Ezeciel 41 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLI.Gweledigaeth am adailadu y Deml ai mesur yn arwyddocau adailadaeth a chynnydd eglwys Grist.

1Ac efe a’m dûg i i’r Deml, ac a fesurodd y rhactaloedd yn chwech chufydd o lêd o’r naill dû, ac yn chwech chufydd o lêd o’r tu arall, llêd y babell.

2Llêd y drws hefyd ddêc cufydd, ac ystlysau y drŵs yn bump cufydd o’r naill du, ac yn bump cufydd o’r tu arall: ac efe a fesurodd ei hŷd ef yn ddeugain cufydd, a’r llêd yn vgain cufydd.

3Ac efe a ddaeth i mewn, ac a fesurodd ractal y drŵs yn ddau gufydd, a’r drŵs yn chwech chufydd, a llêd y drŵs yn saith gufydd.

4Ac efe a fesurodd ei hŷd ef yn vgain cufydd, a’r llêd yn vgain cufydd o flaen y Deml, ac efe a ddywedodd wrthif, dymma y cyssegr sancteiddiolaf.

5Ac efe a fesurodd bared y ty yn chwech chufydd, a llêd yr ystlys-gell yn bedwar cufydd o amgylch ogylch i’r tŷ.

6A’r celloedd gell ar gell yn dair troedfedd ar ddêc ar hugain a y celloedd oeddynt yn cyrheuddyd ar bared y tŷ o amgylch ogylch, fel y byddent yng-lyn, ac nid oeddynt yng-lyn o fewn pared y tŷ.

7Felly yn ehangach, a’r grisiau oeddynt yn myned i fynu i’r celloedd, o herwydd grisiau y tŷ oeddynt yn myned i fynu o amgylch i’r tŷ, am hynny y tŷ oedd ehangach oddi arnodd: ac felly y dringid o’r issaf i’r vchaf trwy’r ganol.

8Gwelais hefyd vchter y tŷ o amgylch ogylch, seiliau gwadnau y celloedd gorsen helaeth o chwech chufydd hyd y geseil.

9Llêd y pared yr hwn i’r gell o’r tu allan bump cufydd, a’r gweddill le i’r celloedd y rhai oeddynt o fewn.

10A rhwng yr stafelloedd llêd vgain cufydd yng-hylch y tŷ o amgylch ogylch.

11Dryssau yr ystlys-gell tua’r weddill: vn drŵs tua’r gogledd, ac vn drws tua’r deau, a llêd y fan a weddillasid bump cufydd o amgylch ogylch.

12A’r adailadaeth yr hon o flaen y llannerch naillduol tu ag ystlys y gorllewyn ddêc cufydd a thrugain o lêd, a phared yr adailadaeth bump cufydd o lêd o amgylch ogylch, ai hŷd ddêc cufydd a phedwar vgain.

13Ac efe a fesurodd y tŷ yn gant cufydd o hŷd, a’r llannerch naillduol, a’r adailadaeth, ai pharwydydd yn gant cufydd o hŷd.

14A llêd talcen y tŷ, a’r llannerch naillduol tua’r dwyrain gant cufydd.

15Ac efe a fesurodd hŷd yr adailadaeth ar gyfer y llannerch naillduol yr hon o’r tu cefn iddo, ai stafelloedd o’r ddau tu yn gant cufydd, a’r Deml oddi fewn, a dryssau y cyntedd.

16Y gorsingau, a’r ffenestri caeedic, a’r stafelloedd o amgylch ar drî thu, ar gyfer y rhiniog, a ystyllennasid â choed o amgylch ogylch: o’r llawr hyd y ffenestri, a’r ffenestri hefyd a ystyllennasid.

17Uwch benn y drws, ac hyd y tŷ o fewn, ac allan, ac ar bob pared o amgylch ogylch o fewn ac allan fesurau.

18Cerubiaid hefyd a phalm-wŷdd a weithiasid, sef palm-wydden rhwng pob dau Gerub, a dau wyneb i Cerub.

19Canys wyneb dyn tua’r balmwydden o’r naill du, ac wyneb llew tua’r balmwydden o’r tu arall, wedi weithio ar hŷd y tŷ o amgylch ogylch.

20Cerubiaid a phalm-wŷdd a weithiasid o’r ddaiar hyd oddi ar y drws: felly pared y Deml.

21Pedwar ochroc pyst y Deml: a gwedd y cyssegr ydoedd yr vn môdd.

22Yr allor bren dri chufydd ei huchter, ai hŷd yn ddau gufydd: ei chonglau ai huchter, ai hystlysau o bren: ac efe a ddywedodd wrthif, dymma y bwrdd yr hwn ger bron yr Arglwydd.

23Ac dau ddrws i’r Deml, ac i’r cyssegr.

24A dwy ddôr i’r dryssau dwy ddôr blygedic, dwy ddôr i’r naill ddrws, a dwy i’r llall.

25Ac arnynt y gwneuthid yn nryssau y Deml Gerubiaid a phalm-wŷdd, fel y gwneuthid ar y parwydydd: ac trawstiau o flaen y cyntedd o’r tu allan.

26Ffenestri caeedic hefyd, a phalm-wŷdd o bob tu ar ystlysoedd y porth: at ar ystlysau y tŷ, a thrawstíau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help