Darn o lyfr Esther 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENN. XV.Esther trwy gyngor Mardocheus yn myned at y brenin i eiriol tros ei phobl.

1Ac ar y trydydd dydd pan beidiodd hi a gweddio, hi ddioscodd ei galar-wisc, ac a wiscodd eu gwychter:

2Ac wedi iddi fyned yn ddisclaer, a galw ar weledudd, ac achubudd pawb, hi a gymmerodd ei dwy lawforwyn, ac hi a bwyssodd ar y naill, fel pe buase hi fwythus, a’r llall oedd yn dwyn ei thraen hi.

3Gwridog hefyd oedd hi o îreidd: dra ei thegwch, ai hwyneb yn llawen megis yn hawddgar (eithr ei chalon hi oedd gyfyng er­ni gan ofn)

4Ac wedi iddi fyned i mewn trwy ’r holl ddrysau, hi a safodd ger bron y brenin, ac yr oedd efe yn estedd ar orseddfa ei frenhiniaeth, ac efe a wiscase ei ddisclaer-wisc oll, ac efe oll mewn aur a meini gwerth-fawr oedd ofna­dwy iawn:

5A chan dderchafu ei ŵyneb yn discleirio gan ogoniant, efe a edrychodd yn llym o ddig, yna y syrthiodd y frenhines, ac hi a newidiodd ei lliw mewn llewyg, ac a ogwyddodd ar ben y llaw-forwyn yr hon oedd yn myned o’r blaen.

6A Duw a drôdd yspryd y brenin yn addfwyn, fell y neidiodd efe ar frys oddi ar ei orseddfa, ac y cymmerodd hi yn ei freichiau hyd oni ddadebrodd hi: ac efe ai cyssurodd hi â geiriau heddychlon, ac a ddyweddod wrthi hi.

7Esther beth yw ’r dy frawd ti ydwyfi cymmer gyssur, ni roddir di i farwolaeth o blegit cyffredin yw ein gorchymyn ni: tyret ymma.

8Ac efe a gymmerodd y wialen aur, ac ai gosododd ar ei gwyddf hi:

9Ac efe ai cofleidiodd hi, ac a ddywedodd, dywet wrthif fi.

10Hithe a ddywedodd wrtho ef: ô arglwydd mi a’th welwn fel angel Duw, a’m calon a gyffrôdd rhag ofn dy ogoniant.

11O blegit rhyfedd ydwyt ti ô arglwydd, a’th wyneb sydd yn llawn grâs.

12A thra yr ydoedd hi yn llefaru hi a syrthiodd yn ei llewyg.

13Yna y cyffrôdd y brenin, ai weision ef oll ai cyssurasant hi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help