Psalmau 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. x.Vtquid Domine recessisti.

1Pa ham Arglwydd y sefi o bell, yr ymguddi yn yr amseroedd mewn cyfyng-der?

2Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y dichellion a ddychymygasant.

3Canys yr annuwiol a ffrostiodd wrth ewyllys ei galon: a’r cybydd a ymfendithiodd: diystyru y mae efe yr Arglwydd.

4Yr annuwiol gan ei falchder ni chais nid Duw ei holl feddyliau ef.

5Ei ffyrdd ef ydynt flîn bôb amser, vchel dy farnedigaethau oi olwg ef: efe a chwyth yn erbyn ei holl elynnion.

6Dywedodd yn ei galon ni’m symmudir, o herwydd ni mewn dryg-fyd hyd genhedlaeth, a chenhedlaeth.

7Ei Rhuf.3.14.enau sydd yn llawn melldith, a dichel, a thwyll: tann ei dafod y mae camwedd, ac anwiredd.

8Y mae efe yn eistedd yng-hynllwynfa yr heolydd, mewn cilfacheu y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremmiant ar y tlâwd.

9Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau, bwriadu y bydd i dreisio yr tlawd: treisia efe y tlawd, gan ei dynnu iw rwyd.

10Efe a ymgystuddia, ac a ymostwng: fel y cwympo tyrfa trueniaid ym mysc ei gedyrn ef.

11Dywedodd yn ei galon, anghofiodd Duw: cuddiodd ei wyneb, ni wêl efe byth.

12Cyfot Arglwydd Dduw, dercha dy law: nac anghofia y tlodion.

13Pa ham y cabla’r annuwol Dduw? gan ddywedyd yn ei galon, nad ymofynni.

14Gwelaist canys ti a genfyddi anwiredd, a cham, i roddi a’th ddwylo dy hun: arnat ti y gedu y tlawd ti ydwyt gynnorthwy-wr yr ymddifad.

15Torr fraich yr annuwiol, a’r drygionus: cais ei ddrygioni ef, nis cei.

16Yr Arglwydd Frenin byth, ac yn dragywydd: dinistriwyd y cenhedloedd oi dîr ef.

17Arglwydd clywaist ddymuniad y tlodion, cyweiria di eu calon hwynt, gwrandawed dy glust

18I farnu yr ymddifad a’r tlawd: fel na chwanego dŷn daiarol beri ofn mwyach.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help