Exodus 11 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XI.Yr Arglwydd yn peri’r Hebræaid fenthygio tlysau gan yr Aiphtiaid. 5 Marwolaeth y cyntaf-anedic.

1A’r Arglwydd a ddywedase wrth Moses, vn bla etto a ddygaf ar Pharao, ac ar yr Aiphtiaid, wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymmaith oddi ymma: pan ollyngo efe yn gwbl, gan wthio efe a’ch gwythia chwi oddi ymma.

2Dywet yn awr lle y clywo’r bobl: am geisio ohonynt bôb gwr gan ei gymydog, Exod.3.22.a phob gwraig gan ei chymdoges ddodrefn arian, a dodrefn aur.

3A’r Arglwydd a roddodd i’r bobl ffafor yng-olwg yr Aiphtiaid: ac Heb.11.28.Moses yn wr mawr iawn yng-wlad yr Aipht yng-olwg gweision Pharao, ac yng-olwg y bobl. )

4Moses hefyd a ddywedodd, fel hynn y llefarodd yr Arglwydd: yng-hylch hanner nos yr afi allan i ganol yr Aipht.

5A phôb cyntaf-anedic yng-wlad yr Aipht a fydd marw, o gyntaf-anedic Pharao yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrn-gader ef, hyd gyntaf-enedic y wasanaethferch yr hon ar ol y felin: a phôb cyntaf-anedic o anifail.

6Yna y bydd gweiddi mawr drwy holl wlad yr Aipht: yr hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwyach ei gyffelyb.

7Ond ym mysc meibion Israel ni symmud cî ei dafod ar ddŷn nac anifail: fel y gwypoch mai’r Arglwydd a nailltuodd rhwng yr Aiphtiaid ac Israel.

8A’th holl weision hynn a ddeuant i wared attafi, ac a ymgrymmant i mi gā ddywedyd, dos allan, a’r holl bobl y rhai ar dy ol, ac wedi hynny’r afi allan: felly efe a aeth allan oddi wrth Pharao mewn digllonedd llidioc.

9A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ni wrendu Pharao arnoch: fel yr amlhaer fy rhyfeddodau yng-wlad yr Aipht.

10Felly Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn ger bron Pharao: a’r Arglwydd a galedodd galon Pharao, fel na ollynge efe feibion Israel allan oi wlad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help