Mathew 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.1 Pregeth Ioan, a’i swydd, a’i fuchedd, a’i fedydd; 7 y mae yn ceryddu y Pharisæaid, 13 ac yn bedyddio Crist yn yr Iorddonen.

1Ac yn y dyddiau hynny Marc.1.4. Luc.3.3.y daeth Ioan Fedyddiwr gan bregethu yn niffaethwch Iudæa,

2A chan ddywedyd, edifarhewch, canys daeth teyrnas nefoedd yn agos.

3Oblegid hwn yw efe, yr hwn y dywedwyd am dano trwy y prophwyd Esaias, gan ddywedyd, Esa.40.3. Marc.1.3. Luc.3.4.llef vn yn llefain yn y diffaethwch, paratoiwch ffordd yr Arglwydd, iniawnwch ei lwybrau ef.

4A’r Ioan hwnnw oedd a’i Ioan.1.23. Marc.1.6.ddillad o flew camel, a gwregis o groē yng-hylch ei lwynau: a’i fwyd oedd locustiaid, a mêl gwyllt.

5Yna yr Marc.1.5. Luc.3.7.aeth allan atto ef Ierusalem ac holl Iudæa, â’r holl wlâd oddi amgylch yr Iorddonen.

6Ac hwy a fedyddiwyd gāddo ef yn yr Iorddonen, gan gyffessu eu pechodau.

7A phan welodd efe lawer o’r Pharisæaid ac o’r Saducæaid yn dyfod iw fedydd ef, efe a ddywedodd wrthynt hwy: Math.12.34.ô genhedlaeth gwiberod, pwy a’ch racrybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?

8Am hynny dygwch ffrwythau addas i edifeirwch.

9Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, y mae Ioan.8.39. Act.13.26.genym ni Abraham yn dad: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichōn Duw o’r meini hyn gyfodi i fynu blant i Abraham.

10Ac yr awr hon gosodwyd y fwyall ar wreiddin y prennau: Pen.7.19.pob pren yr hwn ni ddwg ffrwyth da a dorrir i lawr, ac a deflir i’r tân.

11Myfi yn ddiau ydwyf yn eich Marc.1.8. Luc 3.16|LUK 3:16. Ioan 1.26.|JHN 1:26. Act 1.5.|ACT 1:5. & 2.4.|ACT 2:4 & 8.17.|ACT 8:17 & 19.4bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch, eithr yr hwn a ddaw ar fy ôl i sydd gadarnach nâ myfi, escidiau yr hwn nid ydwyf deilwng iw dwyn, efe a’ch bedyddia â’r Ysbryd glân; ac â thân.

12 Luc 3.17. Yr hwn ei wyntill yn ei law, ac efe a lwyr lanhâ ei lawr dyrnu, ac a gascl ei wenith iw yscubor, eithr yr vs a lysc efe â thân anniffoddadwy.

13Yna y daeth Marc.1.9. Luc 3.21yr Iesu o Galilæa i’r Iorddonen at Ioan iw fedyddio ganddo.

14Eithr Ioan a orafunodd iddo ef, gan ddywedyd, y mae arnaf eisieu fy medyddio gennit ti, ac a ddeui di attafi?

15Yna yr Iesu gan atteb a ddywedodd wrtho ef, gâd yr awr hon, canys fel hyn y gwedde i ni gyflawni pob cyfiawnder: yna efe a adawodd iddo ef.

16A’r Iesu wedi ei fedyddio a ddaeth yn y fan i fynu o’r dwfr, ac wele y nefoedd a agorwyd iddo, ac a welodd Ysbryd Duw yn descyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef.

17Ac wele lef o’r nefoedd yn dywedyd, hwn 2.Pet.1.17.yw fŷ annwyl Fab yn yr hwn i’m bodlonwyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help