Psalmau 88 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. lxxviij.Psalm neu gân i feibion Corah at y pen-cerdd ar y Machalath i ganu, sef athrawiaeth Heman yr Esrehiad.

1O Arglwydd Dduw fy iechydwriaeth, gwaeddais oth flaen ddydd a nôs.

2Deued fyng-weddi ger dy fron, gostwng dy glust at fy llefain.

3Canys fy enaid a lawnwyd o ddrygau, a’m henioes a aeth i’r beddrod.

4Cyfrifwyd fi gyd a’r rhai a ddescynnent i’r pwll: oeddwn fel gŵr heb nerth.

5Yn rhydd ym mysc y meirw, fel rhai wedi eu harcholli yn gorwedd mewn bedd: y rhai ni chofiaist mwy, canys hwynt a dorrwyd oddi wrth dy law.

6Gosodaist fi yn y pwll issaf mewn tywyllwch, yn y dyfnder.

7Arnaf y pwysa dy ddigofaint, ac a’th holl donnau i’m cystuddiaist.Selah.

8Pellheaist fyng-hydnabod oddi wrthif, gosodaist fi’n ffieidd-dra iddynt: gwarchawyd fi fel nad awn allan.

9Fyng-olwg a ofidiodd gan fyng-hystudd, llefais arnat Arglwydd beunydd: estynnais fy nwylo attat.

10Ai i’r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y meirw a’th foliannu di? Selah.

11A dreuthir dy drugaredd di mewn bedd? a’th wirionedd yn nestruw?

12A adwaenir dy ryfeddod mewn tywyllwch? a’th gyfiawnder yn nhîr anghof?

13Ond myfi a lefais arnat Arglwydd: yn foreu y daw fyng-weddi o’th flaen.

14Pa ham Arglwydd y gwrthodi fy enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthif?

15Truan ydwyfi, ac ar drangedigaeth o’m hieuengctid, dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso.

16Dy sorriant a aeth trosof, dy arswyd a’m torrodd ymmaith.

17Fel dwfr i’m cylchynâsant beunydd: ac i’m cyd am-gylchâsant.

18Pellhêaist câr a chyfaill oddi wrthif: fyng-hydnabod yn ymguddio.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help