1Yna y Ziphiaid a ddaethant at Saul i Gibea gan ddywedyd: Pen.23.19.onid Dafydd yn llechu ym mryn Hachila ar gyfer y diffaethwch?
2Yna y cyfododd Saul, ac a aeth i wared i anialwch Ziph a thair mil o etholedigion gwŷr Israel gyd ag ef, i geisio Dafydd yn anialwch Ziph.
3A Saul a werssyllodd ym mryn Hachila, yr hwn ar gyfer y diffaethwch wrth y ffordd: a Dafydd oedd yn aros yn yr anialwch, ac efe a ganfu Saul wedi dyfod ar ei ôl ef i’r anialwch.
4(Canys Dafydd a anfonase chwil-wŷr, ac a ŵybu ddyfod o Saul yn siccr. )
5Yna y cyfododd Dafydd, ac y daeth i’r lle yr hwn y gwerssyllase Saul ynddo, a chanfu Dafydd y lle yr hwn yr oedd Saul yn gorwedd ynddo, ac Abner mab Ner tywysog ei filwriaeth ef: a Saul oedd yn gorwedd yn y werssyllfa, a’r bobl yn gwerssyllu oi amgylch ef.
6Yna y llefarodd Dafydd, ac y dywedodd efe wrth Ahimelec yr Hethiad, ac wrth Abisai fab Serfia brawd Ioab gan ddywedyd, pwy a aiff i wared gyd a mi at Saul i’r gwerssyll? yna y dywedodd Abisai, myfi a âf i wared gyd a thi.
7Felly y daeth Dafydd, ac Abisai at y bobl liw nos, ac wele Saul yn gorwedd, yn cyscu yn y werssyllfa, ai waiwffon wedi ei gwthio i’r ddaiar ei obennydd ef: ac Abner, a’r bobl oeddynt yn gorwedd oi amgylch ef.
8Yna y dywedodd Abisai wrth Ddafydd, Duw a roddes heddyw dy elyn di yn dy law di: ac yn awr gad i mi ei daro ef attolwg a gwaiwffon hyd y ddaiar vn waith, ac nis ail tarawaf ef.
9A Dafydd a dywedodd wrth Abisai, na ddifetha ef, canys pwy a estynne ei law yn erbyn eneiniog yr Arglwydd, ac a fydde ddiniwed?
10Dywedodd Dafydd hefyd, y mae yr Arglwydd yn fyw, y naill ai yr Arglwydd ai teru ef: neu ei ddydd ef addaw i farw, neu efe a ddescyn i’r rhyfel, ac a ddifethir.
11Yr Arglwydd a’m cadwo i rhac estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd: ac yn awr cymmer attolwg y waiw-ffon yr hon ei obennydd ef, a’r phioled ddwfr, ac awn ymmaith.
12A Dafydd a gymmerth y waiw-ffon, a’r phioled ddwfr oddi wrth obennydd Saul, a hwy a aethant ymmaith: ac nid oedd yn gweled, nac yn gwybod, nac yn neffro, canys hwynt oll oeddynt yn cyscu, o herwydd trwmgwsc yr Arglwydd a syrthiase arnynt hwy.
13Yna Dafydd a aeth i’r tu hwnt, ac a safodd ar ben y mynydd o hir-bell, encyd fawr rhyngddynt.
14A Dafydd a lefodd ar y bobl, ac ar Abner fab Ner gan ddywedyd, onid attebi di Abner? yna Abner a attebodd, ac a ddywedodd, pwy ti a elwaist ar y brenin?
15A Dafydd a ddywedodd wrth Abner, onid gŵr ti? a phwy fel ti yn Israel? a pha ham na chedwaist dy arglwydd frenin? canys daeth vn o’r bobl i ddifetha y brenin dy feistr di.
16Nit da y peth hyn yr hwn a wnaethost di y mae’r Arglwydd yn fyw, canys meibion o farwolaeth chwi, am na chadwasoch eich meistr sef eneiniog ’r Arglwydd: ac yn awr edrychwch pa le gwaiwffon y brenin, a’r phioled ddwfr y rhai ei obennydd ef.
17Yna Saul a adnabu lais Dafydd, ac a ddywedodd, ai dy lef di hon fy mab Dafydd? yna y dywedodd Dafydd, fy llef fi hi fy arglwydd frenin.
18Dywedodd efe hefyd, pa ham hyn fy arglwydd yr ydwyt yn erlid ar ôl dy wâs? canys beth a wneuthum? neu pa ddrygioni yn fy llaw?
19Ac yn awr, attolwg gwrandawed fy arglwydd frenin eiriau ei wasanaeth-wr: os yr Arglwydd a’th annogodd di i’m herbyn arogler aberth, ond os meibion dynion, melldigedic[fyddant] hwy ger bron yr Arglwydd, o herwydd iddynt fyng-yrru i ymmaith heddyw, fel nad ydwyf yn cael glynu yn etifeddiaeth yr Arglwydd gan ddywedyd, dos gwasanaetha dduwiau dieithr.
20Yn awr gan hynny na syrthied fyng-waed i i’r ddaiar o flaen wyneb yr Arglwydd: canys brenin Israel a aeth allan i geisio vn gwybedyn, megis ped ymlidie efe bettris yn y mynyddoedd.
21Yna Saul a ddywedodd, pechais, dychwel Dafydd fy mab, canys ni’th ddrygaf di mwy, oherwydd gwerth-fawr fu fy enioes i yn dy olwg di y dydd hwn: wele ynfyd y gwneuthum, ac mi a ymryfusais yn ddirfawr.
22A Dafydd a attebodd, ac a ddywedodd wele waiw-ffon y brenin: deled vn o’r llangciau trosodd, a chymmered hi.
23A’r Arglwydd a dalo i bôb vn ei gyfiawnder ei hun, ai ffyddlondeb: canys yr Arglwydd a’th roddes di heddyw yn llaw i, ond ni fynnais i estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd.
24Ac wele megis y mawrhauwyd dy enaid ti heddyw yn fyng-olwg i: felly y mawrhaer fy enaid inne yng-ŵydd yr Arglwydd, fel y gwaredo efe fi o’m holl gyfyngdra.
25Yna y dywedodd Saul wrth Ddafydd, bendigedic ti fy mab Dafydd, hefyd gan wneuthur y gwnei, a chan orchfygu y gorchfygi, a Dafydd a aeth iw ffordd, a Saul a ddychwelodd iw fangre ei hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.