1Israel os troi di, Ioel.2.12.troa attafi, medd yr Arglwydd: hefyd os rhoi heibio dy ffieidd-dra oddi ger fy mron, yna ni’th symmudir.
2A thi a dyngi, byw yw’r Arglwydd mewn gwirionedd, mewn barn, ac mewn cyfiawnder, a’r cenhedloedd a ymfendithiant ynddo ef: îe ynddo ef yr ymglodforant.
3Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth wŷr Iuda, ac wrth Ierusalem: Osea.10.12.branerwch i chwi franar, ac na heuwch mewn drain.
4Ymenwaedwch i’r Arglwydd, a rhoddwch heibio ddienwaediad eich calon chwi gwŷr Iuda, a thrigolion Ierusalem: rhag i’m digofaint ddyfod allan fel tân, a llosci fel na diffoddudd, o herwydd drygioni eich dychymmygion.
5Mynegwch yn Iuda a chyhoeddwch yn Ierusalem, a dywedwch, vdcenwch vdcorn yn y tir, gelwch, ymgesclwch, a dywedwch, ymgynhullwch, ac awn i’r dinasoedd cedyrn.
6Codwch arwydd yn Sion, ffoiwch, ac na sefwch: canys ddrygioni a ddygaf o’r gogledd, a dinistr mawr.
7Y 2.Bren.24.1.llew a gyfododd oi ffau, a difeth-wr y cenhedloedd a gychwnnodd, ac a aeth allan oi lê ei hun i wneuthur dy dîr yn orwag: a’th ddinasoedd a ddinistrir yn anghyfannedd.
8Am hyn ymwregyswch a lliain-sach, galêrwch ac vdwch: canys digofaint llid yr Arglwydd ni throes oddi wrthym ni.
9Ac yn y dydd hwnnw medd yr Arglwydd, y derfydd am galon y brenin, ac am galon y pennaethiaid: yr offeiriaid hefyd a synnant, a’r prophwydi a ryfeddant.
10Yna y dywedais, ô Arglwydd Dduw yn siccr ti a a dwyllaist y bobl ymma ac Ierusalem, 1.Bren.22.23. Ezec.14.9. 2.Thes.2.11.gan ddywedyd: bydd heddwch i chwi, ac etto fe a ddaeth y cleddyf hyd at yr enaid.
11Yn yr amser hwnnw y dywedir wrth y bobl hyn, ac wrth Ierusalem, gwynt sych yr vchel-leoedd yn y diffaethwch ffordd merch fy mhobl, nid i nithio, ac nid i buro.
12Gwynt aruthrach na’r rhai hynny a ddaw i mi, weithian hefyd myfi a draethaf farn arnynt hwy.
13Wele megis niwlen y cyfyd, ai gerbydau ef megis cor-wynt ei feirch ef sy yscafnach na’r eryrod, gwae nyni, canys ni a anrheithiwyd.
14O Ierusalem golch dy galon oddi wrth ddrygioni, fel y byddech gadwedic: pa hyd y lletteui o’th fewn goec amcannion.
15Canys llêf sydd yn mynegu allā o Dan, ac sydd yn cyhoeddi anwiredd allan o fynydd Ephraim.
16Coffewch i’r cenhedloedd, wele cyhoeddwch yn erbyn Ierusalem, y gwil-wŷr a ddaethant o wlâd bell, ac a lefarâsant yn erbyn dinasoedd Iuda.
17Megis gwil-wŷr y meysydd yr oeddynt wrthi hi o amgylch: am iddi fy niglloni fi medd yr Arglwydd.
18Dy ffordd di a’th ddychymmygion di a wnaethant hyn i ti, dymma dy ddrygioni di, canys chwerw yw, am hynny y cyrhaeddodd hyd at dy galon di.
19O’m bol, o’m bol gofidus wyf, barwydennau fyng-halon, mae fyng-halon yn terfyscu ynof: ni allaf dewi, canys sain yr vdcorn a glywaist ti ô fy enaid, gwaedd rhyfel.
20Dinistr ar ddinistr a gyhoeddwyd, canys yr holl dîr a anrheithiwyd, yn ddisymmwth y destruwiwyd fy lluestai i a’m corlenni yn ddiatrec.
21Pa hyd y gwelaf faner? ac y clywaf sain vdcorn?
22Tra fy mhobl i yn ynfyd heb adnabod ohonynt fi: meibion angall hwy, ac nid deallgar hwynt: maent yn synhwyrol i wneuthur drwg, eithr gwneuthur da ni fedrant.
23Mi a edrychais ar y ddaiar, Esai.13.10.|ISA 13:10. Esa.24.23. Ezec.32.7. Ioel.2.31. Ioel.3.15.ac wele afluniaidd, a gwâg ac ar y nefoedd, a goleuni nid
24Mi a edrychais ar y mynyddoedd, ac wele yr oeddynt yn crynu: a’r holl frynnoedd a ymyscydwent.
25Mi a edrychais, ac wele nid dŷn, a holl adar y nefoedd a giliâsent.
26Mi a edrychais, ac wele y dol-dir yn anialwch, ai holl ddinasoedd a ddestruwiasid o flaen yr Arglwydd, gan lidiawgrwydd ei ddigter ef.
27Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, y tîr oll fydd diffaethwch, Esa.2.9.ac etto ni wnafi ddiben.
28Am hynny y galâra y ddaiar, ac y tywylla y nefoedd oddi vchod: o herwydd dywedyd o honofi, mi a fwriedais, ac ni bydd edifar genif, ac ni thrôf oddi wrtho.
29Rhag trŵst y gwŷr meirch a’r saethyddion, y ffŷ’r holl ddinas, hwy a ânt i’r anialwch, ac a ddringant y creigiau: yr holl ddinasoedd a adawyd, ac nid oes neb yn trigo ynddynt.
30A thithe’r anrhaithiedic beth a wnei? er ymwisco o honot â scarlat, er ymdrwssio â thlyssau aur, er i ti liwio dy wyneb â lliwiau, yn ofer yr ymdrwssi, dy gariadau a’th ffieiddiant a geisiant dy enioes.
31Canys clywais lêf megis[gwraig] yn escor, cyfyngder fel bennyw yn escor etifedd cyntaf, ie llef merch Sion: hi a vcheneidia, a estyn ei dwylo gwae fi yr awr hon, o blegit deffygiodd fy enaid gan y lleiddiaid. Iuda heb vn cyfiawn oi mewn, y Caldeaid yn ei dinistrio hithe am hynny.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.