Lefiticus 18 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVIII.Gwahardd dilyn yr Aiphtiaid a’r Canaaneiaid. 6 Am briodi o fewn carenydd, neu gyfathrach. 19 Neu fyned at ferch yn ei mis-glwyf. 20 Neu wneuthur godineb. 21 Neu gau-dduwiaeth. 22 Neu bechod y Sodomiaid.

1A Llefarodd Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:

2Llefara wrth feibion Israel a dywet wrthynt, myfi yr Arglwydd eich Duw.

3Na wnewch yn ôl gweithred gwlâd yr Aipht, yr hon y trigasoch ynddi: ac na wnewch yn ôl gweithred gwlâd Canaan yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi, ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt.

4Fy marnedigaethau maufi a wnewch, a’m deddfau a gedwch, gan rodio ynddynt: myfi yr Arglwydd eich Duw.

5Ie cedwch fy neddfau am barnedigaethau, a’r

24Nac ymhalogwch yn yr hoff bethau hyn, canys yn hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd y rhai yr ydwyf yn eu gyru allan o’ch blaen chwi.

25A’r wlad a halogwyd, am hynny yr ydwyf yn ymweled ai hanwiredd yn ei herbyn fel y chwdo y wlâd ei thrigolion.

26Ond Lefit.20.22.cedwch chwi fy-neddfau, a’m barnedigaethau mau fi, ac na wnewch ddim o’r holl ffiaid bethau hyn, y priodor, na’r dieithr-ddyn yr hwn sydd vn ymdaith yn eich mysc.

27O herwydd yr holl ffiaid bethau hyn a wnaeth gwŷr y wlâd, yr hon o’ch blaen, a’r wlâd a halogwyd.

28Fel na chwdo y wlâd chwithau, pan halogoch hi, megis y chwda hi y genedl yr hon o’ch blaen.

29Canys pwy bynnac a wnel ddim or holl ffiaidd bethau hyn, torrir yr eneidiau ai gwnelo o blith eu pobl.

30Am hynny cedwch fy-neddf mau fi, heb wneuthur o’r deddfau ffiaidd y rhai a wnaed o’ch blaen chwi, ac nac ymhalogwch ynddynt: myfi yr Arglwydd eich Duw chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help