1Traethodd fyng-halon beth dâ, dywedyd yr ydwyf fyng-weithredoedd i’r Brenin, fy nhafod pin scrifennudd buan.
2Tegach ydwyt na meibion dynnion, tywalltwyd rhâd ar dy wefusau, o herwydd i Dduw dy fendithio di yn dragywydd.
3Gwregysa dy gleddyf ar dy glûn ô gadarn, dy ogoniant, a’th harddwch.
4Llwydda hefyd a’th ogoniant, marchog di ar air y gwirionedd, a lledneisrwydd chyfiawnder: a’th ddeheu-law a ddysc i ti ofnadwy.
5Pobl a syrthiant tanat: dy saethau llymmion yng-halon gelynnion y brenin.
6Dy orsedd di ô Dduw a byth, ac yn dragywydd: teyrn-wialen iniondeb teyrn-wialen dy frenhiniaeth di.
7Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny i’th eneiniodd Duw, dy Dduw di ag olew llawenydd yn fwy na’th gyfeillion.
8[Arogl] Myrr, Aloes, Chasia, dy holl wiscoedd: o’r palâsau Ifori: lle i’th lawenhausant.
9Merched brenhinoedd ym mhlith dy bendefigesau: safe y frenhines ar dy ddeheu-law mewn aur coeth o Ophir.
10Gwrando ferch, a gwêl hefyd, a gostwng dy glust: anghofia dy bobl, a thŷ dy dâd.
11A’r brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di: ymostwng dithe iddo ef.
12Merch Tyrus hefyd chyfoethogion y bobl a ymbiliant a’th wyneb ag anrheg.
13Merch y Brenin oll yn anrhydeddus o fewn: gem-waith aur ei gwisc hi.
14Mewn gwaith edyf a nodwydd y dygir hi at y brenin: y morwynnion ar ei hôl yn gyfeillesau iddi a ddygir attat ti.
15Mewn llawenydd, a gorfoledd y dygir hwynt, y deuant i lŷs y brenin.
16Dy feibion fyddant yn lle dy dadau: gosodi hwynt yn dywysogion ym mhob gwlâd.
17Coffâf dy henw ym mhob cenhedlaeth, ac oes: am hynny y bobl a’th foliannant byth, ac yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
