2.Cronicl 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Rhifedi seiri Salomon. 3 Salomon yn gyrru at Hiram i ddeisyf coed, a gweith-wyr.

1Yna y meddyliodd Salomon am adailadu tŷ i enw yr Arglwydd, ai frenhin-dŷ ei hun.

2A Salomon a rifodd ddeng-mil a thrugain o glud-wŷr, a phedwar vgain mil o gymyn-wŷr yn y mynydd: ac yn oruchwil-wŷr arnynt hwy dair mil a chwe-chant.

3A Salomon a anfonodd at Hiram brenin Tyrus gan ddywedyd: 2.Sam.5.12.megis y gwnaethost a Dafydd fy nhâd, ac yr anfonaist iddo cedr-wŷdd i adailadu iddo dy i drigo ynddo,

4(Wele fi yn adailadu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw iw gyssegru, i arogl-darthu arogl-darth arogl-bêr, a gwastadol osodiad a phoeth offrymmau boreu, a hwyr: ar y Sabbothau, ac ar y newydd loerau, ac ar osodedic ŵyliau’r Arglwydd ein Duw ni, hyd byth y mae hyn ar Israel.

5A’r tŷ yr hwn a adailadaf mawr, canys mwy ein Duw ni na’r holl dduwiau.

6A phwy a gascl nerth i adailadu iddo ef dŷ? canys y nefoedd, îe nefoedd y nefoedd nid amgyffredant ef, a phwy ydwyfi, yr hwn a adailadwn iddo ef dŷ, eithr i arogl-darthu oi flaen ef?

7Felly yn awr anfon i mi ŵr cywraint i weithio mewn aur, ac mewn arian, mewn prês, ac mewn haiarn, ac mewn porphor, ac scarlat, a sidan glâs, ac yn medru cerfio cerfiadau gyd a’r rhai celfydd y rhai ydynt gyd a mi yn Iuda, ac yn Ierusalem, y rhai a ddarpârodd fy nhâd Dafydd.

8Anfon hefyd i mi goed cedr, a ffynnidwŷd, 1.Bren.10.11. 2.Cron.9.10.ac Algumim-wŷdd o Libanus: canys myfi a wn y meidr dy weision di naddu coed Libanus, ac wele fyng-weision inne a gyd a’th weision dithe.

9A i ddarparu i mi lawer o goed cedr-wŷdd, canys y tŷ yr hwn yr ydwyfi ar ei adailadu mawr a rhyfedd.

10Ac wele i’r seiri y rhai a naddant y coed y rhoddais vgain-mil Corus o wenith wedi ei guro i’th weision, ac vgain mil Corus o haidd, ac vgain-mil Bath o wîn, ac vgain mil Bath o olew.

11A Hiram brenin Tyrus a attebodd mewn scrifen, ac a anfonodd at Salomon, o gariad yr Arglwydd ar ei bobl y rhoddes efe dydi yn frenin arnynt hwy.

12Dywedodd Hiram hefyd, bendigedic Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a wnaeth nef a daiar, am roddi o honaw ef i’r brenin Dafydd fab doeth, gwybodus o synnwyr, a deall i adailadu tŷ i’r Arglwydd, ai frenhin-dŷ ei hun.

13Ac yn awr yr anfonais ŵr celfydd, cywraint, a deallus o’r eiddo fy nhâd Hiram.

14Mab gwraig o ferched Dan, 1.bren.7.14.ai dad yn ŵr o Dyrus yn medru gweithio mewn aur, ac mewn arian, mewn prês, mewn haiarn, mewn cerrig, ac mewn coed, mewn porphor, ac mewn sidan glâs, ac mewn lliain main, ac mewn scarlat, ac i gerfio pôb cerfiad, ac i ddychymygu pôb dychymyg yr hwn a roddid atto ef, gyd a’th rai cywraint di, a rhai cywraint fy arglwydd Dafydd dy dâd.

15Ac yn awr y gwenith, a’r haidd, yr olew, a’r gwîn, y rhai a ddywedodd fy arglwydd, anfoned hwynt iw weision.

16Ac ni a gymynwn goed o Libanus, yn ôl dy holl raid, ac ai dygwn hwynt it yn gludeiriau ar hŷd môr Iapho: dŵg dithe i fynu i Ierusalem.

17A Salomon a rifodd yr holl wŷr dieithr y rhai yn nhîr Israel wedi y rhifiad a’r hon y rhifase Dafydd ei dâd ef hwynt: a chaed, tair ar ddêc a saith vgain o filoedd, a chwe-chant.

18Ac efe a wnaeth o honynt hwy ddengmil, a thri vgain yn glud-wŷr, a pedwar vgain mil yn nadd-wŷr yn y mynydd, a their mil a chwe-chant yn oruwch-wil-wŷr i beri i’r bobl weithio.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help