Hebræaid 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.Cyffelybiaeth rhwng offeiriadaeth Crist a Melchisedec.

1Canys y Gen.14.18.Melchi-sedec hwn brenin Salem offeiriad Duw goruchaf, yr hwn a ddaeth i gyfarfod ag Abraham wrth ddychwelyd o ladd y brenhinoedd, ac a’i bendigodd ef:

2I ba vn y cyfrannodd Abraham ddegwm o bob peth: yr hwn yn gyntaf yn wir wrth gyfieithiad brenin cyfiawnder: wedi hynny hefyd brenin Salem, yr hyn yw brenin heddwch,

3Heb dâd, heb fam, heb genedl heb fod iddo na dechreu dyddiau na diwedd enioes: eithr yn gyffelyb i Fab Duw, y mae yn aros yn offeiriad yn dragywydd.

4Edrychwch chwithau faint oedd hwn i’r hwn y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm o’r anrhaith.

5A’r rhai yn wir sy o feibion Lefi yn derbyn swydd yr offeiriadaeth, y mae ganddynt Num.18.21.|NUM 18:21. deut.18.1.2.|DEU 18:1,2. iosua.14.4.orchymyn i gymmeryd degwm gan y bobl, ar ôl y gyfraith (sef gan eu brodyr) er eu bod wedi dyfod o lwynau Abraham.

6Eithr yr hwn ni hanoedd ei genhedlaeth o honynt hwy, a gymmerodd ddegwm gan Abraham,) ac a fendigodd yr hwn yr oedd yr addewid iddo.

7Ac yn ddiddadl y lleiaf a fendithir gan well.

8Ac ymma dynion y rhai sy yn meirw, sy yn cymmeryd degwm: eithr yno yr hwn y testiolaethwyd am dano ei fod efe yn fyw.

9Ac (o ddywedyd fellŷ) yn Abraham y talodd Lefi yntef hefyd ddegwm, yr hwn dderbyn-wr degwm,

10O blegit yr ydoedd efe etto yn llwynau ei dad, pan gyfarfu Melchi-sedec ag ef.

11Os ydoedd gan hynny berffeithrydd trwy offeiriadaeth Lefi (o blegit tann honno y rhoddwyd y gyfraith i’r bobl) pa ham yn rhaid mwyach godi offeiriad arall, ar ôl vrdd Melchi-sedec, ac nas gelwid ef ar ôl vrdd Aaron?

12O blegit yn wir wedi newidio yr offeiriadaeth, rhaid oedd fod newidiad ar y gyfraith hefyd.

13O blegit am yr hwn y dywedir hyn, efe a berthyn i lwyth arall, o’r hwn nid oes neb yn gwasaneuthu yr allor.

14Canys hyspus yw mai o Iuda y mae ein Harglwydd ni yn dyfod, am yr hwn lwyth ni ddywedodd Moses ddim tu ag at offeiriadaeth,

15Ac etto y mae hyn yn eglurach o lawer, os ydyw offeiriad arall yn codi ar ôl cyffelybrwydd Melchi-sedec,

16Yr hwn nid wrth gyfraith y gorchymyn cnawdol ei gwnaethbwyd eithr wrth rym y bywyd didrangedic.

17O blegit y mae efe yn testiolaethu fel hyn, canys Psal.110.4. pen 5.6.offeiriad wyt ti yn dragywydd ar ôl vrdd Melchi-sedec.

18Canys yn ddiau fe a wnaed diddymmiad ar y gorchymyn, yr hwn oedd o’r blaen o herwydd ei lescedd a’i afles.

19O blegit ni pherffeithiodd y gyfraith ddim namyn dyfodiad gobaith gwell, trwy yr hwn yr ydym ni yn nesau at Dduw.

20Ac yn gymmaint nad heb lw:

21(O blegit hwynt hwy a wnaethbwyd yn offeiriaid heb lw, a hwn, a wnaethbwyd â llw gan yr hwn a ddywedodd wrtho, Psal.110.7.yr Arglwydd a dyngodd, ac ni bydd edifar ganddo, ti wyt offeiriad yn dragywydd, yn ôl vrdd Melchi-sedec)

22Ar destament gwell o hynny y gwnaethbwyd Iesu yn fachniudd.

23A mwy o honynt hwy a wneid yn offeiriaid am i farwolaeth luddio iddynt barhau.

24Eithr hwn am ei fod yn perhau yn dragywydd y mae iddo ef offeiriadaeth dragywyddol.

25Am hynny efe a ddichon hefyd yn gwbl iachau y rhai trwyddo ef sy yn dyfod at Dduw am ei fod efe yn byw bob amser i eiriol trostynt hwy.

26O blegit y cyfryw Archoffeiriad sanctaidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddi wrth bechaduriaid, ac wedi ei wneuthur yn bwch nâ’r nefoedd oedd weddus i ni:

27Yr hwn nid oedd raid iddo beunydd, megis i’r offeiriaid Leuit.16.6.yn gyntaf tros ei bechodau ei hun offrymmu aberthau, wedy hynny tros y bobl: canys hynny a wnaeth efe vn-waith gan ei offrymmu ei hun.

28Canys y gyfraith sydd yn gosod dynion yn arch-offeiriaid a gwendid ynddynt: eithr gair y llw yr hwn fu wedi y gyfraith, sy ’n gwneuthur y Mab yr hwn a berffeithiwyd yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help