1AC yn ôl y saith niwrnod y gwelais freuddwyd liw nôs.
2Ac wele, cododd gwynt o’r môr, ac a gynhyrfodd yr holl donnau.
3Ac edrychais, wele, yr oedd gŵr mawr gyd â miloedd o’r nefoedd: a phan drodd efe ei wyneb i edrych, yr holl bethau a’r a welid tano ef a grynodd.
4A phan aeth y lleferydd oi enau ef, pawb a’r ai clywodd a loscasant, fel y palle ’r ddaiar pan gyffyrdde y tân â hi.
5Wedi hyn yr edrychais, ac wele, ymgasclodd yng-hyd lu o bobl allan o rifedi o bedwar man byd, i ymladd yn erbyn y gŵr a ddaethe o’r môr.
6Ac edrychais, ac wele, efe a gerfiodd iddo ei hun fynydd mawr, ac efe a ehedodd arno.
7Ond mi a geisiais weled y wlâd neu yr lle, o’r hwn y tynnase efe y mynydd, ac ni allwn ei weled ef.
8A gwelais yn ôl hynn, pawb a’r a ddaeth i ymladd yn ei erbyn ef, yn ofni yn fawr, ac er hynny hwy a lefasent ymladd.
9Er hynny pan welodd efe greulondeb a nerth y bobl a ddaethe yn ei erbyn ef, ni wnaeth efe na chodi llaw, na dal cleddyf nac arf arall:
10Ond yn vnic, (hyd y gwelwn i) efe a chwythodd oi enau fel fflam o dân, ac oi wefusau awel y fflam, ac oi dafod efe a daflodd wreichion a themhestl.
11Ac yr oeddynt eu gyd wedi cymmyscu: y tân a’r gwynt, y fflam a’r demhestl fawr: ac a ddescynnasant yn ddisymmwth a’r y bobl oedd yn barod i ymladd, ac ai lloscodd hwynt eu gyd oll, hyd fel na welid o’r llu aneirif ddim ond llwch a sawyr mwg: pan welais hyn, mi a ofnais.
12Yn ôl hynny y gwelais yr vn gŵr yn dyfod i lawr o’r mynydd, ac yn galw atto bobl lonydd eraill.
13A llawer o bobl a ddaethant atto ef, rhai oedd yn llawen, rhai yn drist, rhai yn rhwym, ac eraill a ddugasant o’r pethau a offrymmasid: yna yr oeddwn glaf gan ofn mawr, a deffroais, a dywedais,
14Dangosaist i’th wâs y rhyfeddodau hyn o’r dechreuad, a chyfrifaist fi yn deilwng fel y derbynit fyng-weddi:
15Dangos i mi etto ddeall y breuddwyd hwn.
16Canys hyn yr ydwyf yn ei deall, gwae ’r neb a adawer y pryd hynny: a mwy gwae i’r rhai ni’s gadawer yn ôl.
17Canys y rhai ni adawyd, oeddynt mewn tristwch.
18Yn awr yr ydwyf yn deall y pethau a roddwyd i gadw erbyn y dyddiau diwethaf, y rhai a ddigwydd iddynt, ac i’r sawl a adawer yn ôl.
19Am hynny y daethant i berigl mawr, ac i angen mawr, fel y dengys y breuddwydion hyn.
20Etto haws i’r neb a fyddo mewn perigl ddyfod i hyn, a gweled o’r blaen y peth sydd i ddyfod yn ôl, nag a fydd iddo ef fyned allan o’r byd hwn fel cwmwl: yna efe a’m hattebodd gan ddywedyd,
21Deongliad y weledigaeth a ddangosaf i ti, ac agoraf i ti y peth a ddymunaist.
22Lle y soniaist am y rhai sy wedi eu gadel yn ôl, hyn yw ’r deongliad.
23Yr hwn a ddygo berigl y pryd hwnnw, ai cadwodd ei hun: a’r sawl a syrthiodd mewn perigl, yw y rhai sy a gweithredoedd, a ffydd canddynt i’r Galluog.
24Am hynny gwybydd hyn, fod y rhai a adawer yn ôl yn ddedwyddach na’r rhai a fuant feirw.
25Hyn yw deall y weledigaeth, lle y gwelaist ŵr yn dyfod i fynu o ddyfnder y môr,
26Hwnnw yw ’r hwn a gadwodd y Duw goruchaf yn hîr, yr hwn drwyddo ei hun a wareda ei greaduriaid, ac efe a lywodraetha y rhai a adawer yn ôl.
27A lle y gwelaist yn dyfod oi safn ef fel chwa o wynt, tân a themhestl:
28Ac am na chododd efe na chleddyf nag arf, ond drwy ei ruthr efe a ddifethodd yr holl lu a ddaeth i ymladd ag ef: hynny sydd yn arwyddo,
29Fôd y dyddiau yn dyfod, pan ddechreuo ’r Goruchaf waredu y rhai sy ar y ddaiar:
30Ac mewn dieithrwch meddwl y daw efe ar vchaf y rhai a bresswyliant ar y ddaiar.
