1Yna Benhadad brenin Syria a gasclodd ei holl lû, a deuddec brenin ar hugain gyd ag ef, a meirch, a cherbydau: ac efe a aeth i fynu, ac a warchaodd ar Samaria, ac a ymladdodd iw herbyn hi.
2Ac efe a anfonodd gennadau at Ahab brenin Israel i’r ddinas.
3Ac a ddywedodd wrtho ef, fel hyn y dywed Benhadad, dy arian a’th aur sydd eiddo fi: dy wragedd hefyd a’th feibion teccaf ydynt eiddo fi.
4A brenin Israel a attebodd, ac a ddywedodd, yn ôl dy air di fy arglwydd frenin myfi a’r hyn oll gennif eiddo ti.
5A’r cennadau a ddychwelasant, ac a ddywedasant, fel hyn yr ymadroddodd Benhadad gan ddywedyd: o herwydd i mi anfon attat ti gan ddywedyd, dy arian, a’th aur, a’th wragedd, a’th feibion a roddi di i mi,
6Am hynny yng-hylch y pryd y foru yr anfonaf fyng-weision attati tî, fel y chwiliant dy dŷ, a thai dy weision: a phob peth dymunol yn dy olwg a gymmerant hwy yn eu dwylo, ac dugant ymmaith.
7Yna brenin Israel a alwodd am holl henuriaid y wlâd, ac a ddywedodd, gwybyddwch attolwg, a gwelwch mai ceisio drygioni y mae hwn: canys efe a anfonodd attafi, am fyng-wragedd, am fy meibion, ac am fy arian, ac am fy aur, ac nis gommeddais ef.
8Yr holl henuriaid hefyd, a’r holl bobl a ddywedasant wrtho ef: na wrando, ac na chydtuna
9Am hynny y dywedodd efe wrth gennadau Benhadad, dywedwch i’m harglwydd y brenin, yr hyn oll yr anfonaist ti at dy wâs o’r cyntaf mi ai gwnaf, ond ni allaf wneuthur y peth hyn: a’r cennadau a aethant, ac a ddugasant air iddo ef.
10A Benhadad a anfonodd atto ef, ac a ddywedodd, fel hyn y gwnelo y duwiau i mi, ac fel hyn y chwanegant: os bydd pridd Samaria ddigon dyrnau yr holl bobl y rhai i’m canlyn i.
11A brenin Israel a attebodd, ac a ddywedodd, dywedwch nac ymffrostied yr hwn a wregysso fel yr hwn ai diosco.
12A phan glywodd efe y peth hyn, ac efe yn yfed, efe a’r brenhinoedd yn eu pepyll: yna efe a ddywedodd wrth ei weision, gosodwch, a hwy a osodasant ar y ddinas.
13Yna wele rhyw brophwyd a nessaodd at Ahab brenin Israel, ac a ddywedodd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, oni welaisti’r holl dyrfa fawr hon? wele fi yn eu rhoddi hwynt yn dy law di heddyw, fel y gŵypech mai myfi yr Arglwydd.
14Ac Ahab a ddywedodd, drwy bwy? dywedodd yntef, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, drwy langciau tywysogion y talaithau: ac efe a ddywedodd, pwy a luniaetha’r rhyfel? dywedodd yntef tydi.
15Yna efe a gyfrifodd langciau tywysogion y talaithau, ac yr oeddynt yn ddau cant, deuddrc ar hugain: ac ar eu hôl hwynt efe a gyfrifodd yr holl bobl, cwbl o feibion Israel yn saith mil.
16Ac hwy a aethant allan ganol dydd: a Benhadad oedd yn yfed yn feddw yn y gwerssyllau efe a’r brenhinoedd, sef y deuddec brenin ar hugain y rhai oeddynt yn ei gynnorthwyo ef.
17Felly llangicau tywysogion y talaithau a aethant allan yn gyntaf: a Benhadad a anfonodd ac hwy a fynegasant iddo ef gan ddywedyd, dynion a ddaethant allan o Samaria.
18Ac efe a ddywedodd, os am heddwch y daethant allan deliwch hwynt yn fyw: ac os i ryfel y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw.
19Felly’r aethant hwy allan o’r ddinas, llangciau tywysogion y talaithau: a’r llu’r hwn ar eu hôl hwynt.
20Ac hwy a laddasant bawb ei ŵr, a’r Syriaid a ffoasant, ac Israel ai herlidiodd hwynt: a Benhadad brenin Syria a ddiangodd ar farch, gydar gwŷr meirch.
21Yna brenin Israel a aeth allan, ac a darawodd y meirch, a’r cerbydau: felly efe a darawodd y Syriaid a phla mawr.
22A’r prophwyd a nessaodd at frenin Israel, ac a ddywedodd wrtho ef, dôs ymgryfha, gwybydd hefyd, a gwêl yr hyn a wnelech: canys yng-hyfnod y flwyddyn brenin Syria a ddaw i fynu i’th erbyn di.
23Yna gweision brenin Syria a ddywedasant wrtho ef, duwiau y mynyddoedd eu duwiau hwynt, am hynny trêch fuant na ni: er hynny os ymladdwn ni a hwynt yn y gwastad oni orthrechwn ni hwynt.
