1A Digwyddodd yn ôl y pethau hyn fod gwin-llan gan Naboth y Iezraeliad yr hon[oedd] yn Iezrahel, wrth balas Ahab brenin Samaria.
2Ac Ahab a lefarodd wrth Naboth gan ddywedyd, dyro i mi dy win-llan, fel y byddo hi i mi yn ardd lyssiau, canys y mae hi yn agos i’m tŷ i, ac mi a roddaf i ti am deni hi win-llan well na hi: os da fydd gennit, rhoddaf it ti ei gwerth hi o arian.
3A Naboth a ddywedodd wrth Ahab: na atto’r Arglwydd i mi roddi tref-tadaeth fy henafiaid i ti.
4Yna Ahab a ddaeth iw dŷ yn athrist ac yn llidioc (o herwydd y gair yr hwn a lefarase Naboth yr Iezraeliad wrtho ef, pan ddywedodd efe ni roddaf it dref-tadaeth fy henafiaid) ac efe a orweddodd ar ei wely, ac a drôdd ei wyneb, ac ni fwyttai fara.
5Yna Iezabel ei wraig a ddaeth atto ef: ac a ddywedodd wrtho ef, pa ham y mae dy yspryd athrist, ac nad wyt yn bwytta bara?
6Ac efe a ddywedodd wrthi hi, o herwydd i mi lefaru wrth Naboth yr Iezraeliad, a dywedyd wrtho ef, dyro i mi dy win-llan er arian, neu os mynni di, rhoddaf it win-llan am deni: ond efe a ddywedodd, ni roddaf it fyng-winllan.
7Yna Iezabel ei wraig a ddywedodd wrtho ef, ydwyt ti yn awr yn teyrnasu ar Israel? cyfot, bwytta fara, a llawenhaed dy galon, myfi a roddaf i ti win-llan Naboth yr Iezraeliad.
8Felly hi a scrifennodd lythyrau yn enw Ahab, ac ai seliodd ai sêl ef: ac a anfonodd y llythyrau at yr henuriaid, ac at y pennaethiaid y rhai yn ei ddinas ef yn trigo gyd a Naboth.
9A hi a scrifennodd yn y llythŷrau gan ddywedyd: cyhoeddwch ympryd, a chyfleuwch Naboth ym mysc pennaethiaid y bobl.
10Cyfleuwch hefyd ddau ŵr o feibion y fall gyferbyn ag ef, i destiolaethu iw erbyn ef gan ddywedyd, ti a geblaist Dduw, a’r brenin: yna dygwch ef allan a llabyddiwch cf, fel y byddo efe marw.
11A gwŷr ei ddinas ef yr henuriaid, a’r pennaethiaid y rhai oeddynt yn trigo yn ei ddinas ef a wnaethant yn ôl yr hyn a anfonase Iezabel attynt hwy: yn ôl yr hyn oedd yn scrifennedic yn y llythŷrau y rhai a anfonase hi attynt hwy.
12Cyhoeddasant ympryd, a chyfleuasant Naboth ym mysc pennaethiaid y bobl.
13A’r ddau ŵr o feibion y fall a ddaethant, ac a eisteddasant ar ei gyfer ef, gwŷr y fall a destiolaethasant yn erbyn Naboth, ger bron y bobl gan ddywedyd, Naboth a gablodd Dduw, a’r brenin: yna hwynt ai dugasant ef allan o’r ddinas, ac ai llabyddiasant ef a meini, fel y bu efe farw.
14Yna’r anfonasant hwy at Iezabel gan ddywedyd: Naboth a labyddiwyd, ac a fu farw.
15Pan glybu Iezabel labyddio Naboth, ai farw ef: yna Iezabel a ddywedodd wrth Ahab, cyfot, meddianna win-llan Naboth yr Iezraeliad, yr hwn a wrthododd rhoddi i ti er arian, canis nid byw Naboth, eithr marw yw efe.
16A phan glybu Ahab farw o Naboth: yna Ahab a gyfododd i fyned i wared i win-llan Naboth yr Iezraeliad iw meddiannu hi.
17A gair yr Arglwydd a ddaeth at Elias y Thesbiad gan ddywedyd:
18Cyfot, dos i wared i gyfarfod Ahab brenin Israel, yr hwn yn Samaria: wele efe yng-winllan Naboth yr hon yr aeth efe i wared iddi iw mediannu.
19A llefara wrtho ef gan ddywedyd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, a leddaisti, ac a feddiannaist hefyd? llefara hefyd wrtho ef gan ddywedyd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, y fan llê y llyfodd y cŵn waed Naboth, y cŵn a lyfant dy waed tithef hefyd.
20A dywedodd Ahab wrth Elias, a gefaist ti fi ô fyng-elyn? dywedodd yntef, cefais, canys ti a ymroddaist i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd.
21Wele Pen.14.10.|1KI 14:10. 2.Bren.9.8.fi yn dwyn dialedd arnat ti, a mi a dynnaf ymmaith dy hiliogaeth di: ac a dorraf oddi wrth Ahab 1.Sam.25.22. Pen.14.10.yr hwn a bisso ar bared, y gwarchaedic hefyd, a’r gweddilledic yn Israel.
22A mi a roddaf dy dŷ di Pen.15.29.|1KI 15:29Pen.16.3.fel tŷ Ieroboam mab Nabat, ac fel tŷ Baasa mab Ahia: o herwydd y digter r’ hwn digiaist, ac y gwnaethost i Israel bechu.
23Am Iezabel hefyd y llefarodd yr Arglwydd gan ddywedyd: 2.Bren.9.36.cŵn a fwytânt Iezabel yn rhan-dir Iezrahel.
24Y cŵn a fwytânt yr hwn fyddo marw o eiddo Ahab yn y ddinas: a’r hwn a fyddo marw yn y maes a fwyttu adar y nefoedd.
25Diau na bu fel Ahab yr hwn a ymroddodd i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd: o herwydd Iezabel ei wraig ai hannogodd ef.
26Canys efe a wnaeth yn ffiaidd iawn, gan fyned ar ôl y delwau: yn ôl yr hyn oll a wnaeth yr Amoriaid y rhai a yrrodd yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.
27A phan glybu Ahab y geiriau hyn, yna efe a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachliain am ei gnawd, ac a ymprydiodd: ac a orweddodd mewn sachliain, ac a rodiodd yn arafaidd.
28A gair yr Arglwydd a ddaeth at Elias y Thesbiad gan ddywedyd:
29Oni weli di, fel yr ymostyngodd Ahab ger fy mron i? am iddo ef ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg hwnnw yn ei ddyddiau ef, 2.Bren.9.26.yn nyddiau ei fâb ef y dygaf y drwg hwnnw ar ei dŷ ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.