Ecclesiasticus 47 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLVII.Clôd Nathan, Dafydd, a Salomon.

1Wedi hyn y cyfododd y 2.Sam.12.10.prophwyt Nathan yn nyddiau Dafydd.

2Fel y neilltuir y brasder oddi wrth yr offrwm: felly Dafydd oddi wrth feibion Israel.

3 1.Sam.17.34. Ym mysc y llewod yr ymdeithiodd efe megis ym mysc mynnod: ac ym mysc yr eirth megis ym mysc ŵyn defaid.

4 1.Sam.17.49. Oni laddodd efe gawr yn ei ieuengtid: ac oni thynnodd efe ymmaith wradwydd y bobl:

5Pan gyfododd efe ei law a charreg dafl: a bwrw i lawr falchder Goliah:

6Canys efe a alwodd ar yr Arglwydd goruchaf, ac yntef a roddes nerth iw ddeheulaw ef i ladd y dŷn cryf yn y rhyfel, fel y derchafe efe gorn ei bobl.

7Felly ai 1.Sam.18.7.anrhydeddodd yntef â myrddiwn, ac ai canmolodd â chlôd fawr.

8Pan roddwyd iddo ef goron y gogoniant efe 2.Sam.5.7.a drylliodd y gelynnion o amgylch, ac a ddifethodd y Philystiaid y rhai a oeddynt wrth­wyneb-wyr ac efe a ddrylliodd eu corn hwynt hyd onid yw efe felly etto.

9Yn ei holl waith y rhoddes efe glôdforedd i’r hwn sydd sanctaidd a goruchaf â geiriau anrhydeddus, ac âi holl galon y clodforodd,

10Ac y carodd efe yr hwn ai gwnaeth ef.

11Ac 2.Cron.16.4.efe a osododd gantorion o flaen yr allor, fel y cenio ei ganiadau ef yn felus ar dafod ac y clôdforent hwy bennydd âi caniadau.

12Efe a roddes drefn weddaidd am y gwiliau, ac a gymhwysodd yr amserau yn berffaith, fel y clôdforent hwy ei enw sanctaidd ef, ac y gwnaent iw gyssegr ef seinio yn foreu.

13 2.Sam.12.13. Yr Arglwydd a ddeleuodd ei bechodau ef, ac a dderchafodd ei gorn ef byth, ac a roddes iddo ef gyfammod y frenhiniaeth, a gorsedd­faingc gogoniant yn Israel.

14Ar ôl hwn y cododd mab doeth, ac a breswyliodd mewn ehangder trwyddo ef.

15 1.bren.4.24. Salomon a deyrnasodd mewn amser heddychlō, ac a oedd anrhydeddus: canys Duw a barase lonyddwch oi amgylch ef, fel yr adailade efe dŷ iw henw ef, ac y darpare gyssegr tros byth: 1.Bren.4.29.mor ddoeth oedd efe yn ei ieuengtid:

16Ac mor llawn o synwyr fel llifeiriant:

17Dy enaid a orchguddiodd yr holl ddaiar ac ai llanwodd â chyffelybiaethau dammegol.

18Dy enw a aeth ym mhell i’r ynysoedd, a chu oeddit am dy heddwch.

19 1.Bren.4.31. Ryfeddodd y gwledydd wrth dy gania­dau, a’th ddiharebion, a’th gyffelybiaethau, a’th ddeongliadau.

20Trwy enw Arglwydd Dduw yr holl ddaiar, yr hwn a elwir dy Dduw di Israel,

21Y cesclaist ti 1.Bren.10.27. 2.Bren.11.1.aur fel alcam, ac y cefaist arian cyn amled a’r plwm, rhoddaist ormod serch ar wragedd,

22Ti a orchfygwyd yn dy gorph.

23Ti a anefaist dy ogoniant, ac a halogaist dy hiliogaeth, gan ddwyn digofaint yn erbyn dy blant, a dwyn gofid am dy ynfydrwydd: fel y 1.Bren.12.15.rhannwyd y frenhiniaeth, ac y dechreuodd bren­hiniaeth anufyddgar fod o Ephraim.

24 2.Sam.7.15. Er hynny ni adawe yr Arglwydd ei drugaredd, ac ni ddifethwyd ef am ei weithredoedd.

25Ni ddeleue efe hiliogaeth ei etholedic, ac ni ddyge ymmaith eppil yr hwn ai care ef:

26Eithr efe a adawodd weddill i Iacob, a gwreiddin i Ddafyd o honaw ef.

27Yna Salomon a orphywysodd gyd ai dadau.

28Ac a adawodd oi hiliogaeth ar ei ôl, ynfydrwydd y bobl, ac vn a difig synnwyr arno, yr hwn a yrrodd y bobl ymmaith âi gyngor:

29 1.Bren.12.28. Ac Ieroboam mab Nabat yr hwn a wnaethi Israel bechu, ac a roddes ffordd i Ephraim i bechu.

30Ai pechodau hwynt a gynnyddasant mor ddirfawr hyd oni throdd efe hwynt allā o’r wlâd.

31[Ac] hyd oni ddaeth dig a dialedd arnynt hwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help