24Gwna gan hynny y peth hyn: tyn ymmaith y brenhinoedd bob vn oi le, a gosot ddugiaid yn ei lle hwynt.
25Rhifa hefyd it lu fel y llu’r hwn a gollaist ti, a meirch fel y meirch a cherbydau fel y cerbydau ac ni a ymladdwn a hwynt yn y gwastad tir oni orthrechwn ni hwynt: ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt, ac a wnaeth felly.
26Ac yng-hyfnod y flwyddyn, Benhadad a gyfrifodd y Syriaid: ac a aeth i fynu i Aphec i ryfela yn erbyn Israel.
27A meibion Israel a gyfrifwyd, ac a niferwyd, ac a aethant iw cyfarfod hwynt: a meibion Israel a werssyllasant yn eu herbyn hwynt: fel dwy ddiadell fechain o eifr, a’r Syriaid a lawnasant y wlâd.
28A gŵr Duw a nessaodd, ac a lefarodd wrth frenin Israel, ac a ddywedodd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, o herwydd dywedyd or Syriaid Duw y mynyddoedd’r Arglwydd, ac nid Duw’r dyffrynnoedd efe: am hynny y rhoddaf yr holl dyrfa fawr hon i’th law di, ac y cewch wybod mai myfi r’ Arglwydd.
29A’r rhai hyn a werssylasant yn erbyn y llaill saith niwrnod: ac ar y seithfed dydd y rhyfel a nesaodd, a meibion Israel a laddasant o’r Syriaid gan mil o wyr traed mewn vn diwrnod.
30A’r lleill a ffoasant i Aphec i’r ddinas, a’r mûr a syrthiodd, ar saith mil ar hugain o’r gwŷr a adawsid: a Benhadad a ffôdd, ac a ddaeth i’r ddinas o stafell i stafell.
31Ai weision a ddywedasant wrtho ef, wele clywsom yn awr am frenhinoedd tŷ Israel, mai brenhinoedd trugarogion ydynt hwy: gosodwn attolwg sachliain am ein lwynau, a rhaffau am ein pennau, ac awn at frenin Israel, ond odid efe a geidw dy enioes di.
32Yna y gwregysasant sachliain am eu lwynau, a rhaffau am eu pennau, ac a ddaethant at frenin Israel, ac a ddywedasant, Benhadad dy wâs a ddywedodd, attolwg gad i mi fyw: dywedodd yntef, a ydyw efe etto yn fyw? fy mrawd efe.
33A’r gwŷr a gymerasant yn argoel dda, ac a frysiasant, ac a gippiasāt y oddi wrtho ef, ac a ddywedasant dy frawd Benhadad, dywedodd yntef, ewch dygwchef: felly Benhadad a ddaeth allan atto ef, ac efe a barodd iddo ddyfod i fynu i’r cerbyd.
34A a ddywedodd wrtho ef, dinasoedd y rhai a ddûg fy nhâd i oddiar dy dâd ti a roddaf trachefn, fel y gosottech heolydd it yn Namascus, fel y gosododd fy nhâd yn Samaria, a mi a’th ollyngaf drwy’r ammod felly efe a wnaeth gyfammod ag ef, ac ai gollyngodd ef.
35Yna rhyw ŵr o feibion y prophwydi a ddywedodd wrth ei gymmydog drwy air yr Arglwydd, taro fi attolwg: ond y gŵr a wrthododd ei daro ef.
36Dywedodd yntef wrtho ef, o herwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd, wele pan elech oddi wrthif y llew a’th ladd di: felly efe a aeth oddi wrtho ef, a’r llew ai cyfarfu ef, ac ai lladdodd.
37Yna efe a gafodd ŵr arall, ac a ddywedodd, taro fi attolwg: a’r gŵr ai tarawodd ef gan ei daro, ai archolli.
38Felly’r aeth y prophwyd ac a safodd o flaen y brenin ar y ffordd, ac a ymddieithrodd trwy lludw ar ei lygaid.
39A phan ddaeth y brenin heibio, yna efe a lefoddd ar y brenin, ac a ddywedodd: dy wâs a aeth i ganol y rhyfel, ac wele gŵr a aeth ymmaith yr hwn a ddugase rhyw ŵr attafi, ac a ddywedase, cadw y gŵr hwn: os gan golli y collir ef, yna y bydd dy enioes di yn lle ei enioes ef, neu ti a deli dalent o arian.
40A thra yr oedd dy wâs yn ymdroi ymma, ac accw, efe ac nid efe: a brenin Israel a ddywedodd wrtho ef, felly dy farn, ti gosodaist
41Yna efe a fryssiodd, ac a dynnodd ymmaith yr hûg oddi ar ei lygaid: a brenin Israel ai hadnabu ef, mai o’r prophwydi efe.
42Ac efe a ddywedodd wrtho ef, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, o herwydd it ollwng ymmaith o’th law di y gŵr a roddais i farw: dy enioes di fydd yn lle ei enioes ef, a’th bobl di yn lle ei bobl ef.
43Yna brenin Israel a aeth iw dŷ ei hun, yn drist, ac yn llidioc: ac a ddaeth i Samaria.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.