1Yna Saphatiah mab Mathan, a Gedaliah mab Phashur, a Iucal mab Semeliah, a Phasur mab Iere.21.1.Malciah a glywsant y geiriau y rhai a draethase Ieremi wrth yr holl bobl, gan ddywedyd:
2Fel hynn y dywedodd yr Arglwydd, yr hwn a arhoso yn y ddinas hon a fydd farw trwy’r cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint: a’r neb a elo allan at y Caldeaid a fydd byw, ai enioes fydd sclyfaeth iddo, canys byw fydd efe.
3Fel hyn y dywed yr Arglwydd, y ddinas hon a roddir yn llaw llu brenin Babilon, ac efe ai hennill hi.
4Yna y tywysogion a ddywedâsant wrth y brenin, rodder atolwg y gŵr hwn i farwolaeth, o blegit fel hyn y mae efe yn gwanhau dwylo y rhyfel-wŷr y rhai a adawyd yn y ddinas hon, a dwylo yr holl bobl gan ddywedyd wrthynt hwy yn ôl y geiriau hyn: o herwydd nid yw y gŵr hwn yn ceisio llês i’r bobl hyn, onid niwed.
5A’r brenin Sedecia a ddywedodd, Wele ef yn eich llaw chwi: canys nid yw y brenin ŵr a ddichon ddim yn eich erbyn chwi.
6Yna hwynt a gymmerasant Ieremi, ac ai bwriasant ef i bydew Malchial mab Hamelech yr hwn oedd yng-hyntedd y carchar-dŷ a hwynt a ollyngâsant Ieremi wrth raffau: ac nid dwfr yn y pydew onid tomm, felly Ieremi a lynodd yn y domm.
7Pan glybu Ebedmelech yr Ethiopiad (vn o’r stafellyddion, yr hwn oedd yn nhŷ y brenin) iddynt hwy roddi Ieremi yn y pydew,
8Yna Ebedmelech a aeth allan o dŷ’r brenin, ac a lefarodd wrth y brenin yr hwn oedd ym mhorth Beniamin gan ddywedyd:
9O fy arglwydd frenin drwg y gwnaeth y gwŷr hyn gwbl a’r a wnaethant i Ieremi y prophwyd yr hwn a fwriasant hwy i’r pydew: canys efe a fydd marw o newyn yn y fan lle y mae, o herwydd nid oes bara mwyach yn y ddinas.
10Yna y brenin a orchymynnodd i Ebedmelech yr Ethiopiad gan ddywedyd: cymmer di oddi ymma ddeng-wr ar hugain gyd â thi, a chyfot Ieremi y prophwyd o’r pydew cynn ei farw,
11Felly Ebedmelech a gymmerodd y gwŷr gyd ag ef, ac a aeth i dŷ’r brenin tann y tryssor-dŷ, ac efe a gymmerodd oddi yno hên garpiau, a hên bwdr frattiau, ac ai gollyngodd hwynt at Ieremi i’r pydew wrth raffau.
12Ac Ebedmelech yr Ethiopiad a ddywedodd wrth Ieremi, gosot yn awr yr hên garpiau, a’r pwdr frattiau hyn dan dy gesseiliau oddi tann y rhaffau: ac Ieremi a wnaeth felly.
13Felly hwynt a dynnâsant Ieremi i fynu wrth y rhaffau, ac ai cyfodâsant ef o’r pydew: ac Ieremi a arhosodd yng-hyntedd y carchar-dŷ.
14Yna y brenin Sedecia a anfonodd, ac a gymmerodd Ieremi y prophwyd atto ef i’r trydydd cyntedd yr hwn sydd yn nhŷ yr Arglwydd: a’r brenin a ddywedodd wrth Ieremi, mi a ofynnaf i ti beth, na chela ddim oddi wrthifi.
15Ac Ieremi a ddywedodd wrth Sedecia, os mynegaf i ti, oni roddi di fi i farwolaeth? ac os rhoddaf i ti gyngor, ni wrandewi di arnaf.
16Felly y brenin Sedecia a dyngodd wrth Ieremi yn gyfrinachol gan ddywedyd, fel y mae yr Arglwydd yn fyw yr hwn a wnaeth i ni yr eneidiau hyn, ni roddafi di i farwolaeth, ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn y rhai ydynt yn ceisio dy enioes.
17Yna y dywedodd Ieremi wrth Sedecia, fel hyn y dywed yr Arglwydd Duw y lluoedd, Duw Israel, os gan fyned yr ei di allan at dywysogion brenin Babilon yna y bydd dy enaid fyw, ac ni loscir y ddinas hon â thân, a thithe a fyddi fyw, ti a’th dylwyth.
18Ac onid ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y ddinas hon a roddir i law y Caldeaid, a hwynt ai lloscant hi â thân: ac ni ddihengi dithe oi llaw hwynt.
19A’r brenin Sedecia a ddywedodd wrth Ieremi, yr ydwyfi yn ofni yr Iddewon y rhai a giliasant at y Caldeaid, rhac iddynt hwy fy rhoddi fi yn eu llaw hwynt, ac i’r rhai hynny fyng-watwar.
20Ac Ieremi a ddywedodd, ni roddāt ddim: gwrando, atolwg ar lais yr Arglwydd yr hwn yr ydwyfi yn ei draethu i ti, felly y bydd yn dda i ti, a’th enaid a fydd byw.
21Ond os gwrthodi fyned allan, dymma y gair yr hwn a fynegodd yr Arglwydd i mi:
22Wele yr holl wragedd y rhai a adawyd yn nhŷ brenin Iuda a ddygir allan at dywysogion brenin Babilon: ac wele hwynt a ddywedant, dy gyfeillion a’th hudasant, ac a’th orchfygasant, dy draed a lynâsant yn y domm, hwyntau a droâsant yn eu hôl.
23Am hynny hwynt a ddygant allan dy holl wragedd a’th blant at y Caldeaid, ac ni ddiengi dithe, canys yn llaw brenin Babilon i’th ddelir, a’r ddinas hon a loscir â thân.
24Yna y dywedodd Sedecia wrth Ieremi, na chaffed neb ŵybod y geiriau hyn, ac ni’th roddir i farŵolaeth.
25Os y tywysogion a glywant i mi ymddiddan â thi, ac deuant attat ti, a dywedyd wrthit, mynega yn awr i ni beth a draethaisti wrth y brenin, na chela oddi wrthym ni, ac ni roddwn ni mo honot ti i farwolaeth: a pha beth a draethodd y brenin wrthit tithe?
26Yna dywet wrthynt, myfi a weddiais yn ostyngedic ger bron y brenin, na yrre efe fi trachefn i dŷ Ionathan i farw yno.
27Yna yr holl dywysogion a ddaethant at Ieremi, ac ai holasant ef: ac efe a fynegodd iddynt yn ôl yr holl eiriau hynny y rhai a orchymynase y brenin: felly hwynt a beidiasant ag ef, am na chafwyd clywed y peth.
28Ac Ieremi a arhosodd yng-hyntedd y carchar-dŷ hyd y dydd yr ennillwyd Ierusalem: ac yr oedd efe pan ennillwyd Ierusalem.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.