoddaf hefyd y wlâd yn anrhaith, am wneuthur o honynt gamwedd, medd yr Arglwydd Dduw. 1 Daioni Duw i Ierusalem. 15 ei hanniolchgarwch, ai gau-dduwiaeth hitheu. 46 y mae yn cystadlu ag Ierusalem y dinasoedd gwaethaf. 49 Achlysur pechod y Sodomiaid. 60 Duw yn ei lîd yn coffau ei gyfammod am drugaredd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
