Ieremi 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Ieremi yn ceisio gwrthod bod yn brophwyd, gan ddangos ei ddiffig. 7 Yr Arglwydd yn ei gyssuro ef. 11 yn dangos hefyd iddo ef ddinistr Ierusalem. 17 Ac yn gorchymyn iddo eu rhybuddio hwynt o hyn yn ddiofn.

1Geiriau Ieremi fab 2.Bren.22.8.Helciah o’r offeiriaid y rhai yn Ios.21.18.Anathoth o fewn tir Beniamin,

2Yr hwn y daeth gair yr Arglwydd atto, yn nyddiau Iosiah fab Amon brenin Iuda: yn y drydedd flwyddyn ar ddêc oi deyrnasiad ef.

3Ac yn nyddiau Iehoacim fab Iosiah brenin Iuda yr oedd efe: nes darfod vn mlynedd ar ddêc i Zedeciah fab Iosiah brenin Iuda: hyd ddygiad Ierusalem i gaethiwed yn y pummed mîs.

4Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd:

5Cyn i mi dy Esa.49.1. Gal.1.15.lunio di mewn croth mi a’th adnabum, a chyn dy ddyfod o’r grôth y sancteiddiais di: mi a’th roddais yn brophwyd i’r cenhedloedd.

6Yna y dywedais, Esa.6.11. Exod.3.11. Exod.4.1.ô Arglwydd Dduw, wele, ni fedraf ymadroddi: canys bachgen ydwyfi.

7A’r Arglwydd a ddywedodd wrthif, na ddywet, bachgen ydwyfi: canys ti a ei at y rhai oll i’th anfonwyf di, a’r hyn oll a orchymynnwyf it, ti a ddywedi.

8Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt, canys yr ydwyfi gyd â thi i’th waredu di medd yr Arglwydd.

9Yna’r estynnodd yr Arglwydd ei law, ac a Exod.4.12. Esa.6.7. Math.10.20.gyffyrddodd a’m genau, a’r Arglwydd a ddywedodd wrthif, wele rhoddais fyng-eiriau yn dy enau di.

10Gwel, heddyw i’th osodais Math.18.18. 2.Cor.10.4. Heb.4.12.ar y cenhedloedd, ac ar y teyrnasoedd, i ddiwreiddio, ac i ddinistrio, i ddifetha, ac i ddestruwio, i adailadu, ac i blannu.

11Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd: ô Ieremi beth a weli di? a minne a ddywedais, gwialen almon a welaf fi.

12A dywedodd yr Arglwydd wrthif: da y gwelaist, canys mi a fryssiaf i gyflawni fyng-air.

13A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf yr ail waith gan ddywedyd: beth a weli di? mi a ddywedais, mi a welaf grochan berwedic ai wyneb yn edrych oddi wrth y gogledd.

14Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthif: o’r gogledd yr ymlêda dialedd ar holl drigolion y ddaiar.

15Canys wele, myfi a alwaf holl deuluoedd teyrnasoedd y gogledd medd yr Arglwydd, fel y delont, ac y gosodant bob vn ei eisteddfa wrth ddrws porth Ierusalem, ac wrth ei muroedd oll o amgylch, ac wrth holl ddinasoedd Iuda.

16A mi a draethaf wrthynt fy marn i, a’m holl anwiredd y rhai a’m gadawsant, ac a arogldarthasant i dduwiau eraill, ac a addolâsant weithredoedd eu dwylo eu hunain.

17Gwregyssa dithe dy lwynau, a chyfot, a dywet wrthynt yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn it, nac ofna rhagddynt: Ios.1.5.|JOS 1:5. Heb.13.5. Esa.50.7. Ezec.3.8.rhag i mi dy ddestruwio di ger eu bron hwynt.

18Canys wele heddyw yr ydwyf yn dy roddi di yn ddinas gaeroc, ac yn golofn haiarn, ac yn fûr prês yn erbyn yr holl dîr, yn erbyn brenhinoedd Iuda, yn erbyn ei thywysogion, yn erbyn ei hoffeiriaid, ac yn erbyn pobl y tir.

19Ymladdant hefyd yn dy erbyn, ond ni’th orchfygant, canys myfi gyd â thi i’th ymwared medd yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help