Doethineb 17 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVII.Dialedd Duw ar y rhai anwir.

1DY farnedigaethau di ydynt faŵr, ac anhawdd eu treuthu: am hynny yr aeth y rhai anyscedic ar gyfeilorn.

2O blegit y rhai anwir yn amcanu cael llywodraeth ar y genedl sanctaidd, wedi eu rhwymo mewn tywyllwch, ai llyffetheirio ai gwarche tros hîr-nos a orweddasant i ffoi rhag ragluniaeth dragywyddol di.

3Canys pan amcanasant hwy lechu mewn cuddiedic bechodau can dywyll orchudd angof, hwy a wascarwyd wedi eu dechrynnu yn aruthrol, ai trallodi gan weledigaethau.

4Er hynny ni alle y gîlfach yr hon ai dalie hwynt eu cadw hwynt yn ddiofn: eithr yr oedd cwrwf yn swnio o amgylch, yr hwn oedd yn eu blino hwynt, a gweledigaethau ŵyneb sarric yn ymddangos.

5Nid oedd dim gallu gan y tân i lewyrchu, ac ni alle ddisclaer lewyrch y sêr oleuo y nôs athrist honno.

6Canys tân yn vnic yn cynneu o honaw ef hun yn llawn ofn, a ymddangsodd iddynt hwy, ac wedi eu dychrynny hwynt a’r weledigaeth honno (yr hon ni welid,) hwy a dybiasant fôd y pethau a welid yn waeth.

7Felly y Exod.7.11. & 8.7.gosodwyd i lawr oferedd celfyddyd hudoliaeth, a’r gwradwyddus gerydd a gafodd y rhai a wnaent ffrost oi synnwyr.

8O blegit y rhai a addawsant yrru allan ofn a blinder o’r enaid llesc, a aethant yn llesc eu hun rhag ofn yr hwn y gellid chwerthin oi blegit.

9O herwydd oni ddychrynne dim blîn hwynt, er hynny wrth fynediad bwyst-filod heibio a chan chwibanniad seirph y byddent hwy feirw o ofn, gan ommedd edrych ar yr a­wyr yr hwn nid oes achos iw ochelyd.

10Canys peth ofnus yw drygioni wedi rhoddi barn iw erbyn wrth ei destiolaeth ei hun, a chydwybod pan wescid arni a faedde erioed bethau creulon.

11Canys nid yw ofn ddim, ond anobaith o’r help a gaffer gan reswm.

12O herwydd pa leiaf fyddo y gobaith oddi fewn, mwyaf y tebyg efe fôd anwybodaeth o’r achos yr hwn fydd yn peri blinder.

13Eithr y rhai y nôs ar­uthrol, a gyscasāt yr vn hûn o gilfechudd vffern aruthrol,

14Weithie a flinid â gweledigaethau rhyfedd, ac weithieu a lywygent gan anobaith meddwl: canys ofn disymmwth, ac heb edrych am dano a ddeue arnynt hwy.

15Wedi hynny fel hyn, pwy vn bynnac a syrthie yno efe a gedwid, ac a gaeid mewn carchar heb haiarn.

16Os llafur-wr fydde vn, neu fugail neu vn yn gwneuthur y gwaith yr hwn fydd yn y diffaethwch, pan gymmeryd ef ymmaith, efe a deioddefe yr anghen ni’s gellid ei ochelyd.

17O blegit ag vn gadwyn tywyllwch y rhwymid hwynt oll,

18Naill ai gwynt chwiban, ai hyfrydaidd sain adar ym mysc y canghennau tewon, ai cyssain dwfr yn cerdded yn chwyrn, neu erchyll sŵn creigiau a fwrid i lawr, neu redfa anifeiliaid yn molestotta heb eu gweled, neu lais creulon bwyst-filod rhuadwy, neu yr adsain a ddadseinie o gilfach y mynyddoedd ai dechrynnent hwynt fel y llewygent.

19Canys yr holl fyd a oleuid yn oleu ddisclaer, a a barhae wrth ei waith heb rwystr.

20Yn vnic arnynt hwy y ddaethe nôs drom sef cyffelybrwydd i’r tywyllwch yr hwn a ddeue arnynt hwy, ac iddynt hwy yr oedd efe yn drymmach nâ thywyllwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help