1A gwŷr Israel a dyngasant ym Mispah gan ddywedyd: ni ddyru neb o honom ni ei ferch i Beniaminiad yn wraig.
2A daeth y bobl i Bethel, ac a arhosasant yno hyd yr hwyr ger bron Duw: derchafasant hefyd eu llef, ac ŵylasant ag wylofain mawr.
3A dywedasant, ô Arglwydd Dduw Israel pa ham y bu y peth hyn yn Israel, fel y darfydde heddyw am vn llwyth o Israel?
4A thrannoeth y bobl a foreu-godasant, ac a adailadasant yno allor: ac a offrymmasant boeth offrymmau, ac offrymmau hedd.
5Yna meibion Israel a ddywedasant, pwy (o holl lwythau Israel,) yr hwn ni ddaeth i fynu gyd a’r gynnulleidfa at yr Arglwydd? canys llŵ mawr oedd yn ei erbyn ef yrhwn ni ddelse i fynu at yr Arglwyddi Mispah, gan ddywedyd, llwyr rodder ef: farwolaeth.
6A meibion Israel a edifarhasant o herwydd Beniamin eu brawd: a dywedasant torrwyd ymmaith heddyw vn llwyth o Israel.
7Beth a wnawn ni am wragedd iddynt hwy i’r rhai a adawyd, gan dyngu o honom ni i’r Arglwydd na roddem iddynt o’n merched ni yn wragedd?
8Dywedasant hefyd, pwy vn o lwythau Israel a’r na ddaeth i fynu at yr Arglwydd i Mispah? ac wele ni ddelse neb o Iabes Gilead at y fyddin, at y gynnulleidfa.
9Canys y bobl a gyfrifwyd: ac wele nid yno neb o drigolion Iabes Gilead.
10Am hynny y gynnulleidfa a anfonasant yno ddeuddeng-mil o wŷr grymmus, ac a orchymynnasant iddynt gan ddywedyd, ewch, a tharewch bresswylwŷr Iabes Gilead a mîn y cleddyf, y gwragedd hefyd a’r plant.
11 Num.31.17. Dymma hefyd y peth yr hwn a wnewch chwi: difethwch bob gwryw, a phob gwraig a’r a orweddodd gyd a gŵr.
12A hwynt a gawsant ym mhlith trigolion Iabes Gilead bedwar cant o langcesau yn weryfon y rhai nid adnabuasent ŵr drwy gydorwedd a gŵr: a dugasant hwynt i’r gwerssyll i Silo yr hon yng-wlâd Canaan.
13Yna’r holl gynnulleidfa a anfonasant, ac a lefarasant wrth feibion Beniamin y rhai yng-hraig Rimmon: ac a gyhoeddasant heddwch iddynt hwy.
14A’r Beniaminiaid a ddychwelasant yr amser hwnnw, a hwynt a roddasant iddynt hwy y gwragedd y rhai a gadwasent yn fyw o wragedd Iabes Gilead: ond ni chawsant hwy ddigon felly.
15A’r bobl a ediferhaodd dros Beniamin: o herwydd i’r Arglwydd wneuthur rhwygiad ym misc llwythau Israel.
16Yna henuriaid y gynnulleidfa a ddywedasant, beth a wnawn ni am wragedd i’r lleill? canys destruwiwyd y gwragedd o Beniamin.
17Dywedasant hefyd etifeddiaeth i’r hwn a ddiangodd o Beniamin, fel na ddeleuir llwyth o Israel.
18Ac ni allwn ni roddi iddynt wragedd o’n merched ni: canys meibion Israel a dyngasant gan ddywedyd, melldigedic’r hwn a roddo wraig i Beniaminiad.
19Am hynny y dywedasant, wele gŵyl i’r Arglwydd bob blwyddyn yn Silo, yr hwn o du’r gogledd i Bethel, tua chyfodiad haul i’r briffordd y sydd yn myned i fynu o Bethel i Sichem: ac o du’r dehau i Libanus.
20Am hynny y gorchymynnasant hwy i feibion Beniamin gan ddywedyd: ewch, a chynllwynwch yn y gwin-llannoedd,
21Edrychwch hefyd, ac wele os merched Silo a ddeuant allan i ddawnsio mewn dawnsiau, yna ewch chwithau allan o’r gwin-llannoedd, a chippiwch i chwi bob vn ei wraig o ferched Silo: ac ewch i wlâd Beniamin.
22A phan ddelo eu tadau, neu eu brodyr hwynt i achwyn attom ni, yna y dywedwn wrthynt, rhoddwch i ni hwynt, o blegit ni chymmerasom ni bob vn ei wraig yn y rhyfel: achos na roddasoch chwi iddynt byddwch chwi euog y pryd
23A meibion Beniamin a wnaethant felly, a chymmerasant wragedd yn ôl eu rhifedi eu hun o’r rhai a gippiasent, ac a oeddynt yn dawnsio: ac aethant ymmaith, a dychwelasant iw hetifeddiaeth eu hun, ac adailadasant hefyd ddinasoedd, a thrigasant ynddynt.
24A meibion Israel a ymadawsant oddi yno y pryd hynny, pob vn at ei lwyth, ac at ei deulu ei hun: aethant felly oddi yno bob vn iw etifeddiaeth.
25Yn y dyddiau hynny nid brenin yn Israel: Pen.17.6.|JDG 17:6 & 18.1.|JDG 18:1 & 19.1.pob vn a wnae’r hyn oedd dda yn ei olwg.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.