Diharebion 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.Y modd y mae doethineb yn gwahodd atti. 7 A’r gwatwar-wr yn gwrthod addysc. 10 Daioni ofn Duw. 13 A digywilydd-dra gwraig ddrwg.

1Doethineb a adailadodd ei thŷ, ac a naddodd ei saith gôlôfn.

2Hi a laddodd ei hanifeiliaid, hi a gymmyscodd ei gwîn, ac a huliodd ei bwrdd.

3Hi a yrrodd ei llawforynion, ac a alwodd oddi ar fannau vchel y ddinas

4Pwy bynac sydd annichellgar, deued ymma, ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd,

5Deuwch, a bwytewch o’m bara, ac o’r gwin a gymmyscais:

6Gwrthodwch ffolineb, a byddwch fyw, a rhodiwch yn ffordd deall.

7Yr hwn a geryddo watwar-wr a gaiff wradwydd, a’r hwn a feio ar y drygionus, a gaiff anaf.

8Na cherydda watwar-wr rhag iddo dy gasau, cerydda y doeth, ac efe a’th gâr di.

9Dyro i’r doeth, ac efe fydd doethach, dysc y cyfiawn, ac efe a chwanega ei ddysceidiaeth.

10Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd, a gŵybodaeth sanctaidd yw deall.

11Canys drwofi yr amlheuir dy ddyddiau, ac yr estynnir blynyddoedd dy enioes.

12Os doeth fyddi, doeth fyddi i ti dy hûn, ac os gwatwar-wr fyddi, ty di dy hun ai dygi.

13Gwraig ffôl a fydd siaradus, anghall, ac ni ŵyr ddim:

14Eithr hi a eistedd ar ddrws ei thŷ, ar faingc mewn lleoedd vchel yn y ddinas,

15I alw atti y neb a fyddant yn myned heibio, y neb a rodiant yn iniawn

16Pwy bynac sydd ehud troed ymma, a phwy bynag sydd ddisynnwyr: a hi a ddywed wrtho ef,

17Dyfroedd lledrad ydynt felus, a bara cudd sydd beraidd.

18Ni ŵyr efe mai meirw yw y rhai sydd yno, a bod ei gwahodd-wŷr hi yn nyfnder vffern.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help