Ieremi 33 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXIII.Duw yn peri i Ieremi weddio am rydd-did i’r bobl, ac yn addo eu rhyddhau. 8 Bod Duw yn maddeu pechodau er ei ogoniant ei hun. 15 Am anedigaeth Crist. 20 Duw yn siccrhau y cyfammod newydd.

1Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth at Ieremi yr ail waith, ac efe etto Ier.32.1.yn garcharor yn y carchar-dŷ gan ddywedyd:

2Fel hyn y dywed yr Arglwydd yr hwn ai gwnaeth hi, yr Arglwydd Esa.37.26.yr hwn ai llunniodd hi, ac ai siccrhaodd: yr Arglwydd ei enw ef.

3Galw arnaf, ac mi a’th attebaf, ac a ddangosaf i ti mawrion, a chedyrn y rhai nid adawaenost.

4Canys fel hynn y dywed yr Arglwydd Duw Israel am dai y ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Iuda y rhai a ddinistriwyd â Ier.32.34.pheiriannau rhyfel, ac â chleddyf.

5Hwynt a ddaethant i ryfela a’r Caldeaid, ac i ymlenwi â chelanedd dynion y rhai a leddais yn fy llid a’m digofaint, pan guddiais i fy wyneb oddi wrth y ddinas hon am ei holl ddrygioni hi.

6Wele myfi a roddaf iddi hi iechyd a meddiginiaeth, ac mi ai meddiginiaethaf hwynt, ac a ddatcuddiaf iddynt amlder o heddwch a gwirionedd.

7Ac mi a ddychwelaf gaethiwed Iuda, a chaethiwed Israel, ac mi ai hadailadaf hwynt megis yn y dechreuad.

8Ac mi ai puraf hwynt oi holl anwiredd a’r a bechasant i’m herbyn, ac mi a faddeuaf iddynt eu holl bechodau drwy y rhai y pechasant i’m herbyn, a thrwy y rhai y gwrthryfelasant yn fy erbyn

9A fydd i mi yn enw, yn llawenydd, yn glod, ac yn ogoniant o flaen holl genhedloedd y ddaiar, y rhai a glywant yr holl ddaioni yr hwn yr ydwyfi yn ei wneuthur iddynt: a hwyntau a ofnant, ac a grynant am yr holl ddaioni, a’r holl dangneddyf y rhai yr ydwyfi yn eu gwneuthur i’r ddinas hon.

10Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, clywir etto yn y lle hwn ([am] yr hwn y dywedwch anialwch yw efe heb ddŷn, ac heb anifail, yn ninasoedd Iuda, ac yn heolydd Ierusalem, y rhai a wnaed yn anghyfannedd, ac heb bresswylwr, ac heb anifail)

11Llef gorfoledd, a llef llawenydd, llef y priodfab a llef y briodferch, llef rhai yn dywedyd, 1.Cron.16.8. Psal.105.1. Esa. 12.4molwch chwi Arglwydd y lluoedd o herwydd daionus yw yr Arglwydd, o blegit ei drugaredd ef yn dragywydd, rhai yn offrymmu moliant yn nhŷ yr Arglwydd: canys mi a ddychwelaf gaethiwed y wlad megis yn y dechreuad medd yr Arglwydd.

12Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, bydd etto yn y lle ymma yr hwn sydd anghyfāneddol heb ddŷn, ac heb anifail, ac yn ei holl ddinasoedd drigfa bugeiliaid yn gorweddfau y praidd

13Yn ninasoedd y mynydd, yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau, ac yng-wlad Beniamin, ac yn amgylchoedd Ierusalem, ac yn ninasoedd Iuda yr aiff defaid etto tann law y rhifedudd medd yr Arglwydd.

14Wele y dyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd fel y cyflawnwyf y peth daionus a addewais i dŷ Israel, ac i dŷ Iuda.

15Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw y parafi i flaguryn cyfiawnder flaguro i Ddafydd, ac efe a wna farn, a chyfiawnder yn y tir.

16Yn y dyddiau hynny Iuda a waredir, ac Ierusalem a bresswylia yn ddiogel, a’r hwn ai geilw hi yr Arglwydd ein cyfiawnder.

17Fel hyn y dywed yr Arglwydd, ni thorrir ymmaith i Ddafydd ŵr yn eistedd ar frenhin-faingc tŷ Israel.

18Ac ni phalla fod gan y Lefiadaidd offeiriaid ŵr ger fy mron i, yn offrymmu poeth offrwm, ac i offrymmu bwyd offrwm, ac yn gwneuthur aberth yn dragywydd.

19A gair yr Arglwydd a ddaeth at Ieremi, gan ddywedyd,

20Fel hyn y dywed yr Arglwydd, os ddiddymmwch chwi fyng-hyfammod a’r dydd, a’m cyfammod a’r nôs, fel na byddo dydd na nôs yn eu hamser,

21Yna y diddymmir fyng-hyfammod â Dafydd fyng-wâs, fel na byddo iddo ef fab yn teyrnasu ar ei deyrn-gader ef, ac a’r Lefiadaidd offeiriaid fyng-weinidogion.

22Megis na ellir cyfrif llu y nefoedd, ac na ellir mesur tyfod y môr: felly myfi a amlhaf hâd Dafydd fyng-wâs, a’r Lefiaid y rhai ydynt yn gweini i mi.

23Gair yr Arglwydd a ddaeth at Ieremi gan ddywedyd,

24Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru gan ddywedyd, dau deulu yw y rhai a ddewisodd yr Arglwydd, ac efe ai gwrthododd hwynt: felly y dirmygasant fy mhobl fel nad ydynt mwyach yn genhedlaeth yn eu golwg hwynt.

25Fel hyn y dywed yr Arglwydd, os fyng-hyfammod a’r dydd, ac a’r nôs ni osodais i ddefodau y nefoedd, a’r ddaiar,

26Yna hâd Iacob a Dafydd fyng-wâs a wrthodafi fel na chymmerwyf oi hâd ef lywodraeth-wŷr ar hâd Abraham, Isaac, ac Iacob: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, ac a drugarhâf wrthynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help