1Yna pennaethiaid y Lefiaid a nessasant at Eleazar yr offeiriad, ac at Iosuah fab Nun: ac at bennaethiaid llwythau meibion Israel,
2Ac a lefarasant wrthynt yn Siloh o fewn gwlâd Canaan gan ddywedyd, yr Arglwydd a Num.35.2orchymynnodd drwy law Moses roddi i ni ddinasoedd i drigo: ai meusydd pentrefol i’n hanifeiliaid.
3Felly meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid oi hetifeddiaeth wrth orchymyn yr Arglwydd: sef y dinasoedd hynny ai meusydd pen trefol.
4Pan ddaeth allan y coel-bren dros deuluoedd y Cehathiaid: yna’r oedd i feibion Aaron yr offeiriad o’r Lefiaid, o lwyth Iuda, ac o lwyth Simeon, ac o lwyth Beniamin dair dinas ar ddec wrth goel-bren.
5Ac i’r rhan arall o feibion Cehath o deuluoedd llwyth Ephraim, ac o lwyth Dan, ac o hanner llwyth Manasses ddec dinas wrth goel-bren.
6Ac i feibion Gerson o deuluoedd llwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nephthali, ac o hanner llwyth Manasses yn Basan dair dinas ar ddec wrth goel-bren.
7I feibion Merari yn ol eu teuluoedd o lwyth Ruben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Zabulon deuddec o ddinasoedd.
8Felly meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hynn, ai meusydd pentrefol: (fel y gorchymynnase’r Arglwydd drwy law Moses) wrth goel-bren.
9A hwynt a roddasant o lwyth meibion Iuda, ac o lwyth meibion Simeon, y dinasoedd hyn y rhai a henwyd erbyn henwau.
10Fel y byddent i feibion Aaron o deuluoedd y Cehathiaid, o feibion Lefi: canys iddynt hwy’r oedd y coel-bren cyntaf.
11Felly y rhoddasant iddynt gaer Arbah tad Anac (honno Hebron) ym mynydd Iuda: ai meusydd pentrefol oddi amgylch.
12Ond maes y ddinas ai phencrefydd: a roddasant i Iosua.14.14. 1.Cron.6.56Galeb fab Iephun yn etifeddiaeth iddo.
13Ac i feibion Aaron yr offeiriad y rhoddasant ddinas nodded y llofrudd, sef Hebron ai meusydd pentrefol, Libnah hefyd ai meusydd pentrefol.
14Iathir hefyd, ai meusydd pentrefol, Esihemoth hefyd ai mensydd pentrefol.
15Holon hefyd, ai meusydd pentrefol, a Dabir ai meusydd pentrefol.
16Ain Hefyd, ai meusydd pentrefol, ac Iutta ai meusydd pentrefol, a Bethsemes ai meusydd pentrefol, naw dinas o’r ddau lwyth hynny.
17Ac o lwyth Beniamin, Gibeon ai meusydd pentrefol: a Geba ai meusydd pentrefol.
18Anathoth ai meusydd pentrefol, Halmon hefyd ai meusydd pentrefol: pedair dinas.
19Holl ddinasoedd meibion Aaron yr offeiriaid dair dinas ar ddec ai meusydd pentrefol.
20A chan deuluoedd meibion Cehath y Lefiaid, y rhan arall o feibion Cehath yr oedd dinasoedd eu hetifeddiaeth hwynt o lwyth Ephraim.
21A hwynt a roddasant iddynt ddinas nodded y lleiddiad, sef Sichem ai meusydd pentrefol ym mynydd Ephraim: Gezer hefyd ai meusydd pentrefol.
22Cibsaim hefyd ai meusydd pentrefol, a Beth-Horon ai meusydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.
23Ac o lwyth Dan, Eltece ai meusydd pentrefol: Gibethon ai meusydd pentrefol.
24Aialon ai meusydd pentrefol, Gath Rimmon ai meusydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.
25Ac o hanner llwyth Manasses, Tanach ai meusydd pentrefol, Gath Rimmon hefyd ai meusydd pentrefol dwy ddinas.
26Yr holl ddinasoedd eiddo y rhan arall o deuluoedd meibion Cehath ddec ai meusydd pentrefol.
27Ac i feibion Gerson o deuluoedd y Lefiaid o hanner llwyth Manasses ddinas nodded y llofrudd, sef Golan yn Basan ai meusydd pentrefol, Beesteroth hefyd ai meusydd pentrefol dwy ddinas.
28Ac o lwyth Issachar, Cison ai meusydd pentrefol: Daberath ai meusydd pentrefol.
29Iarmuth ai meusydd pentrefol, Engannim ai meusydd pentrefol: pedair dinas.
30Ac o lwyth, Aser Misal ai meusydd pentrefol: Abdon ai meusydd pentrefol.
31Helcath ai meusydd pentrefol, Rehob ai meusydd pentrefol: pedair dinas.
32Ac o lwyth Nephthali dinas nodded y lleiddiad, sef Cedes yn Galile ai meusydd pentrefol, Hamothdor hefyd ai meusydd pentrefol, a Chartan ai meusydd pentrefol: tair dinas.
33Holl ddinasoedd y Gersoniaid yn ol eu teuluoedd: tair dinas ar ddec ai meusydd pentrefol.
34Ac i deuluoedd meibion Merari y rhan arall o’r Lefiaid o lwyth Zabulon Iocneam ai meusydd pentrefol: Cartah ai meusydd pentrefol.
35Dimnah ai meusydd pentrefol, Nahalal ai meusydd pentrefol: pedair dinas.
36Ac o lwyth Ruben, Beser ai meusydd pentrefol: ac Iahaza ai meusydd pentrefol.
37Cedmoth ai meusydd pentrefol, Mephaah ai meusydd pentrefol: pedair dinas.
38Ac o lwyth Gad dinas noddfa y llofrudd, sef Ramoth Gilead ai meusydd pentrefol, Mahanaim hefyd, ai meusydd pentrefol.
39Hesbon ai meusydd pentrefol, Iahazer ai meusydd pentrefol: pedair dinas oll.
40Holl ddinasoedd Meibion Merari yn ôl eu teuluoedd ([sef] y rhan arall o deuluoedd y Lefiaid) oeddynt wrth eu coel-bren hwynt ddeuddeng-nhinas.
41Holl ddinasoedd y Lefiaid o fewn meddiant meibion Israel wyth dinas a deugain ai meusydd pentrefol.
42Y dinasoedd hynoeddynt bob vn ai meusydd pentrefol oi hamgylch: felly i’r holl ddinasoedd hynny.
43Felly’r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlâd yr hon a dyngodd efe ar rhoddi wrth eu tadau hwynt: a hwynt ai gorescynnasant hi, ac a wladychasant ynddi.
44Yr Arglwydd hefyd a roddodd lonyddwch iddynt hwy o amgylch yn ôl yr hyn oll a dyngase efe wrth eu tadau hwynt: ac ni safodd neb yn eu hwyneb hwynt oi holl elynnion, ei holl elynnion a roddodd yr Arglwydd yn eu dwylo hwynt.
45Ni phallodd dim o’r holl bethau da y rhai a lefarase’r Arglwydd am dŷ Israel: Iosua.23.14.[eithr] daeth y cwbl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.