31A’r naill a ymladd a’r llall, a’r naill ddinas yn erbyn ei gilydd, a’r naill le yn erbyn ei gilydd, a’r naill bobl yn erbyn y llall, a’r naill deyrnas yn erbyn y llall.
32A phan ddelo hyn i ben, yna y daw ’r arwyddion a ddangosais i ti o’r blaen: yna y cefir gweled fy mâb yr hwn a welaist yn dringo i fynu fel gŵr.
33A phan glywo’r holl bobl ei leferydd ef, pawb yn eu gwlâd eu hun a beidiant a rhyfela yn erbyn ei gilydd:
34A llu aneirif a gesclir yng-hyd, fel rhai yn ewyllyscar i ddyfod, ac iw orchyfygu ef drwy ymladd.
35Ond efe a saif ar ben mynydd Sion.
36A Sion a ddaw, ac ai dangosir i bawb, wedi ei thrwsio ai hadeiladu, fel y gwelaist y bryn wedi ei gerfio allan heb ddwylo.
37A hwn (fy mâb i) a gerydda y cenhedloedd hynny, y rhai a syrthiasant i’r demhestl, am eu hanwireddau ai drwg feddyliau,
38Ac i’r poenau fel fflamm, â’r rhai y cosbir hwynt: ac heb boen y difetha efe hwynt, hynny yw, drwy ’r gyfraith a gyffelybir i dân.
39A lle y gwelaist efe yn casclu pobl lonydd eraill atto,
40Y rhai hynny yw ’r dêc llwyth, y rhai a ddygwyd ymmaith oi gwlâd eu hun yn amser Oseas y brenin, y rhai a ddaliodd Salmanasar brenin Assyria yn garcharwŷr, ac ai dug hwynt dros yr afon, ac felly y daethant i wlâd arall.
41Ond hwy a gymmerasant y cyngor hyn yn eu plith eu hunain, i adel llu ’r cenhedloedd, a myned ymmaith i wlâd bellach, lle ni thrigase neb erioed.
42Fel y gallent gadw yno eu cyfraith, yr hon ni’s cadwasent er ioed yn eu gwlad eu hunain.
43Ac felly yr aethant trwy lwybrau cyfyng afon Euphrates.
44Canys y Goruchaf a ddangosodd yna iddynt arwyddion, Iosua. 3.15.ac a attaliodd yr afon nes iddynt fyned trwodd.
45Canys yr ydoedd ffordd fawr drwy ’r wlâd o daith blwyddyn a hanner, a’r wlâd honno a elwir Arsareth.
46Yna yr arhosasant yno hyd yr amser diwethaf: a phan ddelant ymmaith trachefn,
47Y Goruchaf a ettyl trachefn aberoedd y ffrŵd, fel y gallant fyned trwodd: am hynny y gwelaist y lliaws mewn heddwch.
48Ond y rhai a adawyd yn ôl o’r bobl yw y rhai a gafwyd o fewn fy nheyrnas mau fi.
49Yn awr pan ddifetho efe y lliaws o’r cenhedloedd a ymgasclodd yng-hŷd, efe a amddeffyn y bobl sydd yn ôl:
50Ac yna y dengys efe iddynt ryfeddodau mawrion.
51Yna y dywedais innef, ô Arglwydd, Arglwydd, dangos i mi hyn: pa ham y gwelais y gŵr yn dyfod o ddyfnder y môr:
52Ac efe a ddywedodd wrthif, fel na’s gelli chwilio nâ gŵybod y pethau sydd yn nyfnder y môr: felly ni’s gall neb ar y ddaiar weled fy mâb i, na’r rhai sy gyd ag ef, ond lliw dydd.
53Hyn yw deongliad y breuddwyd a welaist ti, trwy ’r hwn yn vnic y gweli.
54Canys gwrthodaist dy gyfraith dy hun, a buost ddyfal i geisio yr eiddo fi.
55Dy amser a fwriaist mewn doethineb, a gelwaist ddeall yn fam i ti:
56Ac am hynny y dangosais i ti dryssor y Goruchaf, ym mhen y tridiau etto yr ymddiddanaf i mwy â thi, ie pethau aruthr a rhyfedd a ddangosaf i ti.
57Yna yr euthum allan i’r maes, gan roddi gogoniant a diolch mawr i’r Goruchaf Dduw am y rhyfeddodau a wnaethe efe o amser bwy gilydd,
58Ac am ei fod efe yn llywodraethu pob amser, a phob peth a’r a ddigwydd yn eu hamseroedd: ac yno yr eisteddais dri-diau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.