Philippiaid 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.S. Paul yn dinoethi ei galon tu ag attynt, 3 Gan roddi diolch, 4 A gweddio dros eu ffydd a’u hiechydwriaeth. 7 Y mae yn dangos ffrwyth ei adfyd. 25 Ac yn eu hannog i gytundeb, 28 A dioddefgarwch.

1Paul a Timotheus gweision Iesu Grist at yr holl Sainct yng-Hrist Iesu y rhai sy yn Philippos gyd â’r escobion, a’r diaconiaid:

2Rhâd fyddo gyd â chwi a thangneddyf gan Dduw am Tâd, a’r Arglwydd Iesu Grist.

3 I’m Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa am danoch,

4 1.Thess.1.2. (Gan weddio bôb amser yn fy holl weddiau trosoch oll yn llawen)

5O blegit y gyfran yr hon sydd i chwi yn yr Efengyl, o’r dydd cyntaf hyd yr awr hon.

6Gan fod yn siccr gennif hyn, y gorphen yr hwn a ddechreuodd waith da ynoch, hyd yn nydd Iesu Grist,

7Megis y mae yn iawn i mi synnied am danoch oll, am eich bôd gennif yn fyng-halon yn gystal yn fy rhwymau, ac yn fy amddeffyn i, a chadarnhâd yr Efengyl, eich bôd chwi oll yn gyfrannogion â mi o râs.

8Canys Duw sydd dyst i mi morr hoff gennif chwy-chwi oll yn ymyscaraoedd Iesu Grist.

9A hyn yr ydwyf yn ei weddio, ar amlhau o’ch cariad etto fwy-fwy mewn gwybydidaeth a phob synnwyr:

10I fedru dosparthu y pethau y byddo gwahaniaeth rhyngddynt, fel y byddoch bur a didramgwydd, hyd ddydd Crist,

11Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai trwy Iesu Grist er gogoniant a moliant i Dduw,

12Ac mi a ewyllysiwn i chwi ŵybod frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod o honynt yn hytrach er llwyddiant i’r Efengyl.

13Yn gymmaint a bod fy rhwymau i yn eglur yng-Hrist yn yr holl lys, ac ym mhob arall,

14Ac i lawer o’r brodyr yn yr Arglwydd fôd yn hyderusach, o blegit fy rhymwau i, i draethu y gair yn ddiofn.

15Y mae rhai yn pregethu Crist trwy genfigen, ac ymryson, a rhai hefyd o ewyllys da.

16Y naill blaid yn pregethu Crist o gynnen, ac nid yn burol, gan dybied dwyn mwy o flinder i’m rhwymau.

17A’r blaid arall o gariad, gan ŵybod fyng-osod i yn amddeffyn i’r Efengyl.

18Beth er hynny? etto Crist a bregethir ym mhob modd, pa vn bynnag ai o liw, ai yn gywir: ac am hyn yr ydwyf yn llawen, ac mi a fyddaf llawen hefyd.

19Canys gwn y syrth hyn yn iechydwriaeth i mi, trwy eich gweddi chwi, a thrwy gymhorthwy Yspryd Iesu Grist,

20Yn ôl fy hiraeth am gobaith na’m gwradwyddir mewn dim, eithr ô gwbl hyder fel pôb amser, felly yr awr hon hefyd y mawrygir Crist yn fyng-horph ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth.

21Canys byw i mi Crist, ac elw yw marw.

22Eithr a’i buddiol fydde i mi fyw yn y cnawd, a pha beth a ddewisaf ni’s gwn.

23Canys y mae yn gyfyng arnaf o’r ddautu, gan ddeisyfu fy-nattod, a bod gyd a Christ yr hyn sydd oref dim.

24Eithr aros yn y cnawd sydd yn fwy anghenrheidiol o’ch plegit chwi.

25A hyn a wn yn siccr, yr arhosaf, ac y cydtrigaf gyd â chwi ôll er ffynniant i chwi, a llawenydd i’r ffydd,

26Fel y byddo yn lluosog eich gorfoledd yn Iesu Grist trwost, gan fy-nyfodiad attoch drachefn.

27 Ephes.4.1.|EPH 4:1. Colos.1.10.|COL 1:10. 1.Thes.2.12. Yn vnic ymddygwch fel y mae addas i Efengyl Grist, fel pa vn bynnac ai gan ddyfod a’ch gweled, ai gan fod yn absennol y gallwyf glywed oddi wrth eich cyflwr, eich bôd yn sefyll yn vn Yspryd, ac yn vn enaid, yn cyd-ymdrech trwy ffydd yr Efengyl.

28Ac yn-nim na ddychrynnwch eich gwrthwyneb-wŷr, yr hyn sydd iddynt hwy yn arwydd siccr o ddinistr, ac i chwithau o iechydwriaeth, a hynny gan Dduw.

29Canys i chwi y rhoddwyd er Crist nid yn vnic fôd i chwi gredu ynddo ef, ond hefyd ddioddef erddo ef,

30Gan fôd i chwi yr vn ymdrin, ag a welsoch ynofi, ac yr awr hon a glywch ynofi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help