1Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Ptolomeus a Chleopatra, y dug Dosithêus (yr hwn a ddywedodd ei fod yn offeiriad ac yn Lefiad) ai fab Ptolonaeus y dywededig lythr am y Purim (yr hwn y dywedasant mai oedd, ac i Lysimachus fab Ptolomaeus yr hwn oedd yn Ierusalem ei gyfiaethu)
2Yr ail flwyddyn o deyrnasiad Artaxerxes mawr y cyntaf o Nisan y breuddwydiodd Mardocheus mab Iairus, fab Semei, fab Cis o lwyth Beniamin dŷn o Iddew yn trigo yn ninas Susis, gŵr mawr, am ei fod yn wenidog yn llŷs y brenin.
3Ac oedd efe o’r gaeth-glud a gaethgludase Nabuchodonosor brenin Babilon o Ierusalem gyd â Iechonia brenin Iuda: ac dymma ei freuddwyd ef.
4Wele sain twrwf, taranau, a daiar-gryn, a chythrwfl ar y ddaiar: ac wele ddwy ddraig fawr a ddaethant allan yn barod bôb vn o honynt i ryfela, ac hwy a roddasant lef fawr.
5Ac wrth eu llef hwynt yr ymbaratôdd pôb cenhedlaeth i ryfel, fel y difethent genedl y rhai cyfiawn.
6Ac wele ddiwrnod tywyll, a niwlog: custydd, ac ing, dryg-fyd, a thrallod mawr ar y ddaiar.
7Yna y trallodwyd pôb cenedl gyflawn y rhai gan ofni eu dryg-fyd a ymbaratoâsant iw dinistr eu hun.
8Eithr hwy a waeddasant ar Dduw, ac wrth eu gwaedd hwynt y daeth megis o ffynnon fechan afon fawr dwfr lawer.
9Goleuni hefyd a haul a gyfododd, a’r rhai isel-radd a dderchafwyd, ac a ddifâsant y pendefigion.
10A phan gyfododd Mardochêus yr hwn a welse y breuddwyd hwn, a’r hyn a fynne Duw ei wneuthur: bu y breuddwyd hwn ganddo yn ei galon, a thrwy bôb rheswm y chwennyche efe ei ŵybod ef hyd onid oedd hi yn nôs.